58³Ô¹Ï

Fy ngwlad:

Taliadau Ffioedd – Rhyngwladol (gan gynnwys yr UE)

TALU FFIOEDD – DYSGU A NEUADDAU 2026/2027

Bydd angen i’r rhan fwyaf o’r Myfyrwyr Rhyngwladol sydd wedi cael eu derbyn i astudio ym Mhrifysgol Bangor, ac sydd angen Llythyr Cadarnhau Derbyn i Astudio (CDA), dalu blaendal fel y pennir yn eu llythyr yn rhoi cynnig Mynediad. Ni ellir ad-dalu’r blaendal ac eithrio mewn achosion penodol (e.e. salwch a ardystiwyd). Tynnir y blaendal hwn o ffioedd dysgu blwyddyn gyntaf y myfyrwyr.

Opsiynau Talu

Gellir talu’n llawn cyn cofrestru neu wrth gofrestru.

Gall myfyrwyr dalu drwy dri randaliad, chwe neu naw rhandaliad, yn dibynnu ar eich statws myfyriwr.

  • Myfyrwyr Ôl-raddedig: 3 Rhandaliad – 50% ar neu cyn y dyddiad olaf y caniateir cofrestru; 25% erbyn 31/01/2027; 25% erbyn 30/04/2027
  • Myfyrwyr Ôl-raddedig: 9 Rhandaliad – 50% ar neu cyn y dyddiad olaf y caniateir cofrestru; 8 rhandaliad misol cyfartal o 31/01/2027 i 31/08/2027
  • Myfyrwyr Israddedig: 3 Rhandaliad – 50% ar neu cyn y dyddiad olaf y caniateir cofrestru; 25% erbyn 31/01/2027; 25% erbyn 30/04/2027
  • Myfyrwyr Israddedig: 6 Rhandaliad – 50% ar neu cyn y dyddiad olaf y caniateir cofrestru; 5 rhandaliad misol cyfartal o 31/01/2027 i 31/05/2027

Ar gyfer mynediad i'r Cwrs Cyn-Sesiwn, rhaid talu ffioedd yn llawn, naill ai ymlaen llaw neu wrth gofrestru ar raglen ELCOS. Nid oes cynllun rhandaliadau ar gael.

Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i godi llog misol o 1% ar unrhyw daliad hwyr ar ôl y dyddiad cofrestru olaf. Gellir codi llog ar daliadau hwyr yn achos rhandaliadau hefyd.

Gellir talu ffioedd llety’n llawn hefyd (gweler: Payment Method and Policy) neu drwy randaliadau cyson drwy’r broses gofrestru ar-lein.

Ôl-raddedig: 12 rhandaliad – Misol Hydref 2026 i Medi 2027 – 1af o mis

Ôl-raddedig: 3 rhandaliad – Hydref, Ionawr ac Ebrill – 08/10/2026, 14/01/2027 ac 29/04/2027

Ôl-raddedig: 7 rhandaliad – Hydref 2026 i Ebrill 2027 – diwrnod olaf y mis

Israddedig: 3 rhandaliad – Hydref, Ionawr ac Ebrill – 08/10/2026, 14/01/2027 ac 15/04/2027

Israddedig: 7 rhandaliad – Hydref 2026 i Ebrill 2027 – diwrnod olaf y mis

Gall myfyrwyr dalu drwy dri neu naw rhandaliad.

  • Myfyrwyr Ôl-raddedig: 3 Rhandaliad – 50% ar neu cyn y dyddiad olaf y caniateir cofrestru; 25% erbyn 31/01/2027; 25% erbyn 30/04/2027
  • Myfyrwyr Ôl-raddedig: 9 Rhandaliad – 50% ar neu cyn y dyddiad olaf y caniateir cofrestru; 8 rhandaliad misol cyfartal o 31/01/2027 i 31/08/2027

Gall myfyrwyr sy'n dewis cynllun rhandaliadau wneud taliadau ychwanegol ar eu cyfrif ar unrhyw adeg ond bydd angen iddynt sicrhau bod eu cynllun yn cael ei gadw'n gyfredol.

Sut i Dalu

Mae system rheoli talu ar-lein (Talu i Astudio) ar gael ym Mhrifysgol Bangor i hwyluso’r broses o dalu gwahanol ffioedd, yn cynnwys blaendaliadau, ffioedd dysgu, ffioedd cyrsiau iaith Saesneg a ffioedd llety yn eich arian lleol ac yn eich banc lleol. Gall ein darparwyr neu ein hasiantau swyddogol hefyd dalu dros grwpiau.

Cewch ragor o wybodaeth yn:/international/future/payment

Gall myfyrwyr hefyd dalu ffioedd drwy drosglwyddiad banc gan ddefnyddio’r manylion isod

Enw’r Cyfrif: Prifysgol Bangor
Enw’r Banc: Santander UK Plc
Cod didoli’r cyfrif: 09-02-22
Rhif y cyfrif: 10364019
Rhif IBAN PB: GB46ABBY09022210364019
Rhif SWIFT PB: ABBYGB2L

Rhowch eich enw llawn a’ch rhif myfyriwr wrth wneud y trosglwyddiad ac anfonwch e-bost at remittance@bangor.ac.uk (i roi gwybod am y swm a drosglwyddwyd, y dyddiad a rhif y myfyriwr).

Sylwer y gall methu â thalu eich ffioedd arwain at derfynu eich cofrestriad.

Dylech gysylltu â’r Swyddfa Gyllid cyn gynted â phosibl os ydych yn rhagweld unrhyw drafferth i dalu eich ffioedd. Bydd y Brifysgol yn codi tâl cosb am bob taliad hwyr. Fodd bynnag, rydym yn awyddus iawn i sicrhau na fyddwch yn cael costau o'r fath ac i'ch helpu mae gan y Brifysgol gynghorwr arbenigol yn yr Uned Cefnogaeth Ariannol cymorthariannol@bangor.ac.uk (01248 383637).

Am wybodaeth bellach cysylltwch gyda’r Swyddfa Gyllid trwy anfon e-bost at taliadauffioedd@bangor.ac.uk neu drwy ffonio 01248 382055 rhwng 10.00-12.30 a 1.30-4.00 dydd Llun i ddydd Gwener.