Beth Yw Swyddogaeth Llysgenhadon Llesiant Myfyrwyr?
Fel myfyrwyr presennol eu hunain, maent yn dod â mewnwelediad gwerthfawr i'r heriau y gallai eu cyfoedion eu hwynebu ac yn ein helpu i sicrhau bod ein negeseuon yn berthnasol, yn hygyrch, ac yn cael eu harwain gan fyfyrwyr.
Ffyrdd y maent yn cefnogi gwaith y Gwasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb:
- helpu i godi ymwybyddiaeth o bynciau llesiant allweddol
- cyfeirio cyfoedion at gefnogaeth
- cyfrannu at ddatblygu mentrau sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr.
Cymryd Rhan Mewn Gweithgareddau
Bydd y Llysgenhadon yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys:
- cefnogi digwyddiadau llesiant
- cyfrannu syniadau at ymgyrchoedd
- helpu i gasglu adborth myfyrwyr i wella ein gwasanaeth.
Byddant hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth greu awyrgylch croesawgar a chynhwysol mewn gweithgareddau llesiant, gweithdai, a digwyddiadau.
Mae eu cyfranogiad yn cryfhau ein gallu i gyrraedd mwy o fyfyrwyr, adeiladu cymuned, a hyrwyddo diwylliant lle mae llesiant yn cael ei flaenoriaethu a'i drafod yn agored.
Dewch yn Llysgennad Llesiant Myfyrwyr
Rydym yn recriwtio Llysgenhadon Llesiant Myfyrwyr newydd ac ychwanegol ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.
Os ydych yn frwdfrydig dros hyrwyddo llesiant myfyrwyr ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y gymuned brifysgol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Fel Llysgennad Llesiant Myfyrwyr, cewch gyfle i ddatblygu sgiliau gwerthfawr, ennill profiad o gefnogi mentrau a digwyddiadau llesiant, a gweithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Llesiant a Chynhwysiant i helpu i greu campws iachach a mwy cysylltiedig.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9:00yb, 9 Tachwedd 2026
I weld y disgrifiad rôl llawn, y fanyleb person a manylion sut i wneud cais:
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Gwawr Wyn Roberts, Ymarferydd Llesiant / Therapydd Celf drwy e-bost:
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth, anfonwch ebost atom.