Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae Ffisioleg a Phathoffisioleg yn fodiwl 20 credyd ar Lefel 7 a gynigir fel micro-gymhwyster annibynnol. Caiff ei gyflwyno’n rhan-amser drwy ddysgu cyfunol. Mae'r modiwl yn datblygu gwybodaeth am anatomeg, ffisioleg a phathoffisioleg i gefnogi ymarfer clinigol uwch, gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a rhagnodi.
Ar Gyfer pwy mae'r Micro-gymhwyster hwn?
Mae’r micro-gymhwyster hwn wedi’i anelu at weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, gan gynnwys nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, parafeddygon a fferyllwyr, sy’n gweithio mewn rôl ymarfer uwch neu’n datblygu tuag at rôl o’r fath.
Pam Astudio'r Micro-gymhwyster hwn?
Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o swyddogaeth arferol systemau organau, sut mae’r corff yn addasu ac yn cydadfer, a’r prosesau patholegol sy’n cyfrannu at glefydau. Gall y wybodaeth yma eich helpu i wneud penderfyniadau clinigol uwch ac i ddatblygu eich ymarfer rhagnodi.
Sut Caiff y Micro-gymhwyster hwn ei Gyflwyno?
Caiff y modiwl ei gyflwyno’n rhan-amser drwy ddysgu cyfunol dros 14 sesiwn ar ddydd Mercher. Fel arfer, cynhelir y sesiynau rhwng 13:30 a 16:00 ar gampws Bangor, gyda chymorth adnoddau dysgu ar-lein ac astudiaeth annibynnol dan arweiniad.
Mae sesiynau wedi’u trefnu ar gyfer y dyddiadau canlynol:
- Dydd Mercher 23 Medi 2026
- Dydd Mercher 30 Medi 2026
- Dydd Mercher 7 Hydref 2026
- Dydd Mercher 14 Hydref 2026
- Dydd Mercher 21 Hydref 2026
- Dydd Mercher 28 Hydref 2026
- Dydd Mercher 4 Tachwedd 2026
- Dydd Mercher 11 Tachwedd 2026
- Dydd Mercher 18 Tachwedd 2026
- Dydd Mercher 25 Tachwedd 2026
- Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2026
- Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2026
- Dydd Mercher 13 Ionawr 2027
- Dydd Mercher 20 Ionawr 2027 – asesiad
Neilltuir un o’r sesiynau a drefnwyd rhwng 23 Medi a 9 Rhagfyr 2026 ar gyfer dysgu hunangyfeiriedig.
Ni fydd angen i chi ddod i’r campws ar y dyddiad hwnnw.
Tiwtor
Sangeeta Chandrashekar
Mae Sangeeta Chandrashekar yn ffisiotherapydd cofrestredig a chwblhaodd ei PhD mewn Ffisioleg Feddygol yn 2022. Mae’n addysgu anatomeg, ffisioleg a phathoffisioleg ar draws rhaglenni gofal iechyd ôl-raddedig ac mae’n aelod gweithgar o The Physiological Society. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gymhlethdodau diabetes, ymwrthedd i inswlin a straen ocsidiol.
Cynnwys y Cwrs
- Anatomeg arwynebol, bioleg celloedd, homeostasis ac adrannau hylif y corff.
- Swyddogaeth arferol y systemau cardiofasgwlaidd, resbiradol, arennol, gastroberfeddol, nerfol ac endocrinaidd, a’u rôl mewn homeostasis.
- Addasiad, ymatebion meinweoedd a’r prif brosesau patholegol.
- Pathoffisioleg clefydau pwysig sy’n effeithio ar y systemau cardiofasgwlaidd, resbiradol, arennol, gastroberfeddol, nerfol ac endocrinaidd.
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, byddwch yn gallu:
- gwerthuso’n feirniadol wybodaeth a dealltwriaeth o anatomeg a ffisioleg, ac egwyddorion sylfaenol clefydau a all effeithio ar y corff dynol drwy gydol oes;
- dangos eich bod yn gallu cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o swyddogaeth systemau organau a rhagweld newidiadau cydadferol; a
- dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o anatomeg, ffisioleg a phathoffisioleg drwy gydol oes i lywio gwaith gwneud penderfyniadau uwch ym maes gofal clinigol.
Cynhelir yr asesiad ddydd Mercher 20 Ionawr 2027. Caiff y modiwl ei asesu drwy arholiad sy’n cynnwys cwestiynau amlddewis a chwestiynau ateb byr. Mae’r arholiad yn werth 100% o farc y modiwl.
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fod yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n darparu gofal uniongyrchol i gleifion ac sydd wedi’u cofrestru â chorff rheoleiddio proffesiynol yn y DU. Mae’r modiwl yn arbennig o addas i weithwyr proffesiynol cofrestredig sy’n gweithio mewn rôl ymarfer uwch neu’n datblygu tuag at rôl o’r fath.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio ol-raddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Ffisioleg a Phathoffisioleg : y cod yw NHS 4213. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol