Ar ôl eich sesiynau bore yn Theatr Ddarlithio Eric Sunderland (Prif Theatr Ddarlithio'r Celfyddydau), bydd gennych amser i gwrdd â'ch Tywyswyr Cyfoedion, gofyn cwestiynau am fywyd myfyrwyr a chymryd rhan mewn taith o amgylch y campws. Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i ymgyfarwyddo â'r campws, dysgu mwy am y cyfleusterau a'r lleoliadau allweddol y gallech eu defnyddio yn ystod eich astudiaethau, a chael cyngor ymarferol gan fyfyrwyr sydd eisoes yn adnabod y Brifysgol yn dda.
Yna byddwch yn cael egwyl ginio awr cyn i sesiwn y prynhawn ddechrau am 14:00. Noder na fydd cinio yn cael ei ddarparu, felly dylech ddod â'ch cinio eich hun neu ganiatáu amser i brynu bwyd yn ystod yr egwyl.