Cwblhaodd Dr Matthew Rowland ei prosiect doethurol, a’r teitl ‘An Analysis of Country House Interpretation in Wales', yn 2023.
Mae gan Matthew radd BA mewn Hanes gydag Archaeoleg o Brifysgol Bangor ac MA mewn Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol o Brifysgol Efrog. Yn 2018 dychwelodd i Brifysgol Bangor i ymgymryd â'i brosiect doethuriaeth gyda Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, a gefnogwyd gan . Ymchwiliodd y prosiect i ddulliau dehongli treftadaeth mewn plastai ledled Cymru ac archwiliodd beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig i'r plastai ar draws meysydd treftadaeth a thwristiaeth. Dadleuodd eu bod yn nodwedd arwyddocaol yn nhreftadaeth ddiwylliannol Cymru, fyda'r potensial i weithredu fel canolfannau ar gyfer cyfleu naratifau pwysig am hanesion lleol, Cymreig, Prydeinig a byd-eang. Tua diwedd ei brosiect, cafodd Matthew y cyfle i rannu ei ymchwil gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol pan gafodd ei wahodd i weithdy i drafod dyfodol dehongliad y tai yn eu gofal. Gweithiodd Matthew yn rhan-amser fel Tywysydd Teithiau a Chynorthwyydd Croeso yng Nghadeirlan Caer ochr yn ochr â'i astudiaethau.
Ar ôl cwblhau ei brosiect, gweithiodd Matthew am ddwy flynedd fel Swyddog Treftadaeth i Gyngor Sir Ddinbych cyn ymuno ag fel Swyddog Digwyddiadau'r Amgueddfa. Mae'n gweithio i gynyddu nifer yr ymwelwyr a'r ymgysylltiad yn yr amgueddfa fodern hon, ar adeg pan fo straeon lleol am chwaraeon a threftadaeth yn ardal Wrecsam yn denu sylw byd-eang.