Testun y gystadleuaeth oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 鈥楳ur | Muriau鈥. Testun y gystadleuaeth oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 鈥Mur | Muriau鈥. Y beirniaid oedd Meleri Wyn James, Iwan Rhys ac Angharad Price.
Cyflwynwyd y Fedal gan Hazel, Geralyn, ac Eirlys Non er cof am eu rhieni, Gwynfi a Megan Williams, Blaenmorw, Capel Newydd i ddiolch am fagwraeth hyfryd a鈥檜 trwytho yn y 鈥減ethe鈥, a鈥檙 wobr ariannol o 拢750, gan John a Bethan Cwmbetws. Cefnogwyd y seremoni a鈥檙 gystadleuaeth gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.
Wrth draddodi o鈥檙 llwyfan, dywedodd Meleri Wyn James: 鈥淲rth i Angharad, Iwan a finnau dderbyn y gwahoddiad i feirniadu, dwi ddim yn meddwl bod yr un ohonon ni wedi rhagweld faint o gynigion fyddai ger ein bron. Yn wir, eleni, fe ddaeth nifer iach iawn o geisiadau 鈥 28 i gyd. Roedd y tri ohonon ni鈥檔 gofyn yr un cwestiwn. Sgwn i, ydy hwn yn record ar gyfer y gystadleuaeth hon?
鈥淵n sicr, ro鈥檔 ni fel beirniaid yn teimlo ei fod yn fater o falchder. Ac ar 么l pori, darllen ac ystyried dros nifer o fisoedd, ro鈥檔 ni鈥檔 gytun 鈥 os yw cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith Eisteddfod y Garreg Las yn arwydd, yna mae dyfodol rhyddiaith Gymraeg, yn ddisglair iawn.
鈥淢aen nhw i gyd yn haeddu clod ac mae nifer fawr yn haeddu cael eu cyhoeddi. Ymhlith y rheini mae gwaith Alba, Jo Bach, Morlo, Panad, Siriol ac Y Mynyddwr, ac mae potensial i gryn nifer o gyfrolau eraill weld golau dydd, o addasu a golygu rhywfaint arnyn nhw.
鈥淎r 么l cryn drafod, fe benderfynon ni bod pedwar yn haeddu cyrraedd y dosbarth cyntaf. Y rheini, yn nhrefn yr wyddor, yw Cadno, Isha, O Bach a Pibydd. Roedd hi鈥檔 anrhydedd didoli gweithiau o safon mor uchel, roedd hefyd yn her. Ro鈥檔 ni鈥檔 tri yn gyt没n y bydden ni wedi bod yn hapus iawn i wobrwyo pob un o鈥檙 awduron yn y dosbarth cyntaf, yn ogystal 芒 sawl un arall, petai鈥檔 dod i hynny.
鈥淟longyfarchiadau twymgalon i鈥檙 pedwar awdur: mae鈥檔 gysur i ni fel beirniaid, y gallwn edrych ymlaen yn awchus at weld gwaith pob un yn cael ei gyhoeddi, i bawb allu rhyfeddu at eich dawn.
鈥淧edair cyfrol ddisglair a phob un mor wahanol...Ond un fedal sydd... beth i鈥檞 wneud felly? Do, fe fuon ni鈥檔 darllen ac yn ailddarllen, yn ystyried, yn trafod yn frwd, ac yn trafod eto wrth geisio dod i benderfyniad.
鈥淎m ei chynfas eang, ei chwareustra, a鈥檌 dyfeisgarwch, mae Medal Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn mynd i Isha. Llongyfarchiadau gwresog iawn iddyn nhw.鈥
Un o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys M么n yw Gareth. Derbyniodd ei addysg gynradd yn Ysgolion Llanbedrgoch a Goronwy Owen, Benllech, a鈥檌 addysg uwchradd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Aeth wedyn i Brifysgol Bangor i astudio am raddau BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol, Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol, a doethuriaeth a gyhoeddwyd fel llyfr yn 2022 gan Wasg Prifysgol Cymru: 鈥楳ae鈥檙 Beibl o鈥檔 tu鈥: Ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868). Cyhoeddir addasiad Saesneg o鈥檙 gyfrol yn y misoedd nesaf.
Bellach, mae鈥檔 ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, ac yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru. Mae鈥檔 parhau i lenydda, wedi cyhoeddi dwy nofel i oedolion, Eira Llwyd ac Y Cylch, cyfrol o len micro a ffotograffau, Cylchu Cymru: Llun a Llen wrth Gerdded (a enillodd Wobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2023), a chyfrol o straeon byrion i blant, Llanddafad (a enillodd wobr Dewis y Darllenwyr yng Ngwobrau Tir na-nOg 2025). Mae hefyd wedi golygu a chyd-olygu cyfrolau academaidd a chreadigol, gan gynnwysCuriadau: Blodeugerdd LHDTC+ ac Ar Amrantiad.
Enillodd Fedal Ddrama鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith (2019 a 2021), gyda rhai o鈥檙 gweithiau iddo鈥檜 sgriptio gael eu cynhyrchu, gan gynnwys Adar Papur (cynhyrchiad digidol ar YouTube), Ynys Alys (Fran Wen), a Dilyn Sgwarnog (Sioe Gynradd Eisteddfod yr Urdd Ynys Mon eleni). Mae hefyd yn barddoni a chafodd y fraint o lunio cerdd groeso Eisteddfod yr Urdd 2026.
Bydd y gyfrol ar werth ar ddiwedd y seremoni mewn siopau llyfrau ar y Maes ac ar draws Cymru.
Bydd y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd 芒 manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi鈥檙 Eisteddfod i gyd yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, a fydd ar werth yn dilyn Seremoni鈥檙 Cadeirio brynhawn Gwener.