Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r gweithdy deuddydd hwn ar gyfer athrawon ymwybyddiaeth ofalgar sy'n dymuno dysgu mwy am grwpiau a sut i gefnogi manteision mawr gwaith grŵp yng nghyd-destun ymwybyddiaeth ofalgar. Mae'r model hyfforddi yn seiliedig ar Fodel Grŵp Addysgu Ymwybyddiaeth Ofalgar Tu Chwith Allan (IOG) (Bartley & Griffith, 2022)
Mae llawer ohonom ni wedi dod i'r gwaith hwn gyda chefndir mewn gwaith un-i-un. Bydd gan y sgiliau rydym ni wedi'u caffael lawer o fanteision uniongyrchol i'r ffordd rydym ni’n dysgu ymwybyddiaeth ofalgar. Fodd bynnag, efallai y cawn ein bod yn parhau i ddysgu mewn dull un-i-un, er mewn grŵp.
Byddwn yn archwilio sut i ddod â’r dimensiwn grŵp hwn i bob agwedd ar ein gwaith o ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar – gan gynnwys y broses gyfeirio ac asesu; arwain arferion; arwain ymholiadau; a hwyluso ymarferion a thrafodaethau grŵp. Wrth wneud hyn, byddwn yn dysgu sut i fod yn ymwybodol o’r tri dimensiwn yn y grŵp: dimensiwn fi fy hun fel athro neu athrawes; dimensiwn y cyfranogwr unigol; a dimensiwn y grŵp cyfan.
Byddwn yn archwilio gwahanol gamau'r grŵp – sef ffurfio, cynnal, a dod â'r grŵp i ben – a sut orau allwn ni fel arweinwyr grŵp gefnogi arferion dysgu ein cyfranogwyr yn y cyd-destun grŵp hwn.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer athrawon ymwybyddiaeth ofalgar sydd â phrofiad blaenorol o ddysgu ymyriadau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar (MBIs) mewn lleoliadau grŵp. Fe'i bwriedir ar gyfer y rhai sydd wedi cwblhau cwrs MBSR neu MBCT wyth wythnos, sydd â phractis ymwybyddiaeth ofalgar personol, ac sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant athrawon sylfaenol, megis hyfforddiant Hanfodion y Rhwydwaith Ymwybyddiaeth Ofalgar neu'r hyn sy'n cyfateb iddo.
Dylai cyfranogwyr fod â rhywfaint o brofiad o gyflwyno ymyriadau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar ar ddull grŵp a bod â diddordeb gweithio'n fwy medrus gyda grwpiau. Mae'r cwrs yn arbennig o addas i'r rhai sy'n ceisio gwella eu sgiliau hwyluso gan ddefnyddio'r Inside Out Group Model (Bartley & Griffith, 2022), sy'n waith ddarllen paratoadol a argymhellir.
Pam astudio’r cwrs?
- dysgu sut i hwyluso’ch grwpiau fel eu bod yn ddiogel ac yn gynhwysol
- meithrin presenoldeb addysgu corfforedig a hyddysg
- archwilio ffyrdd o arwain, cynnal ac ymwneud â'r broses o addysgu grwpiau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar fel y gall y rhai sydd ar ein cwrs wireddu'r potensial dysgu sylweddol sydd gan waith grŵp i’w gynnig.
- canfod ffyrdd o ddatrys rhai o'r heriau cyffredin wrth arwain grwpiau, gan gynnwys rheoli: cyfranogwr sy'n tra-arglwyddiaethu; rhywun sy'n cyrraedd yn hwyr yn gyson; rhywun sy'n agored amheus; a/neu gyfranogwr sy'n dweud ychydig iawn
- ystyried y gwahanol ddulliau sy'n gysylltiedig â dysgu grwpiau gwahanol iawn eu maint.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Caiff y cwrs deuddydd hwn ei gyflwyno ar-lein ar 7-8 Ebrill 2027, rhwng 9.30am a 5.30pm.
Tiwtor
Dr Bridgette O'Neill
Mae Bridgette O’Neill, DClinPsych, yn uwch-ddarlithydd gyda Chanolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor. Mae Bridgette wedi addysgu dulliau sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar mewn gwasanaethau iechyd meddwl y GIG ar gyfer staff a chleientiaid ers 2002. Mae’n addysgu ac yn hyfforddi’n rhyngwladol ym maes Lleihau Straen Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar, Therapi Gwybyddol Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar, a Byw’n Dosturiol Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar. Mae ei diddordebau ymchwil ac ysgolheictod yn cynnwys potensial dulliau sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar a thosturi mewn materion ‘mwy na’r hunan’ ac ymddygiad o blaid cymdeithas, yn ogystal â rôl encil mewn addysgu sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar.
Cost y Cwrs
Y ffi ar gyfer Ebrill 2027 fydd £377.00 (yn cynnwys TAW).
Gofynion Mynediad
- profiad personol o gwrs wyth wythnos MBCT neu MBSR
- yn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn bersonol ers tro byd
- wedi dilyn hyfforddiant Essentials y Mindfulness Network neu hyfforddiant cyfatebol
- bod â rhywfaint o brofiad o ddysgu Ymyriadau/Cyrsiau ar sail Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn grwpiau.
Darllen a argymhellir - Bartley, T. & Griffith, G. (2022). Teaching Mindfulness-Based Groups: The Inside Out Group Model. Pavilion Publications
Gwneud Cais
Archebwch eich lle
I archebu a thalu am eich lle ar y cwrs hwn, defnyddiwch y ddolen isod.
Byddwch yn cael eich cyfeirio at siop ar-lein Prifysgol Bangor, lle gallwch gwblhau eich archeb a’ch taliad yn ddiogel.