Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Hoffem roi blas i chi ar sut le yw Gogledd Cymru i fyw a gweithio. Os dewch yma, byddwch yn treulio tair blynedd yn gweithio yn un o’r ardaloedd harddaf ym Mhrydain. Mae’r Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor yn adnabyddus am ei rhagoriaeth academaidd, ac mae’r rhaglen wedi ei hachredu’n llawn gan Cymdeithas Seicolegol Prydain yn 2026 a Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a Phrifysgol Bangor yn 2019.
Er ein bod yn rhaglen fach, gallwn ymateb i’n hyfforddeion yn unigol. Rydym yn casglu adborth yn rheolaidd gan ein hyfforddeion ar y rhaglen, ac mae hyfforddeion yn aml yn rhoi sylwadau am ba mor addas y gall y rhaglen fod i bobl â theuluoedd. Defnyddir y geiriau ‘cyfeillgar’ a ‘hynaws’ yn gyson, ac rydym yn gobeithio bod hyn yn adlewyrchiad gwirioneddol ar nodweddion rhaglen fel yr un sydd gennym ni.
Er ein bod yn fach, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o addysgu a phrofiadau clinigol i’n hyfforddeion, a hynny’n aml gan staff sy’n flaenllaw yn genedlaethol yn y maes clinigol penodol hwnnw. Rydym yn anelu at sicrhau eich bod yn cael y cyfleusterau sydd eu hangen arnoch fel y gallwch fanteisio i’r eithaf ar yr hyfforddiant a roddwn.
I wneud ymholiad cyffredinol, cysylltwch â:
Kathryn Jones (Cynorthwyydd Gweinyddol Dewis)
I wneud ymholiad ynglŷn â’r drefn dewis myfyrwyr, cysylltwch â:
Dr Caroline Lamers (Cyfarwyddwr Recriwtio a Dewis)
Dr Laura Spencer-Jones (Uwch-Diwtor Clinigol)
Hoffem roi gwybodaeth i chi am gefndir y rhaglen, ein cysylltiadau a'n hanes, ynghyd â gwybodaeth am y rhaglen ei hun, ein hathroniaeth a phwy sy'n gweithio yma. Gobeithio y bydd hyn yn rhoi blas i chi o sut beth yw astudio yng Ngogledd Cymru.
Gwybodaeth Gyffredinol
Cynllun ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor yw’r Rhaglen Ddoethurol dair-blynedd hon ac mae ganddi berthynas waith agos â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Enw’r rhaglen yw Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru (NWCPP). Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol a fydd yn eu gwneud yn gymwys i wneud cais i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (www.hcpc-uk.org/) ac i gael statws siartredig gyda Chymdeithas Seicoleg Prydain. Rhaglen Gogledd Cymru oedd y gyntaf yn y Deyrnas Unedig i sefydlu’r Ddoethuriaeth Seicoleg Glinigol, gan fraenaru’r ffordd i raglenni eraill. Mae gan seicolegwyr clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gysylltiadau gwaith eithriadol o glos gyda Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru. Ar hyn o bryd mae tua 110 o seicolegwyr clinigol cymwysedig yng Ngogledd Cymru, yn gweithio ar draws yr ystod oedran, o enedigaeth i farwolaeth, ym meysydd iechyd meddwl ac iechyd corfforol, anableddau deallusol, niwroseicoleg, a gwasanaethau diogelwch canolig. Mae bron pob un ohonynt yn ymwneud â’r rhaglen trwy addysgu, goruchwylio (clinigol/ymchwil), asesu gwaith academaidd, dewis ymgeiswyr a gweithredu fel cynrychiolwyr ar bwyllgorau.
Mae'r Ysgol Seicoleg yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer hyfforddiant mewn ymarfer clinigol ac mae'n arbennig o gryf ym meysydd seicoleg glinigol a seicoleg iechyd, niwrowyddoniaeth wybyddol, a seicoleg dysgu a seicoleg datblygiad. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf yn 2022, cadwodd Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor ei statws fel un o'r adrannau seicoleg gorau yn y Deyrnas Unedig, gydag 86% o’r allbynnau ymchwil yn cael eu hystyried yn rhagorol yn rhyngwladol neu gyda’r gorau yn y byd. Mae ganddi gymunedau ymchwil bywiog a chyfeillgar, a rhoddwyd yr adran yn safle 17 (o 117) am ansawdd ymchwil (Complete University Guide, 2021). Mae’r brif ganolfan yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar hefyd wedi'i lleoli yn yr Ysgol.
Mae'r Athro Michaela Swales, a gydnabyddir yn rhyngwladol am ei harbenigedd mewn therapi ymddygiad dialectig ac sy’n arwain Tîm Hyfforddi Therapi Ymddygiad Dialectig Ynysoedd Prydain, yn gyfarwyddwr y rhaglen ac yn gweithredu'n lleol fel seicolegydd clinigol. Mae'r hyfforddeion, aelodau tîm y rhaglen a seicolegwyr clinigol lleol yn awyddus i rannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd ac mae eu rhestr o gyhoeddiadau’n sylweddol, bron i 70 dros y pum mlynedd diwethaf yn unig.
Cafodd y rhaglen ei hail-achredu gan y CSP ym mis Ebrill 2026.
Canmolwyd nifer o agweddau ar y rhaglen:
1. Ymrwymiad eithriadol i integreiddio defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn ystyrlon, gyda'r Panel Pobl wedi'i wreiddio ym meysydd addysgu, ymchwil a llywodraethu fel partneriaid cyfartal a gwerthfawr.
2. Arweinyddiaeth gref y rhaglen.
3. Goruchwyliaeth effeithiol o'r gyllideb gan Gyfarwyddwr y Rhaglen.
4. Agwedd hygyrch ac argaeledd tîm y rhaglen, ynghyd â'r gefnogaeth a ddarperir i'r hyfforddeion.
5. Darparu Datblygiad Proffesiynol Parhaus i oruchwylwyr.
6. Cyfathrebu effeithiol, gweithio mewn partneriaeth a chyfrifoldeb ar y cyd â darparwyr lleoliadau a'r comisiynydd.
7. Ymrwymiad clir i gynyddu nifer y seicolegwyr sy'n siarad Cymraeg, a chamau cadarnhaol tuag at hynny.
8. Mae'n beth cadarnhaol bod Penaethiaid Gwasanaeth yn eistedd ar y Bwrdd Arholwyr.
Roeddem wrth ein bodd yn derbyn cymeradwyaeth mor gryf gan y CSP, ac rydym yn credu bod hyn yn dangos natur gadarn a chydlynol y rhaglen.
Mae ein hymweliad achredu nesaf wedi'i drefnu ar gyfer 2031/2032.
Mae’r rhaglen yn cydnabod fod seicoleg glinigol yn broffesiwn gofalu a chanddo nifer o nodweddion unigryw. Yn bennaf ymysg y rhain y mae: y rhyngddibyniaeth agos rhwng ymarfer ac ymchwil; y ffordd y cymhwysir modelau, damcaniaethau a thystiolaeth seicolegol yn systematig i anghenion defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr; a datblygiad gwasanaethau. Prif nod y rhaglen yw cwrdd ag anghenion y GIG am seicolegwyr clinigol sydd wedi eu cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac sydd yn meddu ar y canlynol:
- ystod eang o sgiliau clinigol a sgiliau trefnu, arwain ac ymchwilio.
- safonau uchel o gywirdeb proffesiynol.
- model mewnol o ymarfer adfyfyriol sy’n ddigon hyblyg i dderbyn newid ac yn sensitif i anghenion defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.
Rydym felly'n hyfforddi seicolegwyr clinigol sy’n hyrwyddo syniadaeth seicolegol mewn sefyllfaoedd gofal iechyd, gan gyfannu eu sgiliau clinigol ac academaidd a’u sgiliau ymchwil, a thrwy feddwl yn feirniadol, yn adfyfyriol ac yn annibynnol. Mae ganddynt sylfaen gref o werthoedd ac maent yn gweithredu gydag uniondeb i newid bywydau pobl er gwell.
Ein gweledigaeth rhaglen yw:
Trwy bartneriaeth gydweithredol a pherchnogaeth a rennir gyda chydweithwyr y GIG, aelodau Panel y Bobl, a hyfforddeion, ein nod yw darparu hyfforddiant o ansawdd uchel gyda thegwch a chysondeb.
Ein nod yw datblygu seicolegwyr clinigol proffesiynol, moesegol gyfrifol sy'n ddysgwyr annibynnol, sy'n gallu gwerthuso'n feirniadol a chymhwyso gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth i safon uchel.
Gyda chryfderau penodol mewn therapïau trydydd don, bydd ein hyfforddeion yn darparu gwasanaethau ystyrlon, sy'n ymatebol yn ddiwylliannol, ac sy'n cael effaith i gymunedau Cymru. Byddwn yn cefnogi'r hyfforddiant trwy systemau a gwaith tîm effeithiol ac effeithlon.
Mae gennym agwedd gadarnhaol tuag at amrywiaeth a chynhwysiant cymdeithasol, ac adlewyrchir hynny yn y dulliau dewis, yn yr addysgu, yn y syniadau ymarfer sy’n seiliedig ar werthoedd, ac yn ethos cyffredinol y rhaglen. Ym mis Ionawr 2021, sefydlom ein his-bwyllgor ar gyfer gwrth-hiliaeth, gwrth-wahaniaethu a hyrwyddo gostyngeiddrwydd diwylliannol; yn ddiweddar cafodd ei ailenwi’n CARIAD (Cultural humility, Anti Racism, Inclusivity and Anti Discrimination). Mae ‘Cariad’ yn golygu ‘love’ yn Gymraeg.
Mae hyfforddeion o bob un o’r tair blynedd, aelodau o dîm y rhaglen, cydweithwyr Seicoleg Glinigol o’r Bwrdd Iechyd lleol ac aelodau o’r Panel Pobl (ein grŵp cynghori o arbenigwyr trwy brofiad) yn cymryd rhan wrth adolygu pob agwedd ar y rhaglen i ystyried materion yn ymwneud â hiliaeth, gwahaniaethu, ‘gwynedd’ (whiteness), cynhwysiant ac ati.
Mae dethol, lleoliadau, addysgu, aseiniadau ac ymchwil i gyd yn feysydd sy’n cael eu harchwilio i ganfod ffyrdd o fynd i’r afael â materion cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol.
Mae holl bwyllgorau eraill y rhaglen yn adrodd yn ôl i is-bwyllgor CARIAD am y gwaith maent yn ei wneud i newid ein harferion. Mae’r gweithgor ar iechyd planedol hefyd yn adrodd i is-bwyllgor CARIAD. Rydym yn parhau i hwyluso gweithdai gyda hyfforddeion, tîm y rhaglen a seicolegwyr clinigol lleol i hyrwyddo’r agenda hwn.
Byddwn yn gweithio’n agos gyda Diverse Cymru (https://diversecymru.org.uk/) i ddatblygu’r gwaith hwn ymhellach.
O ran dulliau therapiwtig, rydym yn canolbwyntio ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol a Therapïau'r Drydedd Don: yn enwedig Therapi Ymddygiad Deiledigol a Therapi Derbyn ac Ymrwymiad. Gyda'r Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar, y Timau Hyfforddi Therapi Ymddygiad Deiledigol, ac amrywiaeth o glinigwyr lleol sy'n defnyddio Therapi Derbyn ac Ymrwymiad, rydym yn optimeiddio dysgu yn y meysydd clinigol cyffrous hyn. Mae gennym bwyslais cryf hefyd ar weithio'n systemig a Therapi sy'n Canolbwyntio ar Dosturi. Byddwch hefyd yn derbyn addysg mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol.
'Plus One' RSGGC – Yn unol â meini prawf achredu'r CSP, mae angen i bob rhaglen Ddoethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol gynnig hyfforddiant mewn Therapi Gwybyddol-Ymddygiadol (CBT) ac un dull therapiwtig arall sydd â thystiolaeth i'w gefnogi.
Rydym yn cynnig hyfforddiant mewn CBT ynghyd â dau ddull therapiwtig ychwanegol: Therapïau'r Drydedd Don (Therapi Ymddygiad Dilectig [DBT], Therapi Derbyn ac Ymrwymo [ACT], Therapi sy'n Canolbwyntio ar Dosturi [CFT]) a Therapi Teuluol Systemig.
- Ms Fiona Greenly-Jones Uwch Weinyddwr a Chynorthwywr Personol i Gyfarwyddwr y Rhaglen f.greenly-jones@bangor.ac.uk
- Mrs Mared Davies Hill Cynorthwyydd Gweinyddol Ymchwil a Dewis m.d.hill@bangor.ac.uk
- Dr Lee Hogan Cyfarwyddwr Ymchwil lee.hogan@bangor.ac.uk
- Dr Jaime Horn Cyfarwyddwr Clinigol jaime.horn@bangor.ac.uk
- Mrs Debbie Jones Cynorthwyydd Gweinyddol Cwricwlwm a Chlinigol debbie.jones@bangor.ac.uk
- Mrs Kathryn Jones Cynorthwyydd Gweinyddol Academaidd ac Asesu kathryn.jones@bangor.ac.uk
- Dr Caroline Lamers Cyfarwyddwr Recriwtio a Dewis c.lamers@bangor.ac.uk
- Dr Samantha Owen Tiwtor Academaidd samantha.owen@bangor.ac.uk
- Ms Donna-Marie Pierce Rheolwr Rhaglen d.pierce@bangor.ac.uk
- Dr Lucy Piggin Cyfarwyddwr Academiadd ac Tiwtor Ymchwil l.piggin@bangor.ac.uk
- Dr Christopher Saville Tiwtor Ymchwil c.saville@bangor.ac.uk
- Dr Laura Spencer-Jones Uwch Diwtor Clinigol l.e.spencer@bangor.ac.uk
- Yr Athro Michaela Swales Cyfarwyddwr y Rhaglen m.swales@bangor.ac.uk
Cynnwys y Cwrs
Mae'r rhaglen yn un lawn-amser ac ni ellir cwtogi hyd y rhaglen drwy achredu dysgu blaenorol neu brofiad. Mae'n rhaid ichi gwblhau'r rhaglen lawn er mwyn cymhwyso.
Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi blas i chi o'r rhaglen, ein gweledigaeth a'n gwerthoedd, a sut beth fyddai hyfforddi gyda ni.
Nod elfen academaidd y rhaglen yw eich cael i gymryd rhan weithredol yn y broses ddysgu. Un cymorth mawr yw bod pob grŵp blwyddyn yn gymharol fach, sy’n caniatáu digon o le i drafod a datblygu syniadau a sgiliau. Disgwylir i chi gymryd rhan lawn yn yr addysgu trwy ddod â'ch deunyddiau a'ch profiadau clinigol eich hun i’w trafod, a thrwy gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae rôl i ddatblygu eich sgiliau. Mae'r cwricwlwm academaidd yn rhoi pwyslais ar bersbectif rhychwant oes. Mae hyn yn golygu y caiff meysydd pwnc eu dysgu gan glinigwyr o nifer o arbenigeddau, gan sicrhau y cewch olwg datblygiadol o’r meysydd hynny a’ch bod yn gwerthfawrogi sut mae'r un modelau damcaniaethol a’r un dulliau gweithredu yn cael eu defnyddio gyda gwahanol grwpiau o gleientiaid o oedrannau gwahanol.
Yn dilyn model gymhwysedd y rhaglen, mae'r rhan fwyaf o'n haddysgu yn cyfateb i'r cymwyseddau a ddatblygwyd ym mhob un o'r pum lleoliad. Ar ddechrau blwyddyn un, darperir addysg sylfaen i chi sy'n berthnasol i waith cyffredinol seicolegwyr clinigol mewn lleoliadau amrywiol. Mae hyn yn cynnwys sgiliau creiddiol ymgysylltu ac asesu a sgiliau therapiwtig, yn ogystal â chodau moeseg ac ymddygiad proffesiynol a fframweithiau cyfreithiol perthnasol. Tra byddwch ar leoliad, un o nodau'r addysgu yw eich arfogi â'r wybodaeth a'r sgiliau damcaniaethol i wneud gwaith asesu a chysyniadoli seicolegol gadarn. Hanner ffordd drwy'r lleoliad hwn byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn cwrs ymwybyddiaeth ofalgar am 8 wythnos yn rhan o'ch addysgu, i osod y sylfeini ar gyfer dysgu mwy am ddulliau trydedd don ac am wneud defnydd ohonoch chi eich hun i helpu rheoli gofynion yr hyfforddiant. Yn ystod yr ail a'r trydydd lleoliad, (ymyriad I ac ymyriad II) bydd yr addysgu yn canolbwyntio mwy ar fodelau therapiwtig a datblygu sgiliau, gan gynnwys Therapi Ymddygiad Gwybyddol, Therapi Derbyn ac Ymrwymo a Therapi Ymddygiad Dialectig. Cyflwynir modelau therapiwtig eraill hefyd wrth i'r hyfforddiant fynd yn ei flaen, gan gynnwys Therapi sy'n Canolbwyntio ar Dosturi. Yn ystod eich pedwerydd lleoliad, mae i’r dysgu mwy o bwyslais ar ddamcaniaethau ac ymarfer sy’n ymwneud â gweithio systemig ac arweinyddiaeth.
Rydym yn gweithio'n gyson i ddatblygu ein haddysgu fel ei fod yn cyfrannu at ofynion achredu ar gyfer cymwysterau proffesiynol eraill, megis achrediad therapydd CBT gan y British Association for Behavioural and Cognitive Psychotherapies (BABCP). Mae ein haddysg ym maes niwroseicoleg wedi cael ei chydnabod gan Brifysgol Bryste ac yn galluogi hyfforddeion i gofrestru ar y Diploma Ôl-raddedig mewn Niwroseicoleg Ddamcaniaethol ac Ymarferol (PGDipPN) ym Mhrifysgol Bryste (ar gyfer oedolion yn unig); yno, gallwch ennill credyd am eich gwaith addysgu a chlinigol yn ystod eich hyfforddiant DClinPsy, a gellir defnyddio hwn wrth weithio tuag at ddod yn Niwroseicolegydd Clinigol (SRCN) ar ôl eich hyfforddiant. Mae gan ein rhaglen achrediad Lefel 1 gan y Society for DBT yn y DU ac Iwerddon, sy'n gweithredu safonau rhyngwladol achredu DBT. Mae hyn yn golygu bod yr holl addysg DBT a ddarparwn yn cyfrif tuag at achrediad gan y Gymdeithas. Mae cyfleoedd ychwanegol yn ystod yr hyfforddiant a fydd yn eich galluogi i fodloni'r holl gymwyseddau sy'n seiliedig ar wybodaeth ar gyfer achrediad erbyn diwedd yr hyfforddiant. Yn dibynnu ar argaeledd lleoliadau, bydd rhai hyfforddeion hefyd yn cael cyfleoedd i ennill yr holl gymwyseddau sy'n seiliedig ar ymarfer sy'n ofynnol ar gyfer achrediad. Mae ein haddysg systemig wedi cael ei hachredu gan yr Association for Family Therapy and Systemic Practice (AFT). Er mwyn cael yr achrediad ar lefel sylfaen, bydd angen i chi gwblhau dau aseiniad ychwanegol sy'n cael eu marcio a chadw log myfyriol o'ch dysgu. Byddwch hefyd yn cael cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn grwpiau goruchwylio gan gymheiriaid (gyda hwylusydd) i drafod eich dysgu ar y rhaglen ac ar leoliad, a bydd hyn yn helpu i roi bywyd i'r syniadau systemig.
Cyn pob lleoliad bydd bloc o addysgu a fydd yn para rhwng pythefnos a phum wythnos. Unwaith y byddwch ar leoliad, bydd dyddiau addysgu wythnosol yn parhau i gael eu cynnal am ran helaeth o'r flwyddyn, sy'n golygu y cewch gadw mewn cysylltiad parhaus â'r rhaglen a chyd-aelodau eich carfan blwyddyn. Cynhelir dau ddiwrnod addysgu arall hefyd bob blwyddyn academaidd, pan ddaw'r tair carfan at ei gilydd, a chaiff pynciau arbenigol a chyfredol eu cyflwyno a'u trafod. Y teitlau ar gyfer diwrnodau addysgu diweddar pob carfan yw 'Seicoleg Glinigol - Deall a Mynd i'r Afael ag Anghyfiawnder, Hiliaeth a Gwahaniaethu Epistemig' a 'Chyfweld Cymhellol a Gweithio gyda Phobl sy'n Camddefnyddio Sylweddau'.
Cewch eich dysgu yn yr ystafelloedd addysgu pwrpasol ym Mhrifysgol Bangor, yn agos at swyddfeydd y tîm staff ac mae cegin a lle bwyta helaeth i’w rannu. Mae gennych hefyd fynediad i ystafell adnoddau helaeth i hyfforddeion i wneud gwaith academaidd ar sawl un o gyfrifiaduron y Brifysgol a'r Bwrdd Iechyd.
Er mai seicolegwyr clinigol ac academaidd o ogledd Cymru sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r addysgu, gwahoddir seicolegwyr o’r tu hwnt i’r ardal a gweithwyr proffesiynol eraill hefyd i gyfrannu lle bo’n briodol. Mae aelodau o ‘Panel y Bobl’ a defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr eraill yn cymryd rhan amlwg mewn nifer o sesiynau addysgu trwy gydol y tair blynedd. Mae’r hyfforddeion yn gwerthfawrogi eu persbectif yn arw ac mae'r adborth yn gyson dda. Byddwch yn rhoi adborth ar yr holl sesiynau academaidd, ac mae hynny’n galluogi’r rhaglen i barhau i wella’r safonau addysgu.
Aseiniadau Academaidd - Mae tri aseiniad academaidd i'w cwblhau dros y tair blynedd.
- Rydych chi'n dechrau gydag aseiniad dysgu sy'n seiliedig ar broblemau, y byddwch chi'n ei ddatblygu gyda'ch cyd-hyfforddeion.
- Ym mlwyddyn 2 rydych chi'n rhoi cyflwyniad ar fater proffesiynol sy'n codi o'ch lleoliad systemig ac arweinyddiaeth.
- Ar ôl cyflwyno'r traethawd ymchwil, byddwch yn ysgrifennu aseiniad adfyfyriol ar eich dysgu a gaiff ei asesu'n ffurfiannol.
Er bod diwyg yr aseiniadau wedi'i bennu, chi fydd yn dewis eich pynciau clinigol-berthnasol eich hun ar eu cyfer. Gall siaradwyr Cymraeg gyflwyno eu gwaith yn Gymraeg.
Mae dysgu yn parhau wrth i chi gymhwyso damcaniaethau a gyflwynwyd yn yr ystafell ddosbarth, drwy astudio annibynnol, a thrwy weithio gyda'ch cleientiaid ar leoliad. Bydd y profiad clinigol yn dechrau tua diwedd mis Hydref yn y flwyddyn gyntaf ac yn para dros dair blynedd y rhaglen. Bydd y lleoliadau yn eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau asesu, cysyniadoli ac ymyrraeth (Lleoliad Sylfaen) cyn symud ymlaen i ddatblygu sgiliau mewn ymyriadau therapiwtig a therapïau seicolegol penodol (Ymyrraeth I a II). Bydd lleoliadau diweddarach yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau mewn cymwyseddau systemig ac arweinyddiaeth a byddwch yn gorffen eich hyfforddiant gyda lleoliad atodol neu ddethol o'ch dewis.
Mae’r lleoliadau fel a ganlyn:
- Blwyddyn 1: Sylfeini Asesu, Cysyniadoli ac Ymyrraeth (Tachwedd - Ebrill)
- Blwyddyn 1: Ymyrraeth I (Mai - Hydref).
- Blwyddyn 2: Ymyrraeth II (Tachwedd - Mehefin).
- Blwyddyn 2/3 Gweithio gyda Systemau ac Arweinyddiaeth (Gorffennaf - Rhagfyr).
- Blwyddyn 3: Dethol/Atodol (Rhagfyr - Medi).
Bydd pob lleoliad clinigol yng ngogledd Cymru a gogledd Powys, sy’n ardal ddaearyddol fawr sy'n ymestyn o Wrecsam i Bwllheli ac o Gaergybi i'r Drenewydd a Dolgellau, lle ceir trefi a dinasoedd ôl-ddiwydiannol a chymunedau gwledig. Mae'r tîm clinigol yn rhoi cryn sylw i'r broses o neilltuo hyfforddeion i leoliadau clinigol. Yn aml, mae nifer o ffactorau i'w hystyried, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): anghenion iechyd yr hyfforddai, cyfrifoldebau gofalu'r hyfforddai, canolfan waith a chyfeiriad cartref yr hyfforddai, anghenion hyfforddi a chymhwysedd, ac anghenion y goruchwyliwr. Mae hwn yn broses gymhleth. Rydym yn gwneud ein gorau i neilltuo hyfforddeion gan ystyried y ffactorau hyn. Fodd bynnag, dylid disgwyl teithio, o ystyried yr ardal ddaearyddol eang y mae'r Byrddau Iechyd yn ei gwasanaethu.
Bydd pob goruchwyliwr newydd wedi mynychu tri gweithdy goruchwylwyr newydd, sydd wedi'u hachredu dan y BPS ac sy'n cynnig cymhwyster i'r Gofrestr Goruchwylwyr Ymarfer Seicoleg Gymhwysol (RAPPS). Rydym hefyd yn cynnig gweithdai rheolaidd i bob goruchwyliwr i archwilio ystod eang o faterion sy'n berthnasol i oruchwyliaeth glinigol.
Mae’r lleoliadau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Iechyd Meddwl Oedolion: gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl gofal eilaidd, gwasanaeth gofal fesul cam, gwasanaethau cleifion mewnol, gwasanaeth anhwylderau bwyta, iechyd meddwl amenedigol, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau seicosis cynnar.
- Oedolion HÅ·n: gan gynnwys clinigau cof a thimau cymunedol.
- Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc: gan gynnwys CAHMS, gwasanaethau mewnol i bobl ifanc a gwasanaethau niwroddatblygiadol.
- Anableddau Deallusol: gwasanaethau oedolion a phlant.
- Gwasanaethau fforensig: uned a charchar diogelwch canolig.
- Gwasanaethau anafiadau i’r ymennydd: gwasanaethau oedolion a phlant.
- Seicoleg Glinigol Iechyd: gan gynnwys gwasanaeth aelodau artiffisial, mewnblaniadau cochlear, gofal critigol, diabetes, gwasanaethau blinder cronig, anhwylderau gwaedu etifeddol, gwasanaeth cyhyrysgerbydol, oncoleg a gofal lliniarol, rheoli poen, gwasanaethau pediatrig, gofal arennol, a rheoli pwysau.
- Gwasanaethau Cefnogi a Lles Staff.
- Gwasanaeth Cymru gyfan: Ymddiriedolaeth y Gwasanaethau Ambiwlans
- Gwasanaeth ar draws y DU: Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Caiff cytundebau lleoliad eu trafod rhyngoch chi a’r goruchwyliwr, ar y cyd â staff y rhaglen. Adolygir y cytundebau hynny hanner ffordd trwy’r lleoliad. Caiff pob lleoliad ei werthuso gan eich goruchwyliwr clinigol, a fydd yn asesu ystod lawn o gymwyseddau clinigol a phroffesiynol. Byddwch yn rhoi adborth ar yr holl leoliadau fel rhan o’n hymdrech i sicrhau ein bod yn cynnal ac yn gwella ansawdd uchel y profiad clinigol.
Yn aml, dyrennir lleoliadau i hyfforddeion sy'n siarad Cymraeg lle gallwch ddefnyddio'r Gymraeg wrth eich gwaith yn eich ymarfer clinigol a lle bo hynny'n bosibl gyda'ch goruchwyliwr.
Aseiniadau Clinigol -
- Byddwch yn cwblhau adroddiad ar weithgarwch clinigol (RCA) yn eich lleoliad Sylfaen.
- Byddwch yn cwblhau adroddiad ar weithgarwch clinigol (RCA) yn ymwneud â’ch lleoliad Ymyrraeth 1.
- Byddwch yn cwblhau dau adroddiad ar weithgarwch clinigol o'ch lleoliad Ymyrraeth II hirach lle byddwch yn llunio darn o waith o ddau safbwynt damcaniaethol neu therapiwtig gwahanol a byddwch yn cyflwyno un arall o'ch darnau gwaith clinigol.
- Rhaid i un o'ch adroddiadau ar weithgarwch clinigol fod ynghylch therapi ymddygiad gwybyddol.
Mae angen i chi gyflwyno recordiad o sesiwn lle rydych yn defnyddio therapi ymddygiad gwybyddol, sy'n cael ei raddio gan ddefnyddio'r CTS-R, neu offeryn asesu perthnasol arall.
Nod y cwricwlwm ymchwil yw sicrhau bod hyfforddeion yn meithrin profiad o ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ymchwil, ac yn cael dealltwriaeth fanwl o'r dystiolaeth sydd wrth wraidd ymarfer clinigol. Mae hyfforddiant mewn sgiliau ymchwil yn digwydd trwy gydol y tair blynedd.
Aseiniadau Ymchwil -
Mae tri phroject ymchwil i'w cwblhau dros y tair blynedd.
Byddwch yn dechrau gyda phroject dadansoddi data, gan ddefnyddio setiau data mawr sydd ar gael i'r cyhoedd i ateb cwestiynau gosod.
Mae'r project ymchwil sy'n gysylltiedig â gwasanaeth yn ddarn o ymchwil hynod gymhwysol, fel archwiliad neu werthusiad o wasanaeth, a gwblheir yn ystod ail flwyddyn y rhaglen.
Yn olaf, mae gennych eich project ymchwil mawr, a dyna fydd hanfod traethawd ymchwil eich doethuriaeth, y byddwch yn gweithio arno drwy gydol y rhaglen. Mae'r traethawd ymchwil yn cynnwys adolygiad systematig neu feta-ddadansoddiad, astudiaeth empirig a phapur ar oblygiadau ymchwil a chlinigol eich gwaith. Disgwylir i'r gwaith hwn fod o safon y gellid ei gyhoeddi, ac yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf yn unig mae dros 30 o bapurau hyfforddeion wedi'u cyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd. Yn eich blwyddyn olaf bydd gennych arholiad llafar, neu viva, ble byddwch yn amddiffyn eich traethawd ymchwil.
Mae'r rhaglen yn cynnal ffair ymchwil flynyddol, lle mae seicolegwyr clinigol lleol a chynrychiolwyr o ‘Banel y Bobl’ yn cyflwyno ac yn rhannu eu syniadau ymchwil. Anogir hyfforddeion i gysylltu â goruchwylwyr lleol (neu gydweithwyr eraill yn y DU) i drafod a datblygu eu project ymchwil ar raddfa fawr. Mae'r rhaglen yn cefnogi ac yn goruchwylio ymchwil ansoddol a meintiol yn ogystal â phrojectau dadansoddi data eilaidd. Mae'r tîm ymchwil yn ymdrechu i'ch cefnogi i wneud projectau yn eich meysydd diddordeb, yn hytrach na chael eich neilltuo i brojectau o restr.
Meysydd diweddar lle mae hyfforddeion wedi cynnal ymchwil -
- Exploring the Challenges of Intercultural Qualitative Health Research and the Experiences of Doctors in Lesotho.
- Recovery Factors in Type 1 Diabetes Disordered Eating.
- A Thematic Analysis of the Function of Sleep-wake Inversion among Adults with Psychosis.
- Developing Systemic Approaches to Tic Disorders in Education and Healthcare Settings.
- Exploring Healthcare Professionals' Experiences of Providing Care for People with Dementia across the Lifespan.
- The Ghost in Care: Mothers' Experiences of Mental Health and Involvement with Services following Separation from their Child(ren).
- Should it come with the Territory? Experiences and Discourses of two groups of Professionals.
- An Exploration of the role Social Class has in Clinical Psychology Training and for Adults Engaging with Psychological Therapies in the UK.
- An Exploration of Homelessness and Mental Health.
Darperir goruchwyliaeth ymchwil gan dîm y rhaglen, seicolegwyr clinigol lleol a chydweithwyr yn y brifysgol. Mae ymchwil mewn seicoleg glinigol a seicoleg iechyd glinigol yn un o gryfderau’r Ysgol Seicoleg. Mae’r rhaglen yn cefnogi projectau ymchwil o bob cwr o’r traddodiad ymarferwr gwyddonol, gan ddefnyddio methodolegau meintiol ac ansoddol.
Rydym yn cynnal cynhadledd ymchwil flynyddol lle bydd yr hyfforddeion yn cyflwyno eu projectau ymchwil trwy gyfrwng cyflwyniadau neu bosteri. Rydym yn gwahodd hyfforddeion sydd newydd eu derbyn i'r gynhadledd hon cyn iddynt ddechrau ar y rhaglen.
Meysydd diweddar lle mae hyfforddeion wedi cynnal ymchwil -
Teitlau ymchwil 2023 - 2025
Dyma deitlau'r prosiectau ymchwil mawr a gynhaliwyd gan ein hyfforddeion o'r tair carfan ddiwethaf a gymhwysodd. Fe'u grwpiwyd o dan y categorïau mwyaf tebygol, er y bydd gorgyffwrdd â meysydd clinigol eraill.
Mae teitlau'r traethodau ymchwil yn ymdrin â'r adolygiad systematig a'r papur empirig, ac nid ydynt bob amser yn adlewyrchu'r ystod eang o ddulliau ansoddol a meintiol a ddefnyddiwyd.
Seicoleg Perinatal
- Exploring North Wales mothers’ experiences of out-of-area mother and baby units.
- Negotiating Parenthood at the Margins of Perinatal Crisis: Neonatal Care and Perinatal Loss.
Seicoleg Plant/Pobl Ifanc
- The act of telling: A qualitative examination of child abuse disclosure and public storytelling experiences.
- Experience of being an adolescent and having an adolescent sibling who self-harms.  
- The Lived experience of Anorexia Nervosa in Adolescent Boys, aged between 14-20 years.
- Exploring parent and clinician experiences of diagnosis of child chronic health conditions.
Seicoleg Anableddau Deallusol
- Public perception and personal realities: exploring attitudes towards intellectual disability and the role of day services.
- Breaking barriers: enhancing accessibility to research and support for adults with intellectual disabilities and parents.
Seicoleg Oedolion
- The experience of participating in an adventure therapy sailing project for young people with a history of psychosis – Perspectives from staff in participating services.
- Distress and Difference in Adult Mental Health: Diagnosis, Identity, and Representation.
- Exploring the UK Filipino community’s experiences of mental health, literacy, stigma, cultural capital and help-seeking.
- Insight and Meaning: Foregrounding Lived Experience in Mental Health Contexts.
- The Nature of the Beast: Exploring Challenge and Complexity in the Implementation of Trauma-Informed Care.
Pwnc Hunaniaeth Rhyw/Rhywiol
- Transgender and Gender Diverse people’s experiences of accessing Clinical Psychology within Gender Services.
- Mental Health in Sexual Minority Populations: The Role of Social and Contextual Determinants.
Niwroseicoleg
- Acquired Brain Injuries and Domestic Violence: A Situational Analysis of Help Seeking Barriers at the individual and system level.
- Premanifest Huntington’s disease and wellbeing
Seicoleg Iechyd
- Declining treatment in the context of cancer: The experiences of individuals and cancer care staff.
- Difficult Women: Experiences of Health and Help-Seeking in Under-Recognised Areas of Women’s Health.
- Making Psychological Sense of an Altered Body.
- Managing bodies under constraint: Physical health, substance use and weight-related outcomes in forensic settings.
- Journeys through chronic pain towards a valued life: A narrative analysis.
Seicoleg Fforensig
- Managing bodies under constraint: Physical health, substance use and weight-related outcomes in forensic settings
Public Health
- Deaths of despair: Global perspectives and local legacies of deindustrialisation.
- Deindustrialisation and health: A scoping review and a quantitative analysis of gambling in Welsh coalfields.
Nid oes unrhyw arholiadau ysgrifenedig nas gwelwyd o’r blaen ar y rhaglen, ond byddwch yn cwblhau cyfanswm o 10 aseiniad, gan gynnwys traethawd ymchwil terfynol.
Caiff cymwyseddau mewn agweddau damcaniaethol ar seicoleg glinigol, sgiliau clinigol a materion proffesiynol eu gwerthuso trwy asesu parhaus trwy gyfrwng amrywiaeth o aseiniadau academaidd, cyflwyniadau, gwerthusiadau o gymwyseddau clinigol a phroffesiynol, adroddiadau ar weithgarwch clinigol (gan gynnwys un yn defnyddio therapi ymddygiad gwybyddol), darn o waith adfyfyriol, project dadansoddi cronfa ddata, project ymchwil sy’n gysylltiedig â gwasanaeth a phroject ymchwil mawr (y traethawd ymchwil). Er bod ffurf yr asesiadau wedi eu pennu, chi sy'n penderfynu ar y maes pwnc clinigol y mae arnoch eisiau rhoi sylw iddo.
Mae arholwyr allanol a chanddynt brofiad helaeth o raglenni hyfforddi seicoleg glinigol yn chwarae rhan amlwg yn y gwaith o feincnodi ein system farcio. Ar ddiwedd y drydedd flwyddyn, caiff y traethawd ymchwil ei werthuso trwy gyfrwng arholiad llafar (viva voce).
Gall hyfforddeion sy'n siarad Cymraeg wneud eu haseiniadau yn Gymraeg os dymunant. Mae'r rhaglen yn trefnu gwasanaethau cyfieithu.
Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymdeithasol
Rydym yn parhau i ystyried sut y gallwn ehangu ein hamrywiaeth ym mhob maes a chynyddu ein cynhwysiant cymdeithasol. Mae'r rhain yn gysyniadau mawr, sy'n gofyn am amser ac egni i ddatblygu ac rydym yn falch iawn o'r ffordd yr ydym wedi datblygu hyd yn hyn, ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd a gwahanol.
Yn 2021, gwnaethom sefydlu Is-bwyllgor Gwrth-hiliaeth, Gwrth-wahaniaethu a Hyrwyddo Gostyngeiddrwydd Diwylliannol (a gafodd ei hail-enwi'n ddiweddar yn CARIAD, sy'n golygu ‘love’ yn Gymraeg). Mae holl feysydd y rhaglen yn cael eu gwerthuso yn erbyn y cysyniadau hyn, ac mae datblygiad ar y gweill i edrych ar sut gall y cwricwlwm fod yn fwy sensitif a dad-drefedigaethol; a oes angen rhoi sylw i dueddiadau yn y broses ddethol; sut gall lleoliadau sicrhau bod gostyngeiddrwydd diwylliannol yn cael eu hyrwyddo; a bod hyfforddeion yn gallu dangos y gostyngeiddrwydd hwn ac adlewyrchu eu dealltwriaeth o'r meysydd hyn yn eu haseiniadau. Mae pob un o bwyllgorau eraill y rhaglen yn adrodd yn ôl i’r Is-bwyllgor Gwrth-hiliaeth, Gwrth-wahaniaethu a Hyrwyddo Gostyngeiddrwydd Diwylliannol am y gwaith y maent yn ei wneud i newid ein hymarfer. Rydym yn gweithio gyda'n hyfforddeion presennol a blaenorol, a chydweithwyr yn y GIG ar hyn, ac yn cysylltu â'r gymuned academaidd ehangach ym Mhrifysgol Bangor. Rydym wedi trefnu amrywiaeth o weithdai gyda hyfforddeion, aelodau o dîm y rhaglen a seicolegwyr clinigol lleol i hyrwyddo'r agenda hon. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Diverse Cymru (https://diversecymru.org.uk/) i ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach.
Rydym yn parhau i archwilio ffyrdd o gynyddu amrywiaeth yn ein proffesiwn. Mae dau gynllun mentora yn cael eu cynnig ar y cyd â Rhaglen Seicoleg Glinigol De Cymru. Fel arfer, mae ceisiadau ar gyfer y ddau gynllun yn agor yng nghanol mis Gorffennaf, gyda mentoriaid yn cael eu dyrannu yng nghanol mis Medi.
Cefnogi
I gefnogi ymgeiswyr o grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y broses ymgeisio, rydym yn cynnig chwech o sesiynau mentora i ymgeiswyr gyda naill ai seicolegydd clinigol cymwys neu dan hyfforddiant. Nod y sesiynau hyn yw cynnig dewis i’r unigolyn gael gwybodaeth am waith seicolegydd clinigol, trafod ei werthoedd a'i syniadau am seicoleg (clinigol), ac archwilio llwybrau i hyfforddiant. Gall yr ymgeiswyr hefyd drafod eu profiadau fel ymgeisydd o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Cysylltwch â Samantha Owen (Tiwtor Academaidd) samantha.owen@bangor.ac.uk i wybod mwy am y cynllun mentora hwn ac edrychwch ar Padlet.
Cam i Fyny
Rydym yn awyddus i gefnogi ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg drwy gynnig chwech o sesiynau mentora iddynt gyda naill ai seicolegydd clinigol cymwys neu dan hyfforddiant. Mae’r rhain yw cynnig dewis i’r unigolyn gael gwybodaeth am waith seicolegydd clinigol, trafod ei werthoedd a'i syniadau am seicoleg (clinigol), ac archwilio llwybrau i hyfforddiant. Cysylltwch â Carolien Lamers (Cyfarwyddwr Recriwtio a Dewis) c.lamers@bangor.ac.uk i wybod mwy am y cynllun mentora hwn ac edrychwch ar Padlet.
Profiad Byw
Rydym bob amser wedi cefnogi hyfforddeion â phrofiad byw ac unwaith eto'r adborth a gawn gan ein hyfforddeion yw ein bod yn gwneud gwaith da o gynnig cefnogaeth, ail-werthuso cynlluniau hyfforddi ar gyfer yr hyfforddeion a gwneud addasiadau rhesymol eraill. Rydym bellach hefyd yn rhoi sylw i werthfawrogi profiad byw ac wedi gwneud newidiadau i'r addysgu i adlewyrchu hyn. Rydym yn gweithio gyda hyfforddeion a goruchwylwyr i archwilio sut rydym yn parhau i werthfawrogi profiad byw ym mhob agwedd ar hyfforddiant clinigol.
Iechyd y Blaned
Gyda'r newidiadau sy'n digwydd yn y byd ac yn unol â meini prawf achredu BPS i gaffael y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i drawsnewid i ddyfodol cynaliadwy, mae grŵp o hyfforddeion, staff y rhaglen ac aelodau Panel y Bobl yn cyfarfod yn rheolaidd i archwilio cyfleoedd i gynnwys iechyd y blaned yn y cwricwlwm, lleoliadau ac aseiniadau.
Dewis Cyd-destunol
Wrth ddewis, rydym yn defnyddio gwybodaeth gyd-destunol a ddarperir gan ymgeiswyr fel rhan o'n proses llunio rhestr fer. Byddwn yn ystyried y wybodaeth hon wrth gynnig lleoedd cyfweliad. Rydym yn parhau i werthuso'r effaith y mae'r dull hwn yn ei chael ar gynyddu'r amrywiaeth yng ngharfannau ein hyfforddeion.
Cafodd Grŵp Ymglymiad Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr ein rhaglen ei enwi'n 'Panel Pobl' gan ei aelodau. Wedi'i sefydlu yn 2008, nod y Panel Pobl yw gwella dysgu hyfforddeion o safbwynt defnyddiwr gwasanaeth a gofalwr. Mae gennym gynrychiolwyr hyfforddeion o bob blwyddyn cohort ar y Panel Pobl, gan ddarparu cyfleoedd rheolaidd i hyfforddeion a defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ymgynghori â'i gilydd ar ystod eang o bynciau a meysydd datblygu sy'n berthnasol yn glinigol.
Ar hyn o bryd mae'r Panel Pobl yn cynnwys unigolion sydd wedi bod yn ymwneud â gwasanaethau seicoleg glinigol mewn amrywiaeth o leoliadau megis iechyd meddwl oedolion, seicoleg iechyd clinigol, gwasanaethau anabledd deallusol oedolion hŷn, plant ac oedolion, camddefnyddio sylweddau, gwasanaethau perinatal, ac anaf i'r ymennydd. Mae'r gynrychiolaeth ar y Panel Pobl yn newid yn rheolaidd gydag aelodau newydd yn ymuno ac aelodau hŷn yn gadael, naill ai pan fyddant yn teimlo bod eu hymglymiad wedi cyrraedd ei ddiwedd naturiol neu ar ôl tymor tair blynedd o ymwneud.
- Mae aelodau'r Panel Pobl yn ymwneud ag amrywiaeth o wahanol agweddau ar y rhaglen hyfforddi.
- Maent yn cynrychioli'r Panel Pobl ar bob pwyllgor rhaglen.
- Maent yn chwarae rhan allweddol yn ein gweithdrefnau dethol ar gyfer hyfforddeion a staff.
- Mae aelodau Panel y Bobl yn cyd-hwyluso gweithdai CBT lle maent yn rhoi adborth yn uniongyrchol i hyfforddeion ar eu perfformiad o safbwynt defnyddiwr gwasanaeth a gofalwr.
- Maent yn cymryd rhan weithredol mewn sawl sesiwn addysgu ar y rhaglen.
- Mae aelodau Panel y Bobl yn gweithredu fel ymgynghorwyr ar gyfer yr aseiniadau Dysgu yn Seiliedig ar Broblemau.
- Mae hyfforddeion yn gofyn yn rheolaidd i'r Panel Pobl wneud sylwadau ar agweddau ar eu prosiectau ymchwil, o syniadau dylunio cynnar i daflenni gwybodaeth cyfranogiad a ffurflenni caniatâd ac maent yn cyflwyno eu prosiectau ar wahanol gamau datblygu i gael cyngor ac adborth. Mae sawl hyfforddai wedi gweithio'n agos gydag arbenigwyr trwy brofiad ar eu tîm goruchwylio, gan gyd-gynhyrchu'r ymchwil. Mae trafodaethau bywiog yng nghyfarfodydd Panel y Bobl, gan drafod a dadlau meysydd o ddiddordeb cyffredin ac yn aml mae hyfforddeion yn adrodd bod y cyfnewidiadau hyn wedi eu helpu i ddatblygu eu syniadau a'u meddwl ymhellach.
- Mae aelodau Panel y Bobl yn mynychu'r ffair ymchwil flynyddol, lle maent yn rhannu eu syniadau ymchwil ochr yn ochr â seicolegwyr clinigol BIPBC, gyda'r hyfforddeion.
- Mae Panel y Bobl wedi adolygu'r canllawiau caniatâd cleientiaid ar gyfer hyfforddeion ar leoliad, a ffurflenni ar gyfer adborth defnyddwyr gwasanaeth i'w cwblhau ar ddiwedd cyfranogiad yr hyfforddai. Cynlluniwyd y rhain yn wreiddiol gan y Panel Pobl.
Mae trafodaethau bywiog yng nghyfarfodydd Panel y Bobl, gan drafod a dadlau meysydd o ddiddordeb cyffredin ac yn aml mae hyfforddeion yn adrodd bod y cyfnewidiadau hyn wedi eu helpu i ddatblygu eu syniadau a'u meddwl ymhellach. Mae aelodau Panel y Bobl yn mynychu'r ffair ymchwil flynyddol, lle maent gyda seicolegwyr clinigol BIPBC yn rhannu syniadau ar gyfer ymchwil ac aseiniadau academaidd gyda'r hyfforddeion. Mae sawl aelod o'r Panel Pobl yn ymwneud â dylunio a goruchwylio ymchwil neu grŵp llywio, ac rydym yn edrych ymlaen at ehangu'r cydweithrediadau a'r cyd-gynhyrchiadau hyn. Mae Panel y Bobl hefyd wedi cynorthwyo i ddatblygu canllawiau caniatâd cleientiaid ar gyfer hyfforddeion ar leoliad, a ffurflenni ar gyfer adborth defnyddwyr gwasanaeth i'w cwblhau ar ddiwedd cyfranogiad yr hyfforddai.
Yn ymweliad ail-achredu BPS yn 2026, derbyniodd y Rhaglen ganmoliaeth am y gwaith gyda Panel y Bobl. Nodwyd bod 'y rhaglen yn dangos ymrwymiad eithriadol i integreiddio defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn ystyrlon, gyda Panel y Bobl wedi'i ymgorffori ar draws addysgu, ymchwil a llywodraethu fel partneriaid cyfartal a gwerthfawr. Mae eu cyfranogiad dilys, eu cefnogaeth gref a'u dylanwad clir ar wneud penderfyniadau yn enghraifft o arfer gorau mewn hyfforddiant cynhwysol, wedi'i gyd-gynhyrchu'.
Rhown anogaeth gref i siaradwyr Cymraeg ymgeisio am le ar ein rhaglen gan fod canran helaeth o boblogaeth Gogledd Cymru yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.
Wrth lunio rhestr fer rydym yn dyfarnu pwyntiau ychwanegol am eich gallu i siarad Cymraeg (gan gynnwys dysgwyr). Nodwch ar eich cais pa mor hyfedr ydych chi yn y Gymraeg. Sylwch: gan fod nifer yr ymgeiswyr dwyieithog Cymraeg-Saesneg yn parhau'n isel (1% o'r holl ymgeiswyr yn y deyrnas unedig, yn unol â data cyfle cyfartal y tŷ clirio), mae mwyafrif yr hyfforddeion ym mhob carfan yn siarad Saesneg.
Mae ein hymrwymiad i hyfforddi seicolegwyr clinigol sy'n siarad Cymraeg a all gwrdd â’r anghenion clinigol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd unigryw i gynnwys agweddau ymarferol ar amrywiaeth ddiwylliannol yn ein hyfforddiant, a fydd yn ddeniadol i’n holl hyfforddeion. Mae cyllid ar gael i'r rhai hynny sy’n dymuno dysgu Cymraeg neu a hoffai ddilyn cwrs gloywi i fagu mwy o hyder. Cynhelir dosbarthiadau gan Brifysgol Bangor yn ogystal â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn gwahanol leoliadau ar draws Gogledd Cymru. Gall hyfforddeion hefyd fynd i wythnos ddwys o ddysgu Cymraeg sylfaenol cyn dechrau'r rhaglen. Dyma wybodaeth am yr hyn y gall y brifysgol ei gynnig: /cio/index.php.cy
Gall ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith gael cyfweliad Cymraeg a darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Gall hyfforddeion sy'n siarad Cymraeg gwblhau eu haseiniadau academaidd yn Gymraeg os dymunant. Mae'r rhaglen yn trefnu gwasanaeth cyfieithu i waith ysgrifenedig a chyfieithu ar yr un pryd i gyflwyniadau llafar. Gallwn ddarparu ystod o gyfleusterau i gefnogi hyfforddeion Cymraeg eu hiaith i ddatblygu eu sgiliau ymarfer clinigol yn yr iaith Gymraeg, gan gynnwys lleoliadau a, lle bo’n ymarferol, goruchwyliaeth.
Rydym yn awyddus i gefnogi ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg drwy gynnig chwech i wyth o sesiynau mentora iddynt gyda naill ai seicolegydd clinigol cymwys neu dan hyfforddiant. Nod y sesiynau hyn yw cynnig dewis i’r unigolyn gael gwybodaeth am waith seicolegydd clinigol, trafod ei werthoedd a'i syniadau am seicoleg (clinigol), ac archwilio llwybrau i hyfforddiant. Cysylltwch â Carolien Lamers (Cyfarwyddwr Recriwtio a Dewis) c.lamers@bangor.ac.uk i wybod mwy am y cynllun mentora.
Mae'r rhaglen yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu ymgeiswyr o bob cefndir ac o bob oed. Mae'r rhaglen hefyd yn gweithredu'r .
Cysylltwch â Carolien Lamers (Cyfarwyddwr Recriwtio a Dewis) c.lamers@bangor.ac.uk i wybod mwy ac i drafod y gefnogaeth a all fod ar gael i chi yn ystod y broses ddewis ac unrhyw addasiadau rhesymol y gallech fod eu hangen wrth hyfforddi. Gallwch nodi ar y ffurflen gais (Cynllun Hyderus o ran Anabledd) eich bod yn dymuno i’ch cais gael ei ystyried dan y cynllun. Bydd y meini prawf gofynnol a nodir o dan y gofynion mynediad gyda * yn cael eu cymhwyso i'ch cais.
Gallwch hefyd gysylltu â'n Swyddfa Myfyrwyr Anabl am ragor o wybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael i ymgeiswyr.
Ymgysylltiad a Chymorth i Hyfforddai
- Oherwydd maint gweddol fichant y carfanau o hyfforddeion mae gan y rhaglen awyrgylch gyfeillgar ac ymlaciol.
- Ar ôl cyrraedd, dyrennir 'cyfaill' i chi o un o'r carfannau eraill, a all helpu i chi ymgyfarwyddo â gogledd Cymru a'r rhaglen, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
- Er mwyn rhoi sylw i anghenion hyfforddi unigol, mae gan y rhaglen system o bennu Cydlynydd Hyfforddi i bob hyfforddai. Mae’r Cydlynydd Hyfforddi yn aelod seicoleg glinigol o dîm y rhaglen ac mae'n goruchwylio a monitro datblygiad hyfforddeion dros dair blynedd y rhaglen. Gall y Cydgysylltydd Hyfforddi roi cyngor i chi am aseiniadau drafft a dyma fydd eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw ymholiadau.
- Mae cyllid ar gael ichi dderbyn 16 o sesiynau datblygiad personol a phroffesiynol gan gwnselwyr cydnabyddedig, therapyddion neu seicolegwyr clinigol sy’n annibynnol ar y rhaglen. Mae’r sesiynau hyn yn wirfoddol ac yn gyfrinachol i’r hyfforddai a’r cwnselydd ac nid yw’r rhaglen yn gwybod pa hyfforddeion sy’n manteisio ar y sesiynau.
- Gall hyfforddeion ddewis mentor proffesiynol (seicolegydd clinigol GIG lleol) i drafod materion sy’n ymwneud â hyfforddiant.
- Mae cyllideb ar gyfer absenoldeb astudio blynyddol ar gael hefyd i fynd i gynadleddau a gweithdai allanol.
Mae dau gynrychiolydd dan hyfforddiant fesul carfan ar holl bwyllgorau'r rhaglen a Phanel y Bobl. Gofynnir hefyd i hyfforddeion roi sylwadau ar yr holl sesiynau addysgu ac mae gofyn iddynt lenwi ffurflen adborth ar bob lleoliad yr ânt iddo.
Mae ceir les ar gael i hyfforddeion ar y rhaglen ac mae llawer o hyfforddeion yn manteisio ar hyn.
Yn ogystal â llyfrgell y rhaglen ei hun sydd o fewn Llyfrgell Deiniol, caiff hyfforddeion ddefnyddio'r ystod eang o gyfleusterau yn llyfrgell y brifysgol ac yn yr Ysgol Seicoleg, (e.e. labordai seicoleg a chyfrifiadurol). Gall hyfforddeion hefyd gael mynediad i lyfrgelloedd y GIG ym mhrif ysbytai’r ardal. Mae yna ystafell adnoddau bwrpasol i hyfforddeion sy'n cynnwys cyfrifiaduron y brifysgol a'r GIG. Mae gennym ni hefyd lyfrgell brawf gydag asesiadau, y gall hyfforddeion eu benthyca ar gyfer eu gwaith clinigol ac i ymarfer ar gyfer eu hasesiadau cymhwysedd yn rhan o'u lleoliadau.
Caiff pob hyfforddai ei gofrestru gyda llyfrgell Prifysgol Bangor, sy'n cymryd rhan mewn cynllun ledled y DU o'r enw SCONUL Research Extra. Mae hyn yn rhoi cyfle ichi ymuno a benthyca o lyfrgelloedd prifysgolion eraill a allai fod mewn lleoliad mwy cyfleus i chi. Gallwch fenthyca hyd at 20 eitem o lyfrgell arall y flwyddyn, sy'n eich galluogi i gael gafael ar gyfnodolion, llyfrau a thraethodau ymchwil.
Canolfan Brailsford yw canolfan chwaraeon y brifysgol ac mae'n darparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden i staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor ac i'r cyhoedd. Ceir cyfleusterau dan do ar gyfer amrywiaeth eang o chwaraeon a gweithgareddau cadw’n heini, yn cynnwys hyfforddiant pwysau, criced dan do, sboncen, trampolinio a llawer mwy.
Mae cyfleusterau awyr agored helaeth ar gael ar ddau safle, sef Canolfan Brailsford a safle'r Normal. Mae'r ddau o fewn pellter cerdded i'n hystafelloedd dysgu ym Mangor.
Ceir nifer o werthwyr tai ac asiantau gosod tai yn ardal Bangor a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i rywle i fyw os bydd rhaid i chi symud dros dro neu'n barhaol yn ystod eich hyfforddiant.
Dyma rai dolenni:
www.reedsrains.co.uk
www.dafyddhardy.co.uk
www.rightmove.co.uk
Mae yn feithrinfa ddi-elw a gyllidir gan y brifysgol ac mae'n agored i bob sector o'r gymuned gyda 50 o leoedd gofal plant ar gael, 20 i fabanod o 3 mis oed a 30 i blant bach nad ydynt yn yr ysgol. Yn ogystal, ar gyfer plant 5 – 11 oed mae'r cyfadeilad yn cynnwys canolfan ar ôl ysgol a chynllun chwarae yn ystod gwyliau tymor ysgol.
Ariannu
Mae hyfforddeion yn weithwyr llawn amser Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn cael gwyliau blynyddol ac yn derbyn buddion eraill yn unol â hawliau arferol y GIG. Ar ôl dechrau'r rhaglen, cewch eich talu ar bwynt cyntaf Band 6 y graddfeydd cyflog Agenda ar gyfer Newid (www.healthcareers.nhs.uk) a byddant yn symud i'r ail a'r trydydd pwynt cyflog yn flynyddol, yn ddibynnol ar symud ymlaen yn llwyddiannus trwy'r rhaglen.
Ariennir swyddi hyfforddeion gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), a fydd hefyd yn talu'r ffioedd prifysgol. Ar hyn o bryd, mae 16 o leoedd hyfforddi ar gael bob blwyddyn.
Oherwydd rheoliadau cyllido a chyfyngiadau Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), ni allwn dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr nad oes ganddynt Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (statws preswylydd sefydlog a chyn-sefydlog) neu Ganiatâd i Aros am Gyfnod Amhenodol/Sefydlog yn y Deyrnas Unedig.
Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am reoliadau statws ffioedd ar wefan .
Telir costau teithio o leoliad clinigol y cytunir arno. Bydd taliadau am lety dros nos, naill ai yn ystod lleoliad neu flociau addysgu academaidd, ar gael lle byddai hyn yn fwy cost effeithiol na theithio bob dydd.
Gofynion Mynediad
Mae swydd-ddisgrifiad a gofynion personol Seicolegydd Clinigol dan hyfforddian Raglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru ar gael yma.
Defnyddir yr holl feini prawf isod yn y broses o greu rhestr fer. Ceir y wybodaeth angenrheidiol o ffurflen gais y TÅ· Clirio a'ch trawsgrifiad academaidd. Mae'r meini prawf a nodir gyda * yn cyfeirio at y meini prawf sylfaenol y mae'n rhaid i bob ymgeisydd eu cyflawni. Asesir y meini prawf hyn gan Seicolegwyr Clinigol y GIG a staff y rhaglen. Sylwch: Oherwydd trefniadau cyllido Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar gyfer lleoedd ar y rhaglen, ni allwn ystyried ceisiadau nad ydynt yn gymwys ar gyfer statws ffioedd cartref.
Dim ond y wybodaeth a grybwyllir isod sy'n cael ei lawrlwytho o'ch cais yn ystod y broses o lunio rhestr fer, nid ydym yn gwybod eich enw, oedran, cyfeiriad ac ati. Ni fyddwn yn lawrlwytho’r ffurflen gais gyfan hyd nes y byddwn wedi penderfynu pwy i'w gwahodd am gyfweliad, pan fyddwn yn adolygu'r cais yn ei gyfanrwydd gan ddefnyddio egwyddorion recriwtio diogel.
- Cyn gwneud cais, dylech eisoes feddu ar radd anrhydedd sengl neu gydanrhydedd ddosbarth I neu II(i) mewn Seicoleg (neu radd drosi)* a dylech fod yn gymwys ar gyfer Aelodaeth Siartredig ar Sail Raddedig. Byddwn, ar y cyd â Chymdeithas Seicolegol Prydain, yn cymhwyso meini prawf tebyg i feini prawf gradd israddedig mewn seicoleg yn achos gradd drosi seicoleg (www.bps.org.uk/membership/eligibility).
- Dim ond os ydynt wedi cwblhau PhD y caiff ymgeiswyr â gradd israddedig seicoleg 2.2 eu hystyried. Nid ydym yn dyfarnu pwyntiau i raddau nad ydynt mewn seicoleg.
- Mae angen i chi fod wedi cwblhau'r radd sy'n rhoi cymhwysedd i chi ar gyfer aelodaeth siartredig ar sail raddedig pan fyddwch yn gwneud cais, sef eich gradd israddedig neu drosi.
- Disgwylir y byddwch wedi cael blwyddyn o leiaf o brofiad clinigol cyflogedig/profiad ymchwil*. Dylai profiad clinigol perthnasol roi'r cyfle i chi ryngweithio'n helaeth â phobl ag anawsterau iechyd neu seicolegol sylweddol, yn ddelfrydol dan oruchwyliaeth seicolegydd clinigol. Bydd profiad a gafwyd mewn swyddi cyflogedig eraill yn gweithio gyda phoblogaeth glinigol yn berthnasol hefyd (e.e. gweithiwr iechyd meddwl, cynorthwyydd gofal, eiriolwr). Dylai profiad ymchwil gynnwys ymchwilio i ffenomena seicolegol o fewn poblogaeth glinigol. Byddwn yn cydnabod uchafswm cyfwerth â dwy flynedd llawn amser o brofiad perthnasol cyflogedig.
- Nid yw profiad clinigol a gafwyd ac sydd ei angen fel rhan o hyfforddiant/addysg arall, yn hytrach na chyflogaeth â thâl, yn cael ei ystyried yn brofiad clinigol perthnasol.
- Er nad yw gwaith gwirfoddol yn cael ei ystyried yn brofiad clinigol cyflogedig perthnasol, dyfernir pwyntiau am hyn.
- Yn ogystal â'r uchod, disgwylir i chi gyflwyno ffurflen gais o safon dda*, a fydd yn cael ei hasesu gan ddau seicolegydd clinigol. Byddant yn edrych ar ramadeg a sillafu, yn ogystal â'ch dealltwriaeth o seicoleg a'ch sylfaen gwerthoedd.
- Er mwyn dangos hyn, rhaid i chi sicrhau eich bod yn ateb y cwestiynau agored yn llawn. Defnyddiwch y cyfyngiad ar nifer y nodau yn ddoeth ac ystyriwch eich bod efallai eisoes wedi rhoi rhywfaint o wybodaeth i ni mewn mannau eraill, e.e., yn yr adran profiad gwaith. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ateb y cwestiynau a ofynnir, yn hytrach na cheisio dweud popeth rydych chi'n meddwl y dylem ei wybod.
Yn eich datganiad personol, hoffem glywed am eich myfyrdodau ar yr hyn rydych wedi'i ddysgu o'ch gwaith academaidd a chlinigol, a/neu eich profiadau personol, yn hytrach na sgiliau penodol rydych wedi'u caffael. Rydym yn deall efallai yr hoffech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i'ch helpu i ddrafftio datganiad, ond gwnewch yn siŵr ei fod yn adlewyrchu eich llais eich hun. Mae gennym ddiddordeb mewn dod i'ch adnabod. - Rhaid i'ch cais gynnwys dau ddatganiad addasrwydd boddhaol. Disgwylir i ymgeiswyr gael datganiadau addasrwydd academaidd a chlinigol da sy'n cynnig cefnogaeth*. Mae angen i un datganiad addasrwydd ddod gan berson sy'n gallu rhoi sylwadau ar eich galluoedd academaidd ac ymchwil. Fel arfer, darlithydd neu diwtor prifysgol yw'r person hwn. Os nad yw eich darlithydd neu diwtor ar gael mwyach, ystyriwch opsiynau ymchwil/academaidd yn eich rôl gyflogaeth a gweld a all rhywun arall roi sylwadau ar eich sgiliau academaidd ac ymchwil a darparu'r datganiad addasrwydd.
- Mae'r datganiad addasrwydd arall yn ymwneud â'ch sgiliau clinigol, a byddai'n well pe bai'n cael ei ddarparu gan y cyflogwr neu'r goruchwyliwr yn eich swydd ddiweddaraf, oni bai eich bod wedi bod yn gweithio gyda nhw am gyfnod cymharol fyr yn unig. Yn yr achos hwnnw, gallech ystyried gofyn i'r person y gwnaethoch weithio gydag ef o'r blaen, ac sydd wedi eich adnabod am gyfnod hirach. Mae lle ar y ffurflen gais i egluro pam rydych wedi dewis y bobl sy'n darparu'r datganiadau addasrwydd.
- Mae dau seicolegydd clinigol yn asesu'r datganiad. Os ydynt yn ystyried nad yw'r datganiad yn cynnig cefnogaeth, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn siarad â'r bobl sy'n darparu eich datganiad addasrwydd i sicrhau eu bod yn gallu cefnogi eich cais yn llwyr.
- Rydym hefyd yn cydnabod eich cymhelliant a'ch ymrwymiad drwy ddyfarnu pwyntiau am unrhyw gyhoeddiadau mewn cyfnodolion neu gylchlythyrau. Nid oes angen i'r cyhoeddiadau ymddangos mewn cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid; gallent ymddangos mewn cylchlythyr, neu fod yn adolygiad llyfr yn *The Psychologist*, er enghraifft. Cofiwch eu cyflwyno gan ddefnyddio arddull cyfeirio APA.
- Rydym hefyd yn cydnabod unrhyw waith gwirfoddol rydych wedi'i wneud. Nid oes meini prawf lleiafswm yn berthnasol i'r naill na'r llall.
- Rydym wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth y proffesiwn ac rydym yn defnyddio gwybodaeth gyd-destunol yn ein proses ddethol. Gweler yr adran Dethol Cyd-destunol am ragor o fanylion.
Rydym yn annog siaradwyr Cymraeg yn gryf i wneud cais am y rhaglen hon, ac rydym yn dyfarnu pwyntiau ychwanegol yn y cam llunio rhestr fer am eich gallu i siarad Cymraeg – boed hynny'n rhugl neu fel dysgwr. Mae statws cyfreithiol yr iaith Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru (gan gynnwys iechyd), ynghyd â'r gyfran sylweddol o'r boblogaeth yng Ngogledd a Gorllewin Cymru sy'n siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf, yn golygu bod y rhaglen yn croesawu'r cyfle i hyfforddi pobl i ddiwallu gwir angen am ddarparu gofal seicolegol o'r ansawdd gorau yn yr iaith Gymraeg. Nodwch eich lefel o hyfedredd yn y Gymraeg ar y ffurflen gais.
Gallwn ddarparu ystod o gyfleusterau i gefnogi hyfforddeion Cymraeg eu hiaith i ddatblygu eu sgiliau ymarfer clinigol yn yr iaith Gymraeg, gan gynnwys lleoliadau a, lle bo’n ymarferol, goruchwyliaeth, yn ogystal â chyflwyno gwaith ysgrifenedig a gwaith arall yn Gymraeg. Gallwn hefyd gefnogi hyfforddeion sydd eisiau dysgu Cymraeg, sy’n dymuno gloywi eu sgiliau, neu ddatblygu mwy o hyder i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn ymarferol.
Gan fod nifer yr ymgeiswyr dwyieithog Cymraeg-Saesneg yn parhau'n isel (1% o'r holl ymgeiswyr yn y Deyrnas Unedig, yn unol â data cyfle cyfartal y Tŷ Clirio), mae mwyafrif yr hyfforddeion ym mhob carfan yn siarad Saesneg. Rydym yn cynnig sesiynau mentora i ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith. Am fwy o wybodaeth, gweler yr Adran Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymdeithasol ar ein gwefan, neu fel arall cysylltwch â Carolien Lamers (Cyfarwyddwr Recriwtio a Dewis) c.lamers@bangor.ac.uk
Mae hyfforddiant mewn carfan a chymuned ddwyieithog, sy'n aml yn wledig, yn rhoi cyfleoedd gwych i chi wella'ch gwerthfawrogiad diwylliannol a'ch sgiliau o fewn ymarfer clinigol.
Os nad yw Saesneg yn iaith gyntaf i chi, gofynnir i chi roi tystiolaeth eich bod yn medru Saesneg yn ddigonol. Rhaid i chi fod wedi cael lefel 8 yn y cynllun IELTS, heb unrhyw elfennau o dan 7.5. Nid yw hyn yn berthnasol i ymgeiswyr dwyieithog Cymraeg/Saesneg. Bydd wedi cwblhau rhaglen seicoleg academaidd yn y Deyrnas Unedig trwy gyfrwng Saesneg, yn cael ei ystyried yn dystiolaeth o’ch gafael ar yr iaith Saesneg.
Mae'r rhaglen yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu ymgeiswyr o bob cefndir ac o bob oed. Mae'r rhaglen yn gweithredu'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd.
Ni fydd prifysgolion fel rheol yn caniatáu i chi gofrestru am Ddoethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol os ydych wedi cofrestru am unrhyw radd arall ar hyn o bryd, e.e. PhD neu raglen Meistr. Os oes gennych unrhyw ofynion sy'n weddill o raglen arall, efallai y bydd gofyn i chi dynnu'n ôl o'r rhaglen honno er mwyn derbyn lle neu i barhau â'ch astudiaethau at Ddoethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol. Os ydych yng nghamau olaf unrhyw raglen o'r fath, h.y. rydych wedi cyflwyno traethawd ymchwil neu ar fin gwneud hynny ar adeg ymgeisio, efallai y gellir ystyried eich cais.
Edrychwch hefyd ar y dudalen wybodaeth am gyllid; mae hon yn nodi bod angen i chi fod yn gymwys ar gyfer statws ffioedd 'cartref' a bod yn rhaid i chi fod â statws o dan Gynllun Preswylio'n Barhaol i Ddinasyddion yr UE (statws preswylydd sefydledig neu statws preswylydd sefydledig dros dro) neu statws preswylydd sefydledig / Caniatâd amhenodol i aros (ILR) yn y DU. Ni allwn dderbyn ymgeiswyr sydd ag opsiynau cyllido eraill. Edrychwch ar wefan y Clearing House (https://www.clearing-house.org.uk/) i weld pa raglenni sy'n cynnig yr opsiwn hwn.
Nid ydym yn gweithredu rheol ariannu 2 flynedd y GIG.
Sylwch: Os ydych wedi dechrau neu gwblhau eich hyfforddiant CAAPs yn Ne Cymru, bydd angen cyfnod o ddwy flynedd rhyngoch yn gorffen eich hyfforddiant a ariennir gan Adding a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ac yn dechrau hyfforddiant mewn seicoleg glinigol, fel y nodir yn eich contract.
Mae ein rhaglen wedi cyflwyno prosesau recriwtio cyd-destunol ers y myfyrwyr a dderbyniwyd yn 2022. Mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth y gall gosod llwyddiannau unigolion yn eu cyd-destun gan ddefnyddio gwybodaeth ychwanegol am eu cefndir addysgol, cymdeithasol ac economaidd arwain at brosesau dewis tecach a mwy cynhwysol. Gall y wybodaeth hon ein helpu i adnabod unigolion sydd â photensial cryf ar gyfer llwyddiant ar lefel doethuriaeth ac o fewn y proffesiwn, na fyddent efallai wedi cael eu hadnabod fel arall.
Bydd y Tŷ Clirio yn eich gwahodd i gwblhau arolwg i gasglu data Dethol Cyd-destunol ar wahân i’r ffurflen gais. Mae’r Grŵp Hyfforddwyr mewn Seicoleg Glinigol wedi cytuno ar y cwestiynau yn yr arolwg hwn, sydd â thystiolaeth ar gyfer gwella cynwysoldeb a thegwch prosesau recriwtio.
Mae cwblhau’r arolwg hwn yn ddewisol, fodd bynnag, os gallwch ateb unrhyw un o’r cwestiynau sy’n rhoi rhywfaint o gefndir ychwanegol amdanoch, a’ch bod yn hapus i ddarparu hwn i ni drwy’r Tŷ Clirio, yna byddem yn eich annog i wneud hynny.
Rydym yn cynnwys eich gwybodaeth gyd-destunol yng ngham olaf ein proses llunio rhestr fer, ar ôl cymhwyso’r gofynion mynediad gofynnol a ddisgrifiwyd yn gynharach.
Bydd yr ymgeiswyr sy'n bodloni ein holl ofynion sylfaenol, ac nad ydynt yn cael eu gwahodd am gyfweliad ar sail eu safle neu am gael adolygu eu cais o dan y cynllun Hyderus o ran Anabledd, wedyn yn cael eu hadolygu gan ystyried y wybodaeth gyd-destunol a ddarparwyd.
Caiff y rhai sydd â'r nifer uchaf o 'faneri' eu gwahodd am gyfweliad.
Bydd nifer y lleoedd sydd ar gael i ymgeiswyr a wahoddir am gyfweliad gyda detholiad cyd-destunol yn amrywio'n flynyddol. Mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd am gyfweliad, ac maent yn cael eu llenwi gan y rhai a wahoddwyd yn seiliedig ar eu sgôr a'r cynllun Hyderus o ran Anabledd. Yna bydd y lleoedd sy'n weddill yn cael eu dyrannu i ymgeiswyr â'r nifer uchaf o faneri.
Yn ystod y broses ddewis byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost yn unig. Felly, edrychwch ar eich negeseuon e-bost, yn ogystal ag unrhyw e-byst a all fod wedi mynd i'ch ffolder sbam, a rhowch wybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch manylion cyswllt.
Mae Seicolegwyr Clinigol y GIG lleol, aelodau o Banel y Bobl a staff y rhaglen yn cyfrannu at bob agwedd ar y broses ddewis, gan gymhwyso’r meini prawf fel y nodir hwy o dan Ofynion Mynediad. Os nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad, rydym yn argymell eich bod yn gwirio eich manylion yn erbyn ein meini prawf dewis.
Caiff eich cais ei asesu gan aelodau tîm y rhaglen, aelodau'r Panel Pobl a seicolegwyr clinigol lleol; dim ond y rhannau perthnasol sydd angen eu marcio y maent yn eu gweld. Nid oes ganddynt fynediad at eich manylion personol, fel enw, cyfeiriad, oedran, ethnigrwydd ac ati, dim ond eich rhif adnabod Clearing House.
Ar gyfer y broses o lunio'r rhestr fer, rydym yn defnyddio'r holl ofynion mynediad sylfaenol, a nodir o dan 'gofynion mynediad' uchod gyda seren (*). Rydym yn dyfarnu pwyntiau ychwanegol am wirfoddoli, cyhoeddiadau, ac i ymgeiswyr sy'n siaradwyr Cymraeg rhugl ac yn ddysgwyr.
O'r rhestr fer derfynol, rydym yn gwahodd yr ymgeiswyr sydd wedi sgorio uchaf, hyd at dair gwaith nifer y lleoedd hyfforddi sydd ar gael. Ar gyfer carfan 2026, roedd gennym 16 lle hyfforddi.
Mae nifer o ymgeiswyr y caiff eu ceisiadau eu hasesu o dan y cynllun 'Disability Confident', ac sydd wedi bodloni'r holl feini prawf sylfaenol, hefyd yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Mae'r nifer hwn yn amrywio bob blwyddyn.
Dim ond ar y cam o lunio'r rhestr fer derfynol y caiff y wybodaeth a ddarparwyd gennych i Clearing House ynghylch ffactorau cyd-destunol ei hychwanegu. Gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi bodloni'r meini prawf sylfaenol ac sydd â'r nifer uchaf o ffactorau cyd-destunol i lenwi'r lleoedd cyfweld sy'n weddill. Roedd gennym gyfanswm o 72 lle cyfweld ar gael yn ystod cyfweliadau 2026.
Unwaith y byddwn wedi nodi pwy fydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad – yn seiliedig ar eich rhif adnabod Clearing House yn unig – caiff y ffurflenni cais eu lawrlwytho yn eu cyfanrwydd a'u hadolygu gan gyfarwyddwr y rhaglen, y cyfarwyddwr recriwtio a dethol, ac aelodau eraill o'r tîm dethol yn unol ag egwyddorion recriwtio diogel.
Os na chawsoch eich dewis ar gyfer y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gwirio eich manylion yn erbyn ein holl feini prawf dethol, ac yn gwirio gyda'r bobl a ddarparodd eich datganiad addasrwydd eu bod yn cefnogi eich cais yn llawn.
Mae'n bosibl eich bod wedi bodloni'r holl feini prawf sylfaenol ond na chawsoch eich rhestru'n ddigon uchel i gael eich gwahodd i gyfweliad.
Oherwydd nifer y ceisiadau, mae'n ddrwg iawn gennym, ond nid ydym bellach yn gallu cynnig adborth personol os na chewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer.
Mae'r cyfweliadau ar gyfer 2027 wedi'u trefnu ar gyfer 5-9 Ebrill a byddant yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Bangor. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, bydd y hyfforddeion hefyd yn eich gwahodd i ymuno â nhw mewn digwyddiad gyda'r nos (fel arfer y noson cyn eich cyfweliad), lle cewch gyfle i siarad â hyfforddeion cyfredol a chlywed ychydig mwy am y rhaglen hyfforddi. Ni fydd aelodau'r panel cyfweld yn bresennol yn y digwyddiad hwn.
Os cewch eich gwahodd am gyfweliad, byddwn yn gofyn i chi gyflwyno tystiolaeth i gadarnhau pwy ydych chi neu dystiolaeth o'ch statws, er enghraifft, darparu eich pasbort, trwydded yrru ffoto-gerdyn ac ati.
Fel arfer, rydym yn cyfweld â thair gwaith nifer y lleoedd hyfforddi a ariennir. Mae'r paneli cyfweld fel arfer yn cynnwys Seicolegwyr Clinigol lleol, aelodau o'r Panel Pobl ac aelodau o dîm y rhaglen; maent yn cynnwys asesu sgiliau clinigol, academaidd, ymchwil ac adlewyrchol, yn ogystal ag addasrwydd ar gyfer hyfforddiant clinigol. Cofiwch nad cyfweliad ar gyfer 'swydd' draddodiadol yw hwn, lle mae angen i chi ddangos eich bod yn gallu gwneud y gwaith. Mae gennym ddiddordeb yn eich gallu i feddwl yn feirniadol ac yn ddadansoddol, ac yn eich gallu i drosglwyddo gwybodaeth i wahanol feysydd clinigol. Rydym am weld eich cymhwysedd i weithredu ar lefel doethuriaeth. Felly, meddyliwch yn eang ac yn greadigol am y cwestiynau.
Cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Bangor, a thrwy gydol y broses byddwch yn cael cefnogaeth gan staff y rhaglen, sy'n gwneud eu gorau glas i wneud i chi deimlo'n gysurus.
Mae'r paneli cyfweld fel arfer yn cynnwys seicolegwyr clinigol lleol, aelodau o'r Panel Pobl (ein grŵp cynghori o arbenigwyr trwy brofiad) ac aelodau o dîm y rhaglen. Mae ein proses gyfweld yn cynnwys dau elfen:
• Cyfweliad cyfunol sy'n anelu at asesu eich cymwyseddau academaidd, ymchwil, clinigol ac adlewyrchol. Hyd: 45 munud.
• Tasg ysgrifenedig lle mae angen i chi gyfuno a gwerthuso ymchwil yn feirniadol. Hyd: 60 munud.
Adborth
• Cysylltir â chi ar ddiwedd yr wythnos gyfweld gyda'r canlyniad.
• Gallwch ffonio ar ddyddiad penodol i gael adborth ar eich cyfweliad; bydd hwn yn cynnwys gwybodaeth am sut y gwnaethoch chi berfformio yn y ddwy elfen o'r cyfweliad.
• Hysbysir y rhai sydd ar y rhestr wrth gefn am eu safle ar y rhestr honno.
• Hysbysir y person sydd yn y safle cyntaf ar y rhestr wrth gefn am y sefyllfa hon, yn enwedig pan fydd newid wedi digwydd i'r rhestr. Gallwch gysylltu â ni i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich safle ar y rhestr wrth gefn drwy nwcppselection@bangor.ac.uk
Byddwn yn anfon pecyn gwybodaeth i hyfforddeion newydd ynglŷn â'r rhaglen a'r ardal leol cyn i chi ddechrau hyfforddi. Bydd angen i chi hefyd roi tystiolaeth o'ch cymwysterau trwy ddarparu tystysgrif wreiddiol a dogfennau perthnasol eraill.
Yn ystod y broses ddewis byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost yn unig. Felly, edrychwch ar eich negeseuon e-bost, yn ogystal ag unrhyw e-byst a all fod wedi mynd i'ch ffolder sbam, a rhowch wybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch manylion cyswllt.
Mae Seicolegwyr Clinigol y GIG lleol, aelodau o Banel y Bobl a staff y rhaglen yn cyfrannu at bob agwedd ar y broses ddewis, gan gymhwyso’r meini prawf fel y nodir hwy o dan Ofynion Mynediad. Os nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad, rydym yn argymell eich bod yn gwirio eich manylion yn erbyn ein meini prawf dewis.
Caiff eich cais ei asesu gan aelodau tîm y rhaglen, aelodau'r Panel Pobl a seicolegwyr clinigol lleol; dim ond y rhannau perthnasol sydd angen eu marcio y maent yn eu gweld. Nid oes ganddynt fynediad at eich manylion personol, fel enw, cyfeiriad, oedran, ethnigrwydd ac ati, dim ond eich rhif adnabod Clearing House.
Ar gyfer y broses o lunio'r rhestr fer, rydym yn defnyddio'r holl ofynion mynediad sylfaenol, a nodir o dan 'gofynion mynediad' uchod gyda seren (*). Rydym yn dyfarnu pwyntiau ychwanegol am wirfoddoli, cyhoeddiadau, ac i ymgeiswyr sy'n siaradwyr Cymraeg rhugl ac yn ddysgwyr.
O'r rhestr fer derfynol, rydym yn gwahodd yr ymgeiswyr sydd wedi sgorio uchaf, hyd at dair gwaith nifer y lleoedd hyfforddi sydd ar gael. Ar gyfer carfan 2026, roedd gennym 16 lle hyfforddi.
Mae nifer o ymgeiswyr y caiff eu ceisiadau eu hasesu o dan y cynllun 'Disability Confident', ac sydd wedi bodloni'r holl feini prawf sylfaenol, hefyd yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Mae'r nifer hwn yn amrywio bob blwyddyn.
Dim ond ar y cam o lunio'r rhestr fer derfynol y caiff y wybodaeth a ddarparwyd gennych i Clearing House ynghylch ffactorau cyd-destunol ei hychwanegu. Gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi bodloni'r meini prawf sylfaenol ac sydd â'r nifer uchaf o ffactorau cyd-destunol i lenwi'r lleoedd cyfweld sy'n weddill. Roedd gennym gyfanswm o 72 lle cyfweld ar gael yn ystod cyfweliadau 2026.
Unwaith y byddwn wedi nodi pwy fydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad – yn seiliedig ar eich rhif adnabod Clearing House yn unig – caiff y ffurflenni cais eu lawrlwytho yn eu cyfanrwydd a'u hadolygu gan gyfarwyddwr y rhaglen, y cyfarwyddwr recriwtio a dethol, ac aelodau eraill o'r tîm dethol yn unol ag egwyddorion recriwtio diogel.
Os na chawsoch eich dewis ar gyfer y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gwirio eich manylion yn erbyn ein holl feini prawf dethol, ac yn gwirio gyda'r bobl a ddarparodd eich datganiad addasrwydd eu bod yn cefnogi eich cais yn llawn.
Mae'n bosibl eich bod wedi bodloni'r holl feini prawf sylfaenol ond na chawsoch eich rhestru'n ddigon uchel i gael eich gwahodd i gyfweliad.
Oherwydd nifer y ceisiadau, mae'n ddrwg iawn gennym, ond nid ydym bellach yn gallu cynnig adborth personol os na chewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer.
Mae'r cyfweliadau ar gyfer 2027 wedi'u trefnu ar gyfer 5-9 Ebrill a byddant yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Bangor. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, bydd y hyfforddeion hefyd yn eich gwahodd i ymuno â nhw mewn digwyddiad gyda'r nos (fel arfer y noson cyn eich cyfweliad), lle cewch gyfle i siarad â hyfforddeion cyfredol a chlywed ychydig mwy am y rhaglen hyfforddi. Ni fydd aelodau'r panel cyfweld yn bresennol yn y digwyddiad hwn.
Os cewch eich gwahodd am gyfweliad, byddwn yn gofyn i chi gyflwyno tystiolaeth i gadarnhau pwy ydych chi neu dystiolaeth o'ch statws, er enghraifft, darparu eich pasbort, trwydded yrru ffoto-gerdyn ac ati.
Fel arfer, rydym yn cyfweld â thair gwaith nifer y lleoedd hyfforddi a ariennir. Mae'r paneli cyfweld fel arfer yn cynnwys Seicolegwyr Clinigol lleol, aelodau o'r Panel Pobl ac aelodau o dîm y rhaglen; maent yn cynnwys asesu sgiliau clinigol, academaidd, ymchwil ac adlewyrchol, yn ogystal ag addasrwydd ar gyfer hyfforddiant clinigol. Cofiwch nad cyfweliad ar gyfer 'swydd' draddodiadol yw hwn, lle mae angen i chi ddangos eich bod yn gallu gwneud y gwaith. Mae gennym ddiddordeb yn eich gallu i feddwl yn feirniadol ac yn ddadansoddol, ac yn eich gallu i drosglwyddo gwybodaeth i wahanol feysydd clinigol. Rydym am weld eich cymhwysedd i weithredu ar lefel doethuriaeth. Felly, meddyliwch yn eang ac yn greadigol am y cwestiynau.
Cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Bangor, a thrwy gydol y broses byddwch yn cael cefnogaeth gan staff y rhaglen, sy'n gwneud eu gorau glas i wneud i chi deimlo'n gysurus.
Mae'r paneli cyfweld fel arfer yn cynnwys seicolegwyr clinigol lleol, aelodau o'r Panel Pobl (ein grŵp cynghori o arbenigwyr trwy brofiad) ac aelodau o dîm y rhaglen. Mae ein proses gyfweld yn cynnwys dau elfen:
• Cyfweliad cyfunol sy'n anelu at asesu eich cymwyseddau academaidd, ymchwil, clinigol ac adlewyrchol. Hyd: 45 munud.
• Tasg ysgrifenedig lle mae angen i chi gyfuno a gwerthuso ymchwil yn feirniadol. Hyd: 60 munud.
Adborth
• Cysylltir â chi ar ddiwedd yr wythnos gyfweld gyda'r canlyniad.
• Gallwch ffonio ar ddyddiad penodol i gael adborth ar eich cyfweliad; bydd hwn yn cynnwys gwybodaeth am sut y gwnaethoch chi berfformio yn y ddwy elfen o'r cyfweliad.
• Hysbysir y rhai sydd ar y rhestr wrth gefn am eu safle ar y rhestr honno.
• Hysbysir y person sydd yn y safle cyntaf ar y rhestr wrth gefn am y sefyllfa hon, yn enwedig pan fydd newid wedi digwydd i'r rhestr. Gallwch gysylltu â ni i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich safle ar y rhestr wrth gefn drwy nwcppselection@bangor.ac.uk
Byddwn yn anfon pecyn gwybodaeth i hyfforddeion newydd ynglŷn â'r rhaglen a'r ardal leol cyn i chi ddechrau hyfforddi. Bydd angen i chi hefyd roi tystiolaeth o'ch cymwysterau trwy ddarparu tystysgrif wreiddiol a dogfennau perthnasol eraill.
Mae'r rhaglen yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu ymgeiswyr o bob cefndir ac o bob oed. Mae'r rhaglen yn gweithredu'r Cynllun .
I ymgeiswyr sydd am gael eu cais wedi'i asesu o dan y cynllun hwn, nodwch hyn ar eich ffurflen gais (Y Pethau Sylfaenol - Cynllun Hyderus o ran Anabledd)
• Bydd angen i chi fod wedi bodloni'r holl feini prawf gofynnol a nodir â * yn yr adran gofynion mynediad i gael eich ystyried ar gyfer cyfweliad. Yn ogystal â'r gofynion profiad academaidd* a chlinigol* (gweler o dan ofynion mynediad), y ddau feini prawf gofynnol arall yw datganiad personol wedi'i ysgrifennu'n dda* a dau ddatganiad addasrwydd cefnogol*.
• Anfonwch e-bost at Carolien Lamers am ragor o wybodaeth ac i drafod y gefnogaeth a all fod ar gael i chi yn ystod y broses ddethol ac unrhyw addasiadau rhesymol a allai fod yn ofynnol yn ystod hyfforddiant.
• Os ydych chi wedi datgan eich bod chi eisiau i'ch cais gael ei adolygu o dan y cynllun hyderus o ran anabledd ac rydym yn gwahodd i gyfweliad, byddwn yn gofyn i chi a ellir gwneud unrhyw addasiadau rhesymol yn ystod y broses gyfweld. Atebwch y cais hwn erbyn y dyddiad a nodir yn y llythyr, gan na allwn ystyried ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn.
• Gallwch hefyd gysylltu â'n Swyddfa Myfyrwyr Anabl am ragor o wybodaeth a chefnogaeth a all fod ar gael i ymgeiswyr.
Mae gallu siarad Cymraeg yn nodwedd ddymunol yn y gofynion personol am seicolegydd clinigol dan hyfforddiant Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru, gan mai Cymraeg yw iaith gyntaf cyfran sylweddol o gleientiaid. Ystyrir felly fod siarad Cymraeg yn sgil dymunol ac felly pan fydd gan ddau ymgeisydd sgoriau tebyg (tebyg i ddau bwynt degol) yn ystod y cam llunio rhestr fer neu gyfweliad, a bod un ymgeisydd yn siaradwr Cymraeg, cynigir cyfweliad neu le hyfforddi i’r siaradwr Cymraeg.
Rydym yn defnyddio gweithredu cadarnhaol fel y caniateir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn cydnabod bod ymgeiswyr o leiafrifoedd hil a dynion heb gynrychiolaeth ddigonol yn y proffesiwn seicoleg glinigol. Mae'r ddau yn nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
I grynhoi: Os bydd gan ymgeiswyr sgôr tebyg ar y cam llunio rhestr fer neu gyfweld, yna bydd y cyfweliad neu le hyfforddi yn cael ei gynnig, yn nhrefn blaenoriaeth, i ymgeisydd sy’n siarad Cymraeg, ymgeisydd o gefndir hil, ac ymgeisydd sy’n hunaniaethu fel gwryw.
Cwestiynau Cyffredin
Dros y blynyddoedd gofynnwyd llawer o gwestiynau i ni am y rhaglen, y broses ddethol a materion eraill. Rydym wedi eu coladu ac wedi ceisio rhoi'r atebion i chi yn y Cwestiynau Cyffredin hyn.
1. Pa mor anodd yw cael lle ym Mangor?
Mae'n deg dweud bod cystadleuaeth debyg i swyddi eraill. Ar gyfer y garfan yn 2026, roedd gennym un ar bymtheg o leoedd hyfforddi. Ein nod yw cyfweld â thair gwaith cymaint o ymgeiswyr â nifer y lleoedd sydd gennym.
2. Nid oedd fy ngraddau Safon Uwch yn dda. A oes gen i gyfle realistig o gael lle ar y rhaglen hyfforddiant clinigol ym Mangor?
Nid ydym yn ystyried eich graddau Safon Uwch. Mae gennym ddiddordeb yn eich perfformiad ar lefel gradd israddedig ac, o bosibl, y tu hwnt i hynny. Byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi cyflawni o leiaf radd 2:1 ar lefel gradd. Yn anffodus, nid ydym yn ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â gradd 2:2 neu is, hyd yn oed os ydych wedi ennill gradd Meistr ychwanegol. Dim ond PhD allai wneud iawn am radd israddedig isel.
3. Ar hyn o bryd rwyf yng nghanol fy astudiaethau israddedig ac nid wyf yn siŵr a yw'n hanfodol cael gradd 2:1. Er fy mod wedi cyrraedd safon 2:1 yn y rhan fwyaf o asesiadau, gradd 2:2 a gefais mewn rhai meysydd. Os bydd hyn yn arwain at radd 2:2 yn y pen draw, a fydd fy nghyfleoedd yn gyfyngedig?
Mae ymgymryd â doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol yn heriol yn academaidd, ac rydym yn disgwyl i chi ddangos eich bod yn gallu ymdopi â'r gofynion hyn. Ystyrir tystiolaeth o lwyddiant yn yr astudiaethau israddedig yn beth cadarnhaol. Byddwn yn eich annog yn gryf i ganolbwyntio ar gael gradd 2:1 os yw hynny'n bosibl o gwbl. Gweler yr ateb i gwestiwn 2 hefyd.
Os nad yw eich gradd israddedig o safon 2:1, awgrymaf eich bod yn edrych ar wefan y Clearing House i weld meini prawf dethol rhaglenni eraill. Mae rhaglenni sy'n ystyried gradd 2:2 ynghyd â gradd Meistr. Ar raglenni eraill, gallwch sefyll arholiad mynediad, waeth beth fo dosbarthiad eich gradd israddedig.
4. Rwyf yn fyfyriwr israddedig yn fy mlwyddyn olaf ac yn awyddus i ddilyn gyrfa mewn seicoleg glinigol. Beth yw'r ffordd orau o sicrhau lle?
Mae angen i chi ganolbwyntio ar gael y radd academaidd uchaf posibl. Dyma eich blaenoriaeth os ydych chi am wneud y mwyaf o'ch cyfleoedd. Sicrhewch fod tiwtor academaidd, a fydd yn gallu darparu geirda academaidd hynod gefnogol, yn ymwybodol o'ch gwaith.
Rydym hefyd yn disgwyl i ymgeiswyr fod â phrofiad cyflogedig o weithio gyda phoblogaeth glinigol, fel y bobl y byddai seicolegydd clinigol yn eu gweld. Fel arfer, mae hyn yn golygu cael profiad cyn ac/neu ar ôl cwblhau gradd mewn seicoleg. Mae enghreifftiau o swyddi lle byddech yn debygol o gael profiad clinigol perthnasol yn cynnwys: cynorthwyydd gofal iechyd, eiriolwr iechyd meddwl, cynorthwyydd dosbarth (yn gweithio gyda phlant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol), gweithiwr cymorth iechyd meddwl, a chynorthwyydd therapi. Rydym yn ymwybodol y gall fod yn anodd cael swyddi yn y gwasanaeth iechyd. I gael y mathau hyn o swyddi, mae'n debygol y bydd angen profiad perthnasol arall arnoch. Weithiau, gall gweithio fel gwirfoddolwr fod yn gam tuag at gyflogaeth gyflogedig.
Rydym yn gofyn am o leiaf blwyddyn o waith cyflogedig, a bydd gan y rhan fwyaf o ymgeiswyr lawer mwy na hynny. Rydym yn dyfarnu pwyntiau am hyd at ddwy flynedd o waith clinigol cyflogedig.
Mae ffyrdd gwahanol o gael lle ar raglen hyfforddi glinigol. Mae gan rai ymgeiswyr gefndir clinigol yn bennaf, tra bod eraill wedi cynnal ymchwil gyda phoblogaeth glinigol.
5. Rwy'n fyfyriwr seicoleg yn y flwyddyn olaf ac mae gennyf ddiddordeb mewn dilyn gyrfa ym maes seicoleg glinigol. Cefais gyngor i wneud PhD sy'n berthnasol i faes clinigol cyn gwneud cais, gan fod y gystadleuaeth mor ffyrnig. Roeddwn i'n pendroni a ydych chi'n cytuno bod hon yn ffordd dda o symud ymlaen, yn hytrach na chael profiad fel seicolegydd cynorthwyol?
Mae PhD sy'n berthnasol i faes clinigol yn ffordd dderbyniol o gael profiad defnyddiol, a fydd wedyn yn cefnogi eich cais am hyfforddiant clinigol. Rydym yn chwilio am gyfuniad o gymhwysedd academaidd, cymhwysedd ymchwil, profiad clinigol ac ansawddau personol. Byddai PhD llwyddiannus yn golygu y gallech ddangos y ddau gyntaf, ond nid o reidrwydd yr olaf.
Sylwch nad yw PhD yn ofyniad ar gyfer hyfforddiant clinigol.
6. Rwyf newydd gwblhau gradd, ac efallai na chaiff ei chydnabod gan y BPS. A allaf barhau i ddilyn diddordeb mewn Seicoleg Glinigol?
Un o'r gofynion mynediad sylfaenol yw cael gradd sy'n cael ei chydnabod gan y BPS fel un sy'n bodloni'r 'Graduate Basis for Membership' (www.bps.org.uk/membership/). Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch statws eich rhaglen radd, dylech ymgynghori ag aelod o staff yn eich adran israddedig neu edrych ar wefan y BPS am fanylion: www.bps.org.uk/careers.
7. Mae gen i radd mewn pwnc heblaw seicoleg. Mae gen i ddiddordeb mewn ymchwil glinigol ac rwy'n pendroni pa gyfleoedd sydd ar gael i gymryd rhan yn hyn?
Mae rhaglen DClinPsy yn rhaglen hyfforddi broffesiynol ar gyfer hyfforddi seicolegwyr clinigol. Os mai ymchwil yn unig sydd o ddiddordeb i chi, gallwch gysylltu ag Adran Seicoleg Bangor i gael manylion am gyfleoedd ymchwil o fewn yr adran. Gallai hefyd fod yn werth ystyried y posibilrwydd o ddilyn rhaglen drawsnewid mewn seicoleg; gallai hyn fodloni'r gofynion ar gyfer 'Graduate Basis for Membership' gyda'r British Psychological Society (gweler cwestiwn 6). Ar ôl cwblhau rhaglen drawsnewid, byddai gennych yr opsiwn i wneud cais am hyfforddiant clinigol.
8. Pa fath o brofiad sydd gan ymgeisydd nodweddiadol?
Yn nodweddiadol, mae gan ymgeiswyr llwyddiannus fwy na 12 mis o waith cyflogedig mewn maes sy'n rhoi cyfle iddynt weithio gyda phoblogaeth glinigol debyg i'r un y mae seicolegydd clinigol yn gweithio gyda hi. Gweler cwestiwn 5 hefyd. Wrth i ni ystyried ceisiadau, nid oes angen i'r cyfnod o waith clinigol cyflogedig fod yn un di-dor. Er enghraifft, efallai eich bod wedi gweithio am 12 mis mewn swydd berthnasol yn glinigol cyn cymryd egwyl i deithio, ac yna wedi cael swydd berthnasol arall am 5 mis yn ddiweddarach. Ar gam y cais, byddai'r amser a dreuliwyd yn y ddwy swydd berthnasol hyn yn cael ei gyfuno, felly byddai'n cael ei gydnabod bod gennych 17 mis o waith cyflogedig perthnasol yn glinigol.
9. Mae gen i brofiad o ychydig flynyddoedd yn gweithio'n llawn amser ym maes iechyd meddwl, ond nid yn uniongyrchol gyda seicolegwyr clinigol. A gaiff fy nghais ei ystyried o ddifrif?
Caiff. Mae'r profiad rydych chi'n ei ddisgrifio yn swnio'n berthnasol. Nid yw cryfder eich profiad blaenorol o reidrwydd yn dibynnu ar weithio'n uniongyrchol gyda seicolegydd clinigol. Nid yw wedi gweithio'n uniongyrchol gyda seicolegydd clinigol yn faen prawf hanfodol. Fodd bynnag, hoffem i chi fod wedi gweithio o fewn fframwaith seicolegol, ac un ffordd o gyflawni hyn yw trwy weithio dan oruchwyliaeth seicolegydd clinigol. Awgrymwn eich bod yn parhau i ystyried yr agweddau seicolegol mewn unrhyw waith rydych chi'n ei wneud, hyd yn oed os nad yw'r gwaith yn canolbwyntio ar seicoleg.
10. Mae angen profiad gwaith ym maes iechyd meddwl ar rai prifysgolion neu brofiad o ymchwil clinigol. Pa un sydd orau? Rwy’n ei chael hi’n anodd iawn cael profiad gwaith perthnasol. Pa fath o brofiad gwaith sydd ei angen i fod â gobaith go lew o ymuno â’r rhaglen?
Disgwyliwn i ymgeiswyr ddangos rhywfaint o ddealltwriaeth o rôl seicoleg yn y gwaith y maent yn ei wneud. Fel arfer mae hynny’n golygu ennill profiad ar ôl cwblhau gradd mewn seicoleg. Mae angen o leiaf blwyddyn o waith taledig arnom – ond bydd gan y rhan fwyaf o ymgeiswyr lawer mwy na hynny. Yn ogystal â phrofiad clinigol yn unig, mae ymchwil neu brofiad o werthuso gwasanaeth clinigol hefyd yn werthfawr.
11. Rwy'n gwneud gwaith gwirfoddol sy'n cynnwys helpu pobl â salwch meddwl, ond rwyf newydd gael cynnig swydd fel cynorthwyydd seicolegydd. Roeddwn i'n pendroni pa swydd y byddech chi'n ei hystyried yn fwyaf ffafriol wrth edrych ar ymgeiswyr?
Mae eich gwaith gwirfoddol yn berthnasol a bydd yn fantais i'ch cais am swyddi â thâl yn y dyfodol. Rydym yn ystyried gwaith gwirfoddol wrth adolygu ceisiadau; fodd bynnag, nid yw'n faen prawf hanfodol, ac ystyrir profiad mewn swyddi gwirfoddol ar wahân i brofiad clinigol â thâl. Rydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod â phrofiad o gyflogaeth â thâl mewn proffesiwn sy'n ymwneud â helpu pobl, a byddai manteision i swydd lle mae goruchwyliaeth gan seicolegydd clinigol ar gael. Mae gwaith yn y GIG yn arbennig o werthfawr oherwydd byddai'n eich galluogi i ddeall y cyd-destun y byddwch yn gweithio ynddo yn ystod eich hyfforddiant.
12. Beth rydych chi'n chwilio amdano ymhlith ymgeiswyr o ran profiad ôl-raddedig? A fyddai'n well i mi wneud MSc ynghyd â gwaith gwirfoddol, neu a fyddai'n well treulio peth amser yn gweithio fel cynorthwyydd seicoleg neu gynorthwyydd ymchwil?
Yn gyffredinol, ni roddir mwy o bwyslais ar brofiad clinigol nac ar ymchwil glinigol. Yn ogystal â chefndir academaidd cryf, bydd angen i chi fod â phrofiad clinigol. Mae cael gradd israddedig neu radd drawsnewid dda – Dosbarth Cyntaf neu 2.1 – yn gam cyntaf pwysig. Mae cael profiad academaidd neu ymchwil pellach mewn maes sy'n gysylltiedig â chlinegiaeth ar ôl eich gradd yn sicr yn berthnasol. Mae'n debygol y byddai ymchwil anghlinigol yn llai addas, o ystyried eich bod eisoes wedi dangos eich galluoedd academaidd yn eich gradd israddedig. Gellir cael profiad uniongyrchol o weithio gyda phoblogaeth glinigol trwy ymchwil hefyd. Os yw'n anodd i chi gael swydd fel cynorthwyydd seicoleg mewn lleoliad clinigol, efallai y byddwch am ystyried cael profiad o weithio gyda phobl mewn cyd-destun clinigol arall sy'n berthnasol i seicoleg glinigol (gweler cwestiwn 4).
13. Erbyn i’r cyfweliadau gael eu cynnal, byddaf wedi ennill 6 mis o brofiad gwaith ond ar hyn o bryd dim ond ychydig wythnosau o brofiad sydd gennyf mewn rôl ofal. A oes diben imi wneud cais nawr? A fyddech chi’n gwrthod fy nghais yn syth?
Byddwn yn ystyried y profiad sydd gennych hyd at adeg gwneud y rhestr fer (sy’n tueddu i fod tua chanol mis Chwefror), bydd eich contract yn dod i ben cyn hynny. Rydym yn chwilio am o leiaf blwyddyn o brofiad mewn rôl daledig yn gweithio gyda phoblogaeth glinigol, ond mae profiadau eraill fel gweithio mewn rôl ymchwil hefyd yn cyfrannu – er enghraifft, a fuoch chi’n casglu data gydag unigolion neu grwpiau o bobl?
14. Nid chefais fy nghyflogi am dâl erioed fel seicolegydd cynorthwyol ond, ar ôl gofalu am rywun yn y teulu sydd ag iselder ysbryd, rwy’n teimlo fy mod wedi ennill cyfoeth o brofiad – a yw hyn yn cyfrif?
Mae’r rhaglen yn edrych yn gadarnhaol ar ymgeiswyr sydd â phrofiadau personol. Er nad yw profiadau o’r fath o reidrwydd yn gyfwerth â chyflogaeth broffesiynol, maent yn gwneud cyfraniad da a gallech sôn amdanynt yn natganiad personol y ffurflen gais. Fodd bynnag, bydd angen y profiad taledig perthnasol ychwanegol arnoch fel y nodir yn y cwestiynau blaenorol yn gefn i’ch cais.
15. Mae’n anodd iawn cael swyddi seicoleg cynorthwyol. Sut arall y gallaf ennill y profiad sydd ei angen?
Gwyddom ei bod hi’n anodd cael swyddi cynorthwywyr y dyddiau hyn. Fodd bynnag, nid drwy swyddi seicolegwyr cynorthwyol yn unig y mae ennill profiad. Rydym yn chwilio am brofiad taledig o weithio gyda phoblogaeth glinigol, yn debyg i brofiad seicolegydd clinigol. Gallech wneud hynny er enghraifft trwy weithio fel cynorthwyydd gofal mewn cartref gofal i bobl hŷn, gweithio gyda phobl sydd ag anabledd deallusol neu gorfforol, eiriolwr iechyd meddwl neu gynorthwyydd dosbarth. Gall swydd IAPT fod yn ddefnyddiol, yn ogystal â swyddi iechyd meddwl eraill. Yr her mewn swydd lle nad yw’r oruchwyliaeth gan seicolegydd clinigol, yw cadw ffocws ar elfen seicolegol eich gwaith.
16. Yn y gorffennol, bûm yn gweithio ym myd busnes mewn maes sydd i’w weld yn berthnasol i seicoleg glinigol. A fydd hyn yn cael ei ystyried yn berthnasol?
Gallwn ystyried bod gwaith neu brofiad busnes a chymunedol mewn proffesiwn gofalu yn berthnasol pe bai hynny’n cynnwys gweithio gyda phobl sydd hefyd o dan gylch gwaith seicolegydd clinigol. Bydd angen i chi egluro natur eich gwaith yn glir yn eich cais.
17. Rwyf wedi hyfforddi fel Seicolegydd Clinigol yn yr Eidal – a oes rhaid i mi wneud y rhaglen DClinPsy cyn y gallaf weithio yn y DU?
Ar gyfer pobl sydd wedi hyfforddi mewn seicoleg glinigol mewn mannau eraill (yn enwedig mewn gwledydd yr UE) – mae trefniadau ar waith gan y Health and Care Professions Council (HCPC), felly rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â nhw (https://www.hcpc-uk.org/).
18. Nid wyf yn ddinesydd UE. A allaf wneud cais i’r rhaglen?
Os cynigir lle i rywun ar Raglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru, mae Llywodraeth Cymru’n talu’r holl ffioedd dysgu a thelir cyflog i’r hyfforddai ac mae ganddo/ganddi statws cyflogaeth yn y Deyrnas Unedig. Ni wnaiff Llywodraeth Cymru dalu costau ffioedd ymgeiswyr sy’n gymwys i dderbyn ffioedd tramor. Mae yna raglenni eraill yn y Derynas Unedig sy’n ystyried ymgeiswyr sydd â ffyrdd eraill o ariannu eu hyfforddiant. Awgrymaf i chi fwrw golwg ar wefan y Clearing House. Oherwydd nad yw canlyniad Brexit yn glir hyd yma, rydym yn eich cyfeirio at wefan y Clearing House am fwy o wybodaeth.
19. Rwy'n ddinesydd o'r UE. A allaf wneud cais i'r rhaglen?
Oherwydd rheoliadau a chyfyngiadau ariannu Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), ni allwn dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn gymwys ar gyfer statws ffioedd cartref. Bydd ymgeiswyr o'r UE, gwledydd eraill yr AEE a'r Swistir sydd â statws preswylydd cyn-sefydledig neu statws preswylydd sefydledig yn y DU yn cael eu hystyried yn gymwys ar gyfer statws ffioedd cartref. Pan ofynnir i chi, darparwch yr holl wybodaeth angenrheidiol er mwyn cadarnhau eich statws.
20. Rwy'n poeni a oes terfyn oedran uchaf ar gyfer hyfforddiant. A fydd fy oedran yn broblem wrth geisio cael lle ar y rhaglen ac wrth geisio sicrhau gwaith wedyn?
O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, ni chaniateir i ni ddefnyddio oedran fel rhan o'n proses ddethol. Mae gennym amrywiaeth o oedrannau ymhlith yr ymgeiswyr llwyddiannus. Yn y cam llunio rhestr fer, nid ydym yn gweld gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, gan gynnwys eu hoedran.
21. Beth yw profiad ymgeiswyr Du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig wrth wneud cais am le ar y rhaglen?
Rydym yn croesawu'n fawr y syniad o bobl o ddiwylliannau a chefndiroedd amrywiol yn hyfforddi fel seicolegwyr clinigol, gan fod hynny'n adlewyrchu'r gymysgedd amlddiwylliannol ymhlith poblogaeth y DU. Rydym yn ymwybodol o'r diffyg cynrychiolaeth o bobl Ddu, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig yn y proffesiwn. Mae hyfforddeion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol wedi cwblhau eu hyfforddiant gyda ni'n llwyddiannus. Er mwyn cefnogi ymgeiswyr o grwpiau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y broses ymgeisio, rydym yn cydweithio â Rhaglen Seicoleg Glinigol De Cymru i gynnig chwech i wyth sesiwn fentora i ymgeiswyr gyda hyfforddai neu seicolegydd clinigol cymwysedig (Cefnogi). Nod y rhain yw rhoi'r cyfle i'r unigolyn ddysgu am waith seicolegydd clinigol, trafod eu gwerthoedd a'u syniadau am seicoleg (glinigol), ac archwilio llwybrau i hyfforddiant. Lle dymunir, gall ymgeiswyr hefyd archwilio eu sefyllfa a'u profiadau fel ymgeisydd o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig.
Mae gan y rhaglen bwyllgor sy'n canolbwyntio ar ostyngeiddrwydd diwylliannol, gwrth-hiliaeth, cynhwysiant a gwrth-wahaniaethu (a elwir yn ‘CARIAD’), sy'n adolygu pob agwedd ar yr hyfforddiant.
22. Mae gen i anabledd a allai ei gwneud hi’n anodd i mi gymryd rhan yn y cyfweliadau. A allech chi roi rhywfaint o gyngor imi?
Rydym yn annog ymgeiswyr sydd ag anableddau i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gael cynnig cyfweliad. Byddwn yn ymgynghori â chi fel ymgeisydd, er mwyn ceisioi gwneud unrhyw addasiadau rhesymol ar eich cyfer yn ystod y broses gyfweld.
23. Mae gen i gyflwr iechyd cronig. A fyddai hyn yn fy atal rhag gwneud cais?
Rydym yn disgwyl i bob ymgeisydd llwyddiannus gael ei asesu gan wasanaeth Iechyd Galwedigaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Os bernir eich bod yn addas i weithio fel seicolegydd clinigol dan hyfforddiant, byddwn yn ymdrechu i wneud addasiadau rhesymol i hwyluso eich hyfforddiant. Gallai hyn olygu y gallai dechrau eich hyfforddiant gael ei ohirio, er mwyn i ni allu rhoi'r addasiadau gofynnol ar waith.
24. Mae fy mhryder pennaf yn ymwneud â pha mor addas yw’r rhaglen i rywun anabl? Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw feddyliau neu sylwadau sydd gennych ar y mater hwn.
Ein nod yw rhoi cefnogaeth ymarferol i hyfforddeion sydd ag anabledd. Fodd bynnag, mae anghenion unigol pawb yn wahanol, ac yn yr achos yma awgrymwn i chi gysylltu â c.lamers@bangor.ac.uk (Tiwtor Derbyn).
25. A yw’r rhaglen yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn?
Mae safle’r brifysgol yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ac felly hefyd yr holl ystafelloedd addysgu a’r ystafelloedd adnoddau, yn ogystal â swyddfa staff y rhaglen. Rydym yn cynnal arolygon o’r lleoliadau’n rheolaidd i asesu pa leoliadau a all ddarparu mynediad i hyfforddeion sy’n defnyddio cadeiriau olwyn. Os cysylltwch â ni’n uniongyrchol, cewch yr wybodaeth ddiweddaraf gennym am hynny.
26. Sut gallaf wella fy ffurflen gais a sicrhau ei bod yn sefyll allan?
Rydym yn asesu eich ffurflen gais yn seiliedig ar amrywiaeth o agweddau, gan gynnwys camgymeriadau sillafu a gramadeg. Bydd ffurflenni sydd wedi'u llenwi'n gywir, lle mae'r cwestiynau wedi'u hateb yn unol â'r gofynion, yn rhoi argraff dda. Nid oes llawer o le ar y ffurflen gais i fynegi eich hun, felly defnyddiwch eich cyfrif nodau yn ddoeth ac ystyriwch efallai eich bod eisoes wedi rhoi rhywfaint o wybodaeth i ni mewn mannau eraill, e.e. yn yr adran profiad gwaith. Amlygwch berthnasedd eich profiad i seicoleg glinigol. Yn eich datganiad personol, hoffem glywed am eich myfyrdodau ynghylch yr hyn rydych wedi'i ddysgu o'ch gwaith academaidd a chlinigol, a/neu eich profiadau personol, yn hytrach na sgiliau penodol rydych wedi'u caffael. Gwnewch yn siŵr bob amser bod y bobl sy'n darparu eich datganiadau addasrwydd yn hollol gefnogol i'ch cais.
27. Nid wyf wedi cael cynnig cyfweliad eleni, a gaf i adborth am fy ffurflen gais?
Gallwch gysylltu â Carolien Lamers ar amser penodol a nodir yn y llythyr i gael gwybod y canlyniad. Byddem hefyd yn argymell eich bod yn edrych yn ofalus ar y Cwestiynau Cyffredin yma er mwyn i chi allu nodi’r meysydd hynny y mae gennych gryfderau a gwendidau ynddynt. Nid ydym bellach yn rhoi adborth dros y ffôn ynglŷn â cheisiadau.
28. Beth rydych chi'n chwilio amdano yn ystod y cyfweliadau?
Cofiwch nad cyfweliad ar gyfer 'swydd' draddodiadol yw hwn, lle mae angen i chi ddangos eich bod yn gallu gwneud y gwaith. Mae gennym ddiddordeb yn eich meddwl beirniadol, eich sgiliau dadansoddol a'ch gallu i drosglwyddo gwybodaeth i wahanol feysydd clinigol. Rydym am weld eich cymhwysedd i weithredu ar lefel ddoethurol. Felly, meddyliwch yn eang ac yn gynhwysfawr am y cwestiynau, a meddyliwch 'tu allan i'r bocs'. Yn ystod y cyfweliadau, rydym am gael syniad o'ch personoliaeth ac a oes gennych y sgiliau academaidd i ymdopi â'r rhaglen. Mae ein cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn awyddus i weld a allant weithio gyda chi.
29. A fyddai’n bosibl galw i mewn i gael sgwrs gyda rhywun ynglŷn â fy addasrwydd ar ryw adeg?
Credwn y gwelwch chi atebion i’r rhan fwyaf o’ch cwestiynau yn y ddogfen hon a dogfennau eraill y rhaglen fel cofnod y Clearing House a’r Llawlyfr Amgen. Os oes gennych gwestiwn penodol nad ydym wedi rhoi sylw iddo anfonwch e-bost at: c.lamers@bangor.ac.uk.
30. Beth yw'r 'Alternative Handbook'?
Mae Pwyllgor Cyswllt y DCP yn llunio ac yn cyhoeddi'r llawlyfr bob blwyddyn drwy anfon holiaduron at hyfforddeion ar bob rhaglen. Gallwch ddarllen am safbwyntiau a phrofiadau ein hyfforddeion presennol. Cymerwch olwg ar yr 'Alternative Handbook' gan y BPS.
31. Pwy fydd yn fy nghyflogi?
Cyflogir pob hyfforddai ar gontract am gyfnod penodol o dair blynedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB). Mae BCUHB yn darparu gwasanaethau iechyd acÃwt, cymunedol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i Ogledd Cymru, a’r rheiny’n cael eu darperu trwy rwydwaith o ysbytai, canolfannau iechyd a chlinigau.
32. A allaf wneud y rhaglen yn rhan-amser?
Nid ydym yn cynnig rhaglen ran-amser. Fodd bynnag, da chi cysylltwch â ni: (c.lamers@bangor.ac.uk) oherwydd gallwn eich helpu os oes gennych ofynion penodol o ran cael mynediad at y rhaglen.
33. Oes rhaid i mi weithio yng Ngogledd Cymru ar ôl i mi orffen y rhaglen?
Nod y rhaglen yw darparu seicolegwyr clinigol ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru. Mae disgwyliad cryf y bydd y rhai sy’n derbyn hyfforddiant yng Ngogledd Cymru yn cymryd swyddi efo’r Gwasanaeth Iechyd yn lleol ar ôl cymhwyso. Weithiau, mae amgylchiadau’n drech na hynny. Fodd bynnag, gobeithiwn y bydd pob hyfforddai’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd fel Seicolegwyr Clinigol cymwys.
34. Faint mae hyfforddeion yn cael eu talu?
Caiff yr hyfforddeion eu talu’n unol ag Agenda Newid gyfredol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae’r hyfforddeion ar Fand 6.
35. Faint o wyliau blynyddol a gaf?
Byddwch yn cael 27 diwrnod o wyliau’r flwyddyn, 29 ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth gyda’r GIG a 33 diwrnod ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth (ynghyd â gwyliau banc).
36. A oes unrhyw arholiadau?
Nac oes, rydym yn defnyddio amrywiaeth o waith rhaglen i asesu cymhwysedd.
37. A fyddaf o dan anfantais os na allaf siarad Cymraeg?
Oherwydd bod cyfran sylweddol o’r cleientiaid yn siarad Cymraeg, mae anogaeth gref i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg wneud cais. Ar gyfartaledd mae gennym un neu ddau o hyfforddeion Cymraeg y flwyddyn, sy’n golygu nad yw’r rhan fwyaf o’r ymgeiswyr llwyddiannus yn siarad Cymraeg. Rydym yn cynnig cefnogaeth i chi ddysgu Cymraega mynd i’r ysgol haf. Mae cyfanswm yr ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg ar draws yr holl raglenni yn parhau i fod yn isel, sef tua 1% o’r holl ymgeiswyr ledled y Deyrnas Unedig.
38. Beth yw amser dechrau a gorffen y diwrnod gwaith fel y gallaf wneud y trefniadau gofal plant cyn imi ddechrau?
Mae’r dysgu fel arfer yn dechrau am 9.30 ac yn gorffen am 5.00pm. Mae’r dysgu’n digwydd yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor. Gwneir trefniadau gweithio unigol gyda hyfforddeion pan fyddant yn cychwyn ar eu lleoliadau mewn cydweithrediad â’u goruchwylydd clinigol. Gan eich bod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae’n ofynnol i chi weithio 37.5 awr yr wythnos.
39. A gaf gyfle i ddatblygu mewn ffordd hyblyg? Hynny yw, a oes cyfleoedd i mi ddatblygu fy ngwybodaeth am feysydd sydd o ddiddordeb i mi o ran addysgu a lleoliadau?
Rydym yn ymdrechu i'ch hyfforddi mewn ystod eang o ddamcaniaethau, dulliau, ymyriadau, ymchwil a materion proffesiynol. O ran dulliau therapiwtig, rydym yn canolbwyntio ar Therapi Gwybyddol-Ymddygiadol a therapïau'r 'Drydedd Don': Therapi Ymddygiadol Dilectig, Therapi Derbyn ac Ymrwymo, Therapi sy'n Canolbwyntio ar Dosturi ac Ymarfer Systemig. Gallwch hefyd ddewis un o'n llwybrau achredu eilaidd a allai deilwra eich profiad hyfforddi i raddau.
O ran lleoliadau clinigol, byddwch yn gweithio gyda phobl ar draws pob cam o'r oes. Ystyrir dewisiadau'r hyfforddeion wrth ddyrannu'r pedwar lleoliad cyntaf. Fodd bynnag, mae nifer o ffactorau'n cael eu hystyried wrth ddyrannu lleoliadau ac efallai na fydd modd diwallu dewisiadau'r hyfforddeion. Yr eithriad i hyn yw'r pumed lleoliad (dewisol), lle mae'n aml yn bosibl diwallu dewisiadau'r hyfforddeion. Disgwylir i chi gwblhau eich holl leoliadau clinigol o fewn ardal Gogledd Cymru a Gogledd Powys.
O fewn y rhan fwyaf o'r aseiniadau academaidd, mae'r tasgau'n eich galluogi i ganolbwyntio ar faes clinigol neu bwnc sy'n berthnasol i'ch cyfnod hyfforddi a'ch diddordebau.
40. A fyddai angen i mi allu gyrru?
Er bod yr hyfforddiant yn cael ei gynnal ym Mangor, gall lleoliadau clinigol fod mewn amrywiaeth eang o leoedd ar draws Gogledd Cymru. Nid yw trafnidiaeth gyhoeddus bob amser yn ymarferol wrth orfod gwneud ymweliadau cartref ac ati. Felly, rydym yn gofyn i'n hyfforddeion fod â'u dull cludo eu hunain. Mae'r rhan fwyaf o'n hyfforddeion yn gyrru ac yn cael mynediad at gar neu gerbyd arall. Gellir gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn gallu gyrru oherwydd anabledd.
41. A fyddaf yn cael PhD ar ddiwedd yr hyfforddiant?
Bydd yr hyfforddiant i fynd yn seicolegydd clinigol yn rhoi Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol i chi. Mae hyn yn wahanol i radd PhD, sy’n radd ymchwil a geir trwy gwblhau darn o ymchwil diffiniedig, a hynny fel arfer dros gyfnod o 3 blynedd. Bydd yr hyfforddiant clinigol yn cynnwys sawl darn o waith academaidd, gan gynnwys tri phroject ymchwil. Mae’r darn cyntaf o waith yn cynnwys cynnal dadansoddiad ar set ddata fawr. Mae un project yn gweithio gyda data sy’n bodoli eisoes gan un o wasanaethau’r Bwrdd Iechyd i ateb cwestiwn sy’n ymwneud ag archwilio sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth (ac y mae’n ei gynhyrchu’n aml). Y project mwyaf yw ymchwil sy’n berthnasol yn glinigol, a gaiff ei gynllunio a’i gynnal gennych chi. Byddwch yn treulio rhyw 24 mis yn gwneud y gwaith hwnnw a bydd arholiad vice voce arno. Ar ôl cwblhau'r rhaglen, byddwch yn cael Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol (DClinPsy).
42. Ni fyddaf yn cwblhau fy ngradd PhD tan ar ôl y cyfweliadau a bydd fy Viva ar ôl i’r Rhaglen ddechrau fis Hydref. A wnewch chi ystyried fy nghais?
Byddwn yn ystyried eich cais gan ddefnyddio ein meini prawf dewis, ond ni allwn ddyfarnu pwyntiau i chi am y PhD oherwydd na fydd hwnnw wedi’i gwblhau ar yr adeg y byddwn yn llunio’r rhestr fer. Bydd angen i chi gwblhau eich PhD yn fuan iawn ar ôl dechrau eich hyfforddiant, gan na allwch fod wedi'ch cofrestru ar ddwy raglen ar yr un pryd, a bydd llwyth gwaith y DClinPsy yn cynyddu'n gyflym, gan adael ychydig iawn o amser i weithio ar eich traethawd ymchwil.
43. Pryd mae’r rhaglen yn cychwyn yn union?
Bydd y rhaglen yn dechrau ar y dydd Llun agosaf at y 1af o Hydref.
44. Mae angen geirda arnoch gan fy nghyflogwr presennol. Dim ond ers ychydig fisoedd y bûm yn gweithio gyda nhw ac rwy’n teimlo y byddai fy nghyflogwr blaenorol yn gallu rhoi geirda gwell, gan eu bod yn fy adnabod yn well. Beth hoffech imi ei wneud?
Hoffem i chi ddarparu geirda gan eich cyflogwr presennol. Cofiwch ofyn bob amser a yw’ch cyflogwr yn teimlo y gall roi geirda cefnogol i chi. Mae gan y rhan fwyaf o gyflogwyr ddigon o brofiad ac maen nhw mewn sefyllfa dda i roi geirda. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y cewch ofyn i gyflogwr blaenorol a pheidiwch ag anghofio egluro pam nad oedd eich cyflogwr presennol yn gallu darparu’r geirda.
45. Sut bydd y Rhaglen yn cysylltu â mi i roi gwybod a wyf wedi llwyddo i gael cyfweliad?
Defnyddiwn y cyfeiriad e-bost a roesoch ar ffurflen gais y Clearing House. Gwyliwch nad yw ein he-byst wedi mynd i’r ffolder sbam. Hefyd, rhowch wybod inni am unrhyw newidiadau yn eich manylion cyswllt.
Gwneud Cais
Rhaid gwneud ceisiadau am DClinPsy drwy'r .
Mae'r Tŷ Clirio i gyrsiau ôl-radd mewn seicoleg glinigol yn prosesu'r holl geisiadau i ymuno â’r rhaglen. Peidiwch â gwneud cais yn uniongyrchol i'r brifysgol.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses gwneud cais ar neu gallwch gysylltu â'n Tiwtor Dewis a Recriwtio (c.lamers@bangor.ac.uk) am wybodaeth bellach.
Sylwer: Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor
Mae DCP Pre-Qualification Group yn cynrychioli buddiannau seicolegwyr cynorthwyol a seicolegwyr clinigol dan hyfforddiant. Bob blwyddyn, gofynnir i hyfforddeion am eu barn ar wahanol agweddau ar eu cwrs, a chaiff y canlyniadau eu llunio i ffurfio'r llawlyfr amgen. Mae'r llawlyfr yn rhoi gwir flas ar bob rhaglen ac yn cynnig barn defnyddiwr am bob rhaglen, sy'n cael ei diweddaru bob blwyddyn, a gall hyn helpu ymgeiswyr benderfynu i ble i wneud cais, a pha gynnig i'w dderbyn.
Gellir cael llawlyfrau o .