Bydd yr Athro Bruce Vanstone yn ymuno ag Ysgol Busnes Bangor yr wythnos hon o Brifysgol Bond, Awstralia, fel pennaeth newydd yr ysgol.
°ä²â²Ô&²Ô²ú²õ±è;²â³¾³Ü²Ô´Ç&²Ô²ú²õ±è;â'°ù&²Ô²ú²õ±è;²ú²â»å&²Ô²ú²õ±è;²¹³¦²¹»å±ð³¾²¹¾±»å»å,&²Ô²ú²õ±è;³¦²¹´Ú´Ç»å»å&²Ô²ú²õ±è;µþ°ù³Ü³¦±ð&²Ô²ú²õ±è;²â°ù´Ú²¹&²Ô²ú²õ±è;³ó±ð±ô²¹±ð³Ù³ó&²Ô²ú²õ±è;³¾±ð·É²Ô&²Ô²ú²õ±è;»å¾±·É²â»å¾±²¹²Ô³Ù,&²Ô²ú²õ±è;²µ²¹²Ô&²Ô²ú²õ±è;·É±ð¾±³Ù³ó¾±´Ç&²Ô²ú²õ±è;³¾±ð·É²Ô&²Ô²ú²õ±è;²Ô¾±´Ú±ð°ù&²Ô²ú²õ±è;´Ç&²Ô²ú²õ±è;²µ·É³¾²Ôï²¹³Ü&²Ô²ú²õ±è;°ù³ó²â²Ô²µ·É±ô²¹»å´Ç±ô,&²Ô²ú²õ±è;²â²Ô&²Ô²ú²õ±è;´¡·É²õ³Ù°ù²¹±ô¾±²¹&²Ô²ú²õ±è;²¹'°ù&²Ô²ú²õ±è;¶Ù±ð²â°ù²Ô²¹²õ&²Ô²ú²õ±è;±«²Ô±ð»å¾±²µ.&²Ô²ú²õ±è;³Ò²¹»å²¹·É´Ç»å»å&²Ô²ú²õ±è;»å»å¾±·É²â»å¾±²¹²Ô³Ù&²Ô²ú²õ±è;¾±&²Ô²ú²õ±è;»å»å¾±±ô²â²Ô&²Ô²ú²õ±è;²µ²â°ù´Ú²¹&²Ô²ú²õ±è;²â²Ô&²Ô²ú²õ±è;²â&²Ô²ú²õ±è;²ú²â»å&²Ô²ú²õ±è;²¹³¦²¹»å±ð³¾²¹¾±»å»å,&²Ô²ú²õ±è;²µ²¹²Ô&²Ô²ú²õ±è;±ð²Ô²Ô¾±±ô±ô&²Ô²ú²õ±è;»å´Ç±ð³Ù³ó³Ü°ù¾±²¹±ð³Ù³ó&²Ô²ú²õ±è;³¾±ð·É²Ô&²Ô²ú²õ±è;³¦²â±ô±ô¾±»å&²Ô²ú²õ±è;³¦²â´Ú°ù¾±´Ú¾±²¹»å´Ç±ô&²Ô²ú²õ±è;²â²Ô&²Ô²ú²õ±è;2006.&²Ô²ú²õ±è;
Ers hynny, mae Bruce wedi ennill nifer o wobrau ymchwil a dysgu o bwys, tra’n parhau i ddysgu, gwneud ymchwil a gweinyddu ymchwil mewn swyddi academaidd. Mae gwaith Bruce yn canolbwyntio ar ddefnyddio technegau modelu rhagfynegol a yrrir gan ddata i ddatrys problemau busnes anodd. Mae wedi cymhwyso ei waith mewn meysydd mor amrywiol ag iechyd, logisteg, cyllid a marchnata. Mae ganddo ddiddordeb arbennig hefyd mewn dod o hyd i well ffyrdd o gymhwyso technegau dysgu peirianyddol a gwyddoniaeth ddata i fuddsoddi a masnachu.
Mae Bruce yn eiriolwr cryf dros wneud penderfyniadau ar sail data, partneriaethau cydweithredol, a manteision gweithleoedd wedi eu grymuso.
¸é·É²â‵µ&²Ô²ú²õ±è;±ð»å°ù²â³¦³ó&²Ô²ú²õ±è;²â³¾±ô²¹±ð²Ô&²Ô²ú²õ±è;²â²Ô&²Ô²ú²õ±è;´Ú²¹·É°ù&²Ô²ú²õ±è;²¹³Ù&²Ô²ú²õ±è;²â³¾³Ü²Ô´Ç&²Ô²ú²õ±è;â&²Ô²ú²õ±è;±è³ó°ù¾±´Ú²â²õ²µ´Ç±ô&²Ô²ú²õ±è;²õ²â»å»å&²Ô²ú²õ±è;²¹²µ&²Ô²ú²õ±è;±ð²Ô·É&²Ô²ú²õ±è;³¾´Ç°ù&²Ô²ú²õ±è;°ù³ó²¹²µ´Ç°ù´Ç±ô&²Ô²ú²õ±è;²¹³¾&²Ô²ú²õ±è;»å»å²â²õ²µ³Ü&²Ô²ú²õ±è;²¹³¦&²Ô²ú²õ±è;²â³¾³¦³ó·É¾±±ô
“Rwy’n edrych ymlaen at arwain Ysgol Busnes Bangor a gweithio mewn amgylchedd cydweithredol gyda phobl wych ar gampws hardd.
"Cefais fy nenu gyntaf i Brifysgol Bangor oherwydd ei hanes ardderchog o ddysgu ac ymchwil, ac ymrwymiad cryf i wella profiad myfyrwyr.
"Er bod Ysgol Busnes Bangor eisoes yn arweinydd ym maes addysg busnes, mae cyfleoedd newydd ar gael i dyfu yn y dyfodol bob amser, megis meysydd cynaliadwyedd a dadansoddeg data, sy'n tyfu'n gyflym. Edrychaf ymlaen at weithio gyda fy nghydweithwyr i hybu’r Ysgol Busnes a rhoi’r cyfleoedd newydd hyn ar waith.�
Ychwanegodd yr Athro Martina Feilzer, Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes:
“Rwy’n falch iawn o groesawu Bruce i’r Coleg ac yn edrych ymlaen at weithio gydag ef i adeiladu ar enw da byd-eang yr Ysgol Fusnes ac ehangu ein darpariaeth mewn addysgu ac ymchwil i feysydd hanfodol fel cynaliadwyedd a dadansoddeg data. Mae gan Ysgol Busnes Bangor gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol ac mae Bruce yn dod â'r profiad, y hanes a'r brwdfrydedd i ddwyn y rhain i rym.�