58Թ

Fy ngwlad:
""

Graddau Ffilm a'r Cyfryngau Israddedig

Mae astudio Ffilm a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor yn golygu ymuno ag amgylchedd creadigol a chefnogol mewn Prifysgol sydd wedi ei rhestru'n 1af yn y DU ar gyfer Cynhyrchu Ffilm (Unifresher 2027). Mae ein staff addysgu yn dod â phrofiad go iawn o'r diwydiant i'r ystafell ddosbarth, gan helpu myfyrwyr i feithrin sgiliau ymarferol, hyder ac angerdd gwirioneddol dros adrodd straeon drwy ffilm a'r cyfryngau.

Ar y dudalen yma:
Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Ffilm a'r cyfryngau

Lleoedd Ar Gael Ar Gyfer Medi 2026!

Barod i ymuno â ni yn yr Hydref? Mae lleoedd ar gael ar gyrsiau yn y maes pwnc yma yn cychwyn ym Medi 2026.

Efo Canlyniadau? Gwnewch Gais Nawr Am Gwrs Clirio Disgwyl Am Ganlyniadau? Cofresrwch Ddiddordeb Mewn Clirio

Darganfyddwch y cwrs Ffilm a'r Cyfryngau i chi

Celfyddydau Creadigol - BA (Anrh)
Cyfunwch ffilm, y cyfryngau a newyddiaduraeth, newyddiaduraeth brint; cyfryngau digidol; theori ffilm, ac astudiaethau diwylliannol. Lansiwch yrfa yn y diwydiannau creadigol.
Cod UCAS
WPQ3
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cerddoriaeth a Ffilm - BA (Anrh)
Archwiliwch y cysylltiadau rhwng cerddoriaeth a ffilm. Gallwch lunio eich cwrs gradd yn ôl eich diddordebau a’ch cryfderau chi.
Cod UCAS
W311
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau - BA (Anrh)
Cyfunwch y Gymraeg â theatr a’r cyfryngau a meistrolwch sgiliau perfformio, dweud stori a sgiliau digidol. Dilynwch yrfa yn y diwydiannau theatr, ffilm a chreadigol.
Cod UCAS
QWM5
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Ffilm a Drama - BA (Anrh)
Mynegwch eich hun ac astudiwch gwrs sy'n cyfuno ffilm a drama. Crëwch gynyrchiadau a pherfformiadau gwreiddiol a lansio gyrfaoedd yn y celfyddydau.
Cod UCAS
P43W
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Ffilm a Llenyddiaeth Saesneg - BA (Anrh)
Cyfle i ddatblygu sgiliau a thechnegau i gynhyrchu deunydd clywedol yn ogystal â sgiliau allweddol hanfodol yn llawer o'r diwydiannau creadigol.
Cod UCAS
33PQ
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Ffilm a'r Cyfryngau - BA (Anrh)
Cod UCAS
P340
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Ffilm a'r Cyfryngau (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BA (Anrh)
Cod UCAS
P343
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Ieithoedd Modern a Ffilm - BA (Anrh)
Enillwch sgiliau ymarferol, ieithyddol a throsglwyddadwy. Dewch yn ddinesydd byd-eang amlieithog a chyflogadwy.
Cod UCAS
R818
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Y Cyfryngau ac Ysgrifennu Creadigol - BA (Anrh)
Cwrss gradd i gyfuno sgiliau ysgrifennu â chynhyrchu i’r cyfryngau, yn cynnwys teledu, radio, newyddiaduraeth brint a digidol, ac ymarfer y cyfryngau.
Cod UCAS
WP38
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Y Cyfryngau a Cherddoriaeth - BA (Anrh)
Tyfwch fel cerddor wrth fynd ar drywydd pynciau sy'n canolbwyntio ar y cyfryngau, gan gynnwys teledu, radio, print a newyddiaduraeth ddigidol.
Cod UCAS
P323
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Y Cyfryngau a Drama - BA (Anrh)
Datgelwch hud y cyfryngau a drama. Perfformiwch, cynhyrchwch a dadansoddwch straeon a ffilm. Hogwch eich meddwl beirniadol ar gyfer gyrfaoedd amrywiol ym maes y theatr, ffilm ac amlgyfrwng.
Cod UCAS
P31W
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg - BA (Anrh)
Datblygu sgiliau a thechnegau i gynhyrchu deunydd clywedol yn ogystal â sgiliau allweddol hanfodol yn llawer o'r diwydiannau creadigol.
Cod UCAS
P302
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
SCROLL
SCROLL

O Brifysgol Bangor i Fyd Creadigol House of the Dragon HBO

Yn ystod ei gyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Bangor, cafodd Kieran Samuel, a raddiodd mewn Ffilm a'r Cyfryngau, ymgymryd â lleoliad â thâl ar House of the Dragon ar HBO.

Treuliodd Kieran chwe wythnos yn gweithio gydag adran goleuo’r cynhyrchiad, gan ennill profiad uniongyrchol o gynhyrchu teledu proffesiynol a dysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant ar y set.

Cafodd ei leoliad ei sicrhau trwy bartneriaethau Prifysgol Bangor â Chynghrair Sgrin Cymru fel rhan o fenter Cymru Greadigol, sy’n helpu myfyrwyr i sicrhau mynediad at gyfleoedd gwerthfawr yn y diwydiant gyda chyflogwyr blaenllaw.

Byddi’n gwneud mwy na dim ond dysgu am brofiad diwydiant ym Mhrifysgol Bangor. Byddi’n elwa ar y canlynol;

   Partneriaethau diwydiant 

   Dysgu ymarferol, sy'n canolbwyntio ar yrfa 

   Cyfleoedd rhwydweithio proffesiynol 

Archwilio Ffilm a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor i weld lle all dy radd dy arwain.u

Cefais brofiad anhygoel ar set House of the Dragon fel hyfforddai goleuo. Dysgais sut i beintio gyda goleuadau.

Kieran Samuel,  Cyn-fyfyriwr Ffilm a'r Cyfryngau

Dyma'r lle…

I ddod o hyd i dy lais. I ddatblygu dy grefft. I ddod â syniadau newydd yn fyw.

Ym Mhrifysgol Bangor, bydd dy greadigrwydd yn dod yn fyw. Byddi’n dysgu gan academyddion profiadol a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, yn archwilio dy syniadau mewn cyfleusterau arbenigol, ac yn ymuno â chymuned gefnogol.

P'un a wyt yn perfformio, yn cynhyrchu neu'n ymchwilio, byddi’n ennill y sgiliau, y profiad a'r hyder i gymryd dy gam nesaf.

Beth sy'n bosibl pan fydd creadigrwydd yn cwrdd â chyfle.

 

Thumbnail Astudiwch radd yn y Celfyddydau Creadigol ym Mhrifysgol Bangor
Hannah Sitting on steps smiling at the camera

Hannah Grimston Dod o Hyd i Le i Greu

Pam wnest ti ddewis astudio ym Mhrifysgol Bangor?

"Roedd y cwrs mor wahanol i'r cyrsiau eraill oedd yn cael eu cynnig; doeddwn i ddim yn cael fy nghyfyngu i un alwedigaeth. Pan ddes i’r diwrnod agored, cefais fy syfrdanu gan yr amgylchedd ac roeddwn yn gwybod mai dyma'r lle iawn i mi."

Ym mha ffordd y gwnaeth astudio ym Mhrifysgol Bangor wella dy gyflogadwyedd?

"Oherwydd ei bod yn brifysgol eithaf bach, roeddwn yn teimlo fy mod yn gallu cymryd rhan mewn nifer o brofiadau sydd wedi rhoi hwb i fy CV, gan gynnwys nifer o ffilmiau wedi’u creu gan gymdeithasau, interniaeth gwaith gyda Santander a chreu cynnwys ar gyfer Sw Mynydd Cymru."

Mewn brawddeg, beth oedd dy hoff beth am astudio ym Mhrifysgol Bangor?

"Y rhyddid creadigol a'r golygfeydd prydferth."

Graddiodd Hannah yn 2019 gyda BA mewn Astudiaethau Creadigol ac mae hi bellach yn Athrawes Saesneg mewn Ysgol Uwchradd.

 

Codi Cwr y Llen ar Stiwdio Ffilm a Theledu Weithredol

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, cei gyfleoedd i gysylltu â'r diwydiant drwy ein partneriaeth â Stiwdios Ffilm Aria. Byddi’n mentro y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth i ymweld â set go iawn i ddysgu sut mae timau creadigol yn dod â straeon yn fyw, ac i ennill cipolwg ar y daith o'r sgript i'r sgrin.

Cei fynd ar daith rithwir o set Rownd a Rownd a chael cipolwg y tu ôl i'r llenni.

Y Dderbynfa

Croeso i Stiwdios Aria yn Llangefni. Dyma’r dderbynfa foethus gyda’r murlun trawiadol o du allan yr adeilad a’r mynyddoedd yn y cefndir.

Y Stiwdio

Dyma ni yn stiwdio 2 - ble mae setiau tai rhai o gymeriadau'r gyfres ‘Rownd a Rownd’. Fe welwch fod y setiau gefn yn gefn er mwyn gwneud y mwyaf o’r gofod.

Tŷ Dani

Rydym yn awr yn Nhŷ Dani, un o gymeriadau hir mwyaf poblogaidd y gyfres.  Yma mae cegin a lolfa.

Sylwch mai dim ond hanner cyntedd sydd gan Dani – ni all y camera na chithau weld rownd y gornel!  Mae drws ffrynt y tŷ ar y stryd ym Mhorthaethwy.

Tŷ Siân

Dyma’r cyntedd yn nhŷ Siân. Sylwch nad ydi’r grisiau yn arwain i unman gan nad oes llofftydd yma. Mae hwn yn replica o dŷ go iawn yn Llandegfan - roedd yn rhaid ail greu'r gegin yn union gan nad oedd modd ffilmio ar leoliad oherwydd y pandemig.

Fflat Jason

Fflat Jason ydi hwn ac yn y stori mae’r lleoliad uwchben y Tŷ Pizza sydd ar set y gyfres ym Mhorthaethwy.

Siop yr Iard

Dyma un o’r setiau mwyaf y stiwdio. Unwaith eto mae tu allan yr iard gychod i lawr wrth y Fenai ym Mhorthaethwy ond ail grëwyd y tu mewn er mwyn hwyluso'r ffilmio gan fod angen gymaint o brops ac ati i lenwi’r siop.

Tŷ Arthur

Wrth i ni ymweld â thŷ Arthur fe welwch weddill y setiau yn glir. Mae wal ar goll yma er mwyn creu gofod i’r criw ffilmio weithio gan fod y set ei hun yn gymharol fychan.

Ac o’r cyntedd eto fe welwch pa mor agos ydi’r setiau at ei gilydd yn y stiwdio.

Tŷ’r K’s

Dyma dŷ’r Ken a Kay. Mae’r tŷ go iawn ar y lot ym Mhorthaethwy ond roedd angen mwy o le oherwydd covid felly adeiladwyd y set yma i fod ychydig yn fwy na’r tŷ gwreiddiol er na fyddech chi yn sylwi hynny ar gamera.

O’r cyntedd fe gawn gip olwg i mewn i’r gegin hefyd.

Tŷ Dylan a Sophie

Yn sicr dyma set grandiaf  ’Rownd a Rownd’ - tŷ moethus Dylan a Sophie. Fe gafodd yr Adran Gelf hwyl yn cynllunio hwn.

A dyma’r cyntedd, eto fe welwch nad yw’r grisiau yn arwain i unman a chewch gip olwg o’r lolfa.

Y Galeri

Yng nghornel o’r stiwdio mae ardal y galeri. Yma bydd y cyfarwyddwr a a gweddill y criw yn eistedd yn ystod y ffilmio. Byddant yn gwylio’r digwydd ar y sgriniau ac yn mynd yn ôl ag ymlaen ar y set yn ôl yr angen.

Gwisgoedd

Tu allan i’r stiwdio mae’r adran wisgoedd ac yma mae holl wisgoedd y cymeriadau yn cael eu cadw, eu didoli a’u golchi.  Yma bydd yr actorion yn dod i mewn i mewn i’w gwisg cymeriad.

Colur

Ar ôl newid i’w wisg bydd pob actor yn cael colur. Yr adran golur sydd hefyd yn gyfrifol am dorri a steilio gwalltiau a chreu effeithiau arbennig megis briwiau a chleisiau.

Dilynwch ni ar Instagram

Ein Hymchwil o fewn Ffilm a'r Cyfryngau

Mae'r Ysgol yn rhyngddisgyblaethol, yn gydweithredol, yn greadigol ac yn feirniadol.  

⁠Cryfderau/Arbenigeddau'r Ymchwil

Ein cryfderau allweddol yw gwaith y staff yn y diwylliant digidol; y cyfryngau a chyfathrebu perswadiol; a theori ac ymarfer creadigol (ymarfer-fel-ymchwil).

Mae gennym berthynas arbennig o gryf yn sector diwydiannau'r cyfryngau a chreadigol yng Nghymru, ac rydym hefyd yn ymwneud â'r economi creadigol yn fwy cyffredinol, yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae hyn yn cyfrannu at nifer o agweddau o'n gweithgareddau ymchwil, ac yn gymorth i hyrwyddo ein gwaith hefyd. Yn gymunedol, rydym yn cymryd rhan mewn projectau a datblygiadau'n rheolaidd. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i'r myfyrwyr, ac mae hefyd yn gymorth i gynyddu effaith gyffredinol ein gweithgareddau a chodi ymwybyddiaeth amdanynt. 

Digwyddiadau Ymchwil

Mae gennym ddiwylliant ymchwil bywiog a chyfeillgar.  ⁠Mae ein cyfres ymchwil wythnosol yn cynnwys cydweithwyr o Fangor, myfyrwyr ôl-radd, ac ymchwilwyr ac ymarferwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt, mewn awyrgylch cefnogol, os beirniadol.  Rydym hefyd yn gwahodd gwesteion arbennig, ysgolheigion ar ymweliad ac eraill i roi cyflwyniadau ar eu gwaith ymchwil a'u hymarfer.