Ynglšn ââr Cwrs Yma
Maeâr Llwybr Hyfforddiant Proffesiynol Athro ac Asesydd Arbenigol wediâi gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes addysg sydd am ddatblygu gwybodaeth arbenigol a sgiliau ymarferol i gefnogi ac asesu dysgwyr ag anawsterau llythrennedd a dyslecsia/Anawsterau Dysgu Penodol.
Maeâr llwybr yn cynnwys tri chwrs datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) asesedig, nad ydynt yn cynnwys credydau academaidd, a ddarperir gan Brifysgol Bangor drwy Ganolfan Dyslecsia Miles. Gellir dilyn y cyrsiauân unigol hefyd, yn amodol ar eu gofynion mynediad.
Nid ywâr cyrsiauân cynnwys credydau academaidd Prifysgol Bangor ac nid yw eu cwblhauân llwyddiannus yn arwain at gymhwyster academaidd gan Brifysgol Bangor.
Yn amodol ar ofynion y sefydliad proffesiynol perthnasol, bydd cwblhauâr hyfforddiant yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr cymwys i wneud cais ar wahân am gydnabyddiaeth broffesiynol, aelodaeth neu Dystysgrif Ymarfer Asesu.
Maeâr llwybr yn cyfuno ymchwil gyfredol, dulliau addysgu arbenigol a sgiliau asesu diagnostig. Drwyâr tri chwrs, byddwch yn datblyguâr wybodaeth aâr arbenigedd ymarferol sydd eu hangen i ddeall anawsterau llythrennedd, cynllunio a darparu ymyriadau effeithiol, cynnal asesiadau arbenigol a llunio adroddiadau proffesiynol.
Gallwch archebuâr llwybr llawn neu ddilyn cyrsiau unigol. Gall tĂŽm Canolfan Dyslecsia Miles eich cynghori ynghylch y man cychwyn mwyaf addas ar sail eich cymwysterau, eich profiad aâch nodau proffesiynol.
Ar gyfer pwy maeâr llwybr hwn?
Gall y llwybr fod yn addas ar gyfer:
- athrawon
- ymarferwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol
- cynorthwywyr addysgu a staff cymorth dysgu
- tiwtoriaid llythrennedd arbenigol
- therapyddion lleferydd ac iaith
- gweithwyr proffesiynol syân gweithio gyda dysgwyr sydd â dyslecsia neu anawsterau llythrennedd
- gweithwyr proffesiynol eraill syân ymwneud ag asesu, ymyrryd neu gymorth dysgu.
Bydd y gydnabyddiaeth broffesiynol sydd ar gael yn dibynnu ar eich cymwysterau presennol, eich profiad proffesiynol a gofynion y corff proffesiynol perthnasol.
Pam astudioâr llwybr hwn?
Maeâr llwybr yn darparu taith strwythuredig o ddeall y dystiolaeth syân ymwneud ag anawsterau llythrennedd i ddatblygu arferion addysgu ac asesu arbenigol.
Byddwch yn cael cyfleoedd i:
- ddatblygu dealltwriaeth syân seiliedig ar dystiolaeth o ddatblygiad llythrennedd, dyslecsia ac anawsterau llythrennedd
- defnyddio dulliau arbenigol wrth gefnogi plant a phobl ifanc
- cynllunio, darparu a gwerthuso ymyriadau llythrennedd wediâu targedu
- datblygu sgiliau asesu ymarferol ac ysgrifennu adroddiadau proffesiynol
- dysguân hyblyg ar-lein, gyda sesiynau wyneb yn wyneb ym Mangor pan fo angen
- cael mynediad at ddarpariaeth Gymraeg arbenigol a chwblhauâr adnoddau aâr asesiadau perthnasol drwy gyfrwng y Gymraeg neuâr Saesneg
- gweithio tuag at gydnabyddiaeth neu statws proffesiynol cydnabyddedig, yn amodol ar gymhwystra a chais ar wahân.
Sut caiff y llwybr ei gyflwyno?
Darperir y cyrsiauân hyblyg a gellir eu dilyn ar-lein. Yn dibynnu ar y cwrs aâr deunyddiau asesu sydd ar gael ichi, gall y dull darparu gynnwys:
- addysgu byw ar-lein
- deunyddiau dysgu wediâu recordio
- gweithgareddau dysgu ar-lein
- cymorth a mentora gan diwtoriaid
- sesiynau wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Bangor
- gweithgareddau addysgu ac asesu ymarferol.
Cyflwynir yr addysgu ar gyfer y tri chwrs drwy gyfrwng y Saesneg, gyda sesiynau arbenigol ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae adnoddau ar gael a gellir cwblhau asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg neuâr Saesneg ar gyfer Gwyddor Anawsterau Llythrennedd ar gyfer Ymyrryd ac Asesu aâr cwrs Ymarferydd Arbenigol.
Mae rhai adnoddau a pheth gwaith asesedig ar y cwrs Asesydd Arbenigol hefyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neuâr Saesneg, ond rhaid cyflwyno adroddiadau asesu diagnostig ffurfiol yn Saesneg.
Dylaiâr rhan fwyaf o ddysgwyr gynllunio ar gyfer tua 12 awr o astudio annibynnol bob wythnos ochr yn ochr ââr addysgu aâr gweithgareddau ymarferol a drefnwyd.
Cydnabyddiaeth broffesiynol
Yn amodol ar ofynion cyfredol y sefydliad proffesiynol perthnasol, bydd cwblhauâr cwrs Ymarferydd Arbenigol yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr cymwys i wneud cais ar wahân am gydnabyddiaeth briodol fel athro neu ymarferydd arbenigol.
Bydd cwblhauâr tri chwrs yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr cymwys i wneud cais ar wahân am gydnabyddiaeth broffesiynol fel athro-asesydd arbenigol ac am Dystysgrif Ymarfer Asesu drwy gymdeithas broffesiynol sydd wediâi chymeradwyo gan SASC, megis BDA, Patoss neu Dyslexia Action.
Nid yw cydnabyddiaeth broffesiynol, aelodaeth na Thystysgrif Ymarfer Asesu yn cael eu dyfarnuân awtomatig gan Brifysgol Bangor. Rhaid i ddysgwyr wneud cais ar wahân a bodloni gofynion cyfredol y sefydliad perthnasol o ran cymhwystra, aelodaeth, y broses ymgeisio a ffioedd.
TĂŽm addysgu
Darperir y llwybr gan athrawon ac aseswyr arbenigol profiadol o Ganolfan Dyslecsia Miles.
Mae gwybodaeth lawn am y tĂŽm addysgu ar gael ar dudalennauâr cyrsiau unigol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chiân ei astudio ar y cwrs yma?
Maeâr llwybr yn cynnwys tri chwrs DPP asesedig nad ydynt yn cynnwys credydau academaidd.
1. Gwyddor Anawsterau Llythrennedd ar gyfer Ymyrryd ac Asesu
Maeâr cwrs hwn yn archwilio ymchwil a damcaniaeth gyfredol syân ymwneud â datblygiad llythrennedd, anawsterau llythrennedd a dyslecsia.
Byddwch yn ystyried y prosesau gwybyddol syân gysylltiedig â darllen, ysgrifennu a sillafu, a sut y gellir defnyddio gwybodaeth asesu i adnabod anghenion cymorth a llywioâr broses o gynllunio ymyriadau.
Gellir astudioâr cwrs hwn cyn neu ar Ă´l y cwrs Ymarferydd Arbenigol, ond rhaid ei gwblhau cyn dechrauâr cwrs Asesydd Arbenigol.
Gweld y cwrs Gwyddor Anawsterau Llythrennedd ar gyfer Ymyrryd ac Asesu
2. Ymarferydd Arbenigol: Addysgu Dysgwyr ag Anawsterau Llythrennedd a Dyslecsia
Maeâr cwrs ymarferol hwn yn datblyguâr sgiliau addysgu arbenigol sydd eu hangen i gefnogi plant a phobl ifanc ag anawsterau llythrennedd.
Byddwch yn cynllunio, darparu a gwerthuso ymyriadau llythrennedd wediâu targedu wrth ddatblygu eich dealltwriaeth o addysgu amlsynhwyraidd ac arferion syân seiliedig ar dystiolaeth.
Gellir astudioâr cwrs hwn cyn neu ar Ă´l y cwrs Gwyddor Anawsterau Llythrennedd.
Gweld y cwrs Ymarferydd Arbenigol
3. Asesydd Arbenigol: Asesu Dysgwyr ag Anawsterau Llythrennedd a Dyslecsia yn Ymarferol
Maeâr cwrs hwn yn datblygu sgiliau asesu arbenigol, gan gynnwys asesu llythrennedd, profion seicometrig, asesu diagnostig ac ysgrifennu adroddiadau proffesiynol.
Byddwch yn dysgu sut i weinyddu a dehongli asesiadau a defnyddioâr canfyddiadau i wneud argymhellion gwybodus syân seiliedig ar dystiolaeth.
Cyn dechrauâr cwrs Asesydd Arbenigol, rhaid i ymgeiswyr fod wedi cwblhauân llwyddiannus y cwrs Gwyddor Anawsterau Llythrennedd aâr cwrs Ymarferydd Arbenigol, oni bai bod Canolfan Dyslecsia Miles wedi derbyn dysgu blaenorol cyfwerth yn ffurfiol.
Gweld y cwrs Asesydd Arbenigol
Drwy gwblhauâr llwybr llawn, byddwch yn datblygu eich gallu i:
- werthuso ymchwil a damcaniaeth gyfredol syân ymwneud â datblygiad llythrennedd, anawsterau llythrennedd a dyslecsia
- adnabod cryfderau llythrennedd a meysydd lle mae angen cymorth
- defnyddio gwybodaeth asesu i gynllunio cymorth effeithiol
- cynllunio, darparu a gwerthuso ymyriadau llythrennedd syân seiliedig ar dystiolaeth
- gweinyddu a dehongli asesiadau llythrennedd arbenigol ac asesiadau seicometrig
- llunio adroddiadau asesu diagnostig proffesiynol
- gwneud argymhellion priodol ar gyfer cymorth, ymyriadau ac addasiadau rhesymol
- gweithioân foesegol a myfyrioân feirniadol ar eich ymarfer proffesiynol.
Maeâr dulliau asesuân amrywio rhwng y tri chwrs a gallant gynnwys:
- aseiniadau ysgrifenedig
- asesiadau a gweithgareddau ar-lein
- portffolio addysgu ymarferol
- sesiynau addysgu wediâu recordio
- astudiaethau achos
- adroddiadau myfyriol
- tasgau asesu seicometrig
- adroddiadau asesu diagnostig a luniwyd fel ymarfer.
Gweler tudalennauâr cyrsiau unigol am wybodaeth fanwl am yr asesiadau.
Cost y Cwrs
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, y ffi yw ÂŁ4,750 pan archebir y tri chwrs gydaâi gilydd.
Mae hon yn ffi ostyngol oâi chymharu ag archebuâr tri chwrs ar wahân. Gellir talu ffiâr llwybr llawn mewn tri rhandaliad dros chwe mis. Cysylltwch â Chanolfan Dyslecsia Miles i drafod y trefniant rhandaliadau.
Codir tâl ychwanegol o £120 am bob asesiad ar ddysgwyr sydd angen defnyddio deunyddiau asesu a ddarperir gan Ganolfan Dyslecsia Miles ar gyfer y cwrs Asesydd Arbenigol. Adolygir y tâl hwn bob mis Medi.
Nid yw ffioedd sefydliadau proffesiynol allanol ar gyfer aelodaeth, cydnabyddiaeth broffesiynol neu Dystysgrif Ymarfer Asesu wediâu cynnwys yn ffiâr cwrs.
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27:
- Gwyddor Anawsterau Llythrennedd ar gyfer Ymyrryd ac Asesu: ÂŁ750
- Ymarferydd Arbenigol: Addysgu Dysgwyr ag Anawsterau Llythrennedd a Dyslecsia: ÂŁ2,450
- Asesydd Arbenigol: Asesu Dysgwyr ag Anawsterau Llythrennedd a Dyslecsia yn Ymarferol: ÂŁ1,950
Gofynion Mynediad
Dylai ymgeiswyr:
- feddu ar o leiaf ddwy flynedd o brofiad perthnasol o weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn rĂ´l addysgol, therapiwtig neu gymorth dysgu
- meddu ar y sgiliau academaidd, y profiad proffesiynol aâr gallu angenrheidiol i ymgymryd ag astudiaeth broffesiynol ran-amser heriol a gwaith ymarferol asesedig
- meddu ar sgiliau darllen, ysgrifennu a chyfathrebu cryf
- gallu bodloni gofynion ymarferol y cyrsiau unigol.
Maeâr cwrs Ymarferydd Arbenigol yn gofyn am fynediad at blentyn neu berson ifanc rhwng 6 ac 16 oed a fyddaiân elwa ar ymyriad llythrennedd yn eich gweithle neu mewn sefydliad cysylltiedig.
Cyn dechrauâr cwrs Asesydd Arbenigol, rhaid i ymgeiswyr fod wedi cwblhauân llwyddiannus y cwrs Gwyddor Anawsterau Llythrennedd aâr cwrs Ymarferydd Arbenigol, oni bai bod Canolfan Dyslecsia Miles wedi derbyn dysgu blaenorol cyfwerth yn ffurfiol.
Cysylltwch â Chanolfan Dyslecsia Miles os nad ydych yn siĹľr a yw eich cymwysterau, eich profiad neu eich astudiaeth flaenorol yn bodloniâr gofynion.
Cyflwynir yr addysgu ar gyfer y tri chwrs drwy gyfrwng y Saesneg, gyda sesiynau arbenigol ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae adnoddau ar gael a gellir cwblhau asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg neuâr Saesneg ar gyfer Gwyddor Anawsterau Llythrennedd ar gyfer Ymyrryd ac Asesu aâr cwrs Ymarferydd Arbenigol.
Mae rhai adnoddau a pheth gwaith asesedig ar y cwrs Asesydd Arbenigol hefyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neuâr Saesneg, ond rhaid cyflwyno adroddiadau asesu diagnostig ffurfiol yn Saesneg.
Gwneud Cais
Gwneud cais am y llwybr llawn neu gwrs unigol
I wneud cais am y Llwybr Hyfforddiant Proffesiynol Athro ac Asesydd Arbenigol (Anawsterau Dysgu Penodol/Dyslecsia) llawn, neu am unrhyw un oâr tri chwrs DPP unigol, llenwch y ffurflen gais isod.
Bydd y ffurflen yn gofyn ichi ddewis a ydych yn gwneud cais am y llwybr llawn neu am gwrs unigol.
Angen cyngor cyn gwneud cais?
Os hoffech drafod eich cymhwystra, eich nodau o ran achrediad proffesiynol neuâr man cychwyn mwyaf addas, llenwch ein ffurflen ymholi neu cysylltwch â Chanolfan Dyslecsia Miles:
E-bost: mdc-training@bangor.ac.uk
Achrediad proffesiynol
Mae gwneud cais am gwrs DPP Prifysgol Bangor ar wahân i wneud cais am achrediad proffesiynol, aelodaeth neu Dystysgrif Ymarfer Asesu drwy sefydliad proffesiynol allanol.