Diwrnod CAL:ON 2026
Yr wythnos hon, daeth tîm CAL:ON Cymru ynghyd ym Mhrifysgol Bangor i ddathlu ein blwyddyn academaidd gyntaf ac i edrych ymlaen at gam nesaf gwaith y Ganolfan.
Teithiodd cydweithwyr o bob cwr o Gymru, yn ogystal ag o Brifysgol Caerefrog ac OxEd & Assessment, i fyfyrio ar gerrig milltir eleni, a oedd yn cynnwys y canlynol:
- Sefydlu'r Ganolfan a ffurfio'r tîm
- Datblygu cynnig dysgu proffesiynol dwyieithog ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd
- Datblygu tair rhaglen a phrosesau ymyrraeth yn Gymraeg ac yn Saesneg ar gyfer plant oedran cynradd ac uwchradd
- Cyflwyno asesiadau ReadingScreen a LanguageScreen yn eang
- Recriwtio bron i 300 o ysgolion ledled Cymru i werthuso ein cynnig ym mis Medi eleni
- Gweithio'n agos gyda'n holl bartneriaid
Fe wnaethom hefyd drafod beth sydd o’n blaenau wrth i CAL:ON Cymru ddechrau ar ei ail flwyddyn. Bydd y cam nesaf yn cynnwys cynnal profion trylwyr o'n hadnoddau, modiwlau dysgu proffesiynol, ac asesiadau, a fydd yn cryfhau’r sylfaen dystiolaeth sy’n sail i’n pecyn cymorth llythrennedd ar gyfer ysgolion, cyn ei gyflwyno’n genedlaethol ar ôl mis Medi 2027.
Roedd y diwrnod yn gyfle gwerthfawr i fyfyrio ar raddfa a chwmpas ein cenhadaeth, dathlu'r hyn sydd wedi'i gyflawni hyd yma, a thrafod y dasg sydd o'n blaenau. Roedd hefyd yn ddiwrnod i gydnabod yr arbenigedd o fewn CAL:ON Cymru ac ymrwymiad y tîm i gefnogi ysgolion a gwella canlyniadau llythrennedd yng Nghymru.