1. Codi Pryder (Datrysiad Anffurfiol)
Dylid codi pryderon yn anffurfiol yn y lle cyntaf, yn ddelfrydol o fewn ychydig ddyddiau i’r mater godi. Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Neuaddau drwy:
- E-bost: neuaddau@bangor.ac.uk
- Ffôn: 01248 382667
- Wyneb yn wyneb: Dydd Llun–Dydd Gwener, 9:00–17:00
Gellir datrys llawer o faterion ar unwaith ar y cam hwn gan aelod o staff.
2. Customer Care Process Stages
Os na ellir datrys y pryder yn anffurfiol, bydd yn dilyn y broses esgyn cam wrth gam isod:
- Cam 1: Aelod Staff Derbynfa
- Cam 2: Swyddog (Llety, Gweithrediadau neu Gymorth Preswyl)
- Cam3: Rheolwr Gwasanaethau Llety (drwy gŵyn ffurfiol)
- Cam4: Cyfarwyddwr Bywyd Myfyrwyr
- Cam5: Rheolwr Achosion Myfyrwyr (cwynion ffurfiol)
Nodiadau pwysig:
- Bydd pryderon a godir yn uniongyrchol i Gam 3 neu uwch heb fynd drwy Gam 1 neu Gam 2 yn cael eu hatgyfeirio i Gam 2.
- Os yw’r pryder yn ymwneud ag unrhyw aelod o staff, dylid ei gyfeirio at Reolwr Gwasanaethau Llety.
3. Proses Cwyn Ffurfiol
Os nad yw’r mater yn cael ei ddatrys ar ôl ymdrechion anffurfiol, gellir cyflwyno cwyn ffurfiol yn ysgrifenedig i:
Rheolwr Gwasanaethau Llety
Gwasanaethau Llety
Swyddfa’r Neuaddau
Ffordd Ffriddoedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2GP
Safonau ymateb:
- Cydnabyddiaeth o fewn 3 diwrnod gwaith
- Ymchwiliad, camau gweithredu ac ymateb ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod gwaith
Os ydych yn dal yn anfodlon â’r canlyniad, bydd manylion y broses apelio’n cael eu darparu.
4. Cynrychiolaeth Trydydd Parti
Rhaid i’r myfyriwr preswyl wneud y gŵyn ei hun. Dim ond pan fo’r myfyriwr wedi darparu caniatâd ysgrifenedig y gall rhiant, gwarcheidwad neu drydydd parti arall weithredu ar ran y myfyriwr.