Gweddarllediad: European Union Anti-Money Laundering Authority - a new force in financial crime regulation
Mae'r frwydr fyd-eang yn erbyn gwyngalchu arian ar ddechrau cyfnod newydd gyda sefydliad Awdurdod Gwrth-Wyngalchu Arian yr Undeb Ewropeaidd (AMLA), rheoleiddiwr sydd â phwerau goruchwylio a gorfodi uniongyrchol
Mae'r sesiwn yn cynnwys Giampiero Aversa, Pennaeth Byd-eang Gwrth-drosedd Ariannol y China Construction Bank Europe a deiliad MBA Trosedd a Chydymffurfiaeth Ariannol Prifysgol Bangor, a fydd yn rhannu sylwadau am un o'r datblygiadau mwyaf arwyddocaol ym maes rheoleiddio troseddau ariannol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Gan ddefnyddio ei brofiad helaeth yn y maes, mae Giampiero yn trafod:
- Rôl a chyfrifoldebau AMLA
- Effaith y rheoleiddiwr newydd ar sefydliadau ariannol
- Ystyriaethau allweddol ar gyfer cydymffurfiaeth a llywodraethu
- Dyfodol goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian yn Ewrop
- Mewnwelediadau ymarferol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes troseddau ariannol
Daliwch i fynu ar gweddarllediad adran Addysg Weithredol yn Ysgol Fusnes Albert Gubay sy'n trafod effaith yr AMLA ar sefydliadau ariannol sy'n gweithredu ledled Ewrop a thu hwnt.
Mae'r gyfres "Meet the Specialist" yn rhan o raglen Addysg Weithredol Ysgol Fusnes Albert Gubay, sy'n cysylltu arweinwyr, gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr academaidd i drafod rhai o'r heriau a'r cyfleoedd mwyaf arwyddocaol sy'n wynebu sefydliadau heddiw.