Hannah Hawksworth Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd BSc (Anrh)
Mae���r Flwyddyn Dramor yma wedi agor fy llygaid i brofiadau newydd ac wedi fy annog i deithio a gweld beth sydd gan wledydd eraill i'w gynnig.
A gest ti sioc ddiwylliannol?
Do, yn bendant! Rwy'n meddwl mai'r sioc fawr gyntaf oedd y ffaith nad oes llawer o amrywiaeth yng Nghorea - ac roedd yn hollol amlwg i bawb yn syth fy mod yn dod o wlad arall. Mae Seoul yn fwy rhyngwladol, ond mae���r rhan fwyaf o bobl yn Sejong yn dod o Gorea. Roeddwn hefyd wedi synnu bod y gymdeithas yn parchu���r gyfraith i���r fath raddau. Mae rhai siopau yng Nghorea yn rhai hunan-wasanaeth yn unig, gan mai prin yw���r achosion o ddwyn o siopau. Yn yr un modd, pe baech yn gadael eich ff繫n neu waled mewn caffi, neu'n eu colli yn rhywle, fyddai neb wedi mynd 璽 nhw. Gallai eich ff繫n fod ar y palmant am ddyddiau heb gael ei ddwyn. Mae'n ymddangos bod gan bobl yma fwy o barch o lawer at eiddo pobl eraill.
Sut mae wythnos arferol ym Mhrifysgol Corea Sejong yn edrych?
Mae fy nosbarthiadau fel arfer yn cael eu cynnal o ddydd Llun i ddydd Iau, gydag ychydig oriau o amser dosbarth bob dydd. Ar un diwrnod, mae gen i ddosbarth Diwylliant Corea, 3 awr o hyd, ac yna 2 awr o iaith Corea. Mae'r dosbarthiadau eu hunain wedi bod yn hynod ddiddorol. Mae dosbarthiadau fy nghyrsiau diwylliant ac iaith Corea���n cynnwys myfyrwyr cyfnewid yn unig, ond fi yw'r unig berson nad yw'n dod o Gorea yn fy nosbarthiadau eraill. Nid oeddwn yn teimlo���n gartrefol o gwbl i ddechrau, ond rwyf wedi dod i arfer erbyn hyn. Y tu hwnt i'r dosbarth, rwy'n treulio amser yn astudio yn un o'r nifer o gaffis ger y campws, sy'n boblogaidd ymysg myfyrwyr. Rwy���n treulio fy mhenwythnosau���n ymweld ag atyniadau a dinasoedd eraill yng Nghorea. O dro i dro, mae���r brifysgol yn mynd 璽 ni ar daith dosbarth i Seoul am benwythnos, yn rhad ac am ddim.
Beth rwyf wedi���i ennill
Rwyf yn sicr wedi datblygu fel person yn ystod fy nghyfnod yma. Mae wedi bod yn her go iawn ceisio ymgartrefu mewn gwlad newydd sydd 璽 rhwystr iaith sylweddol. Nid oes llawer o bobl yn siarad Saesneg yn Sejong, felly rwyf wedi gorfod dod i arfer 璽 cheisio siarad Cor禱eg mor aml 璽 phosibl. Yn ogystal 璽 bod yn iaith anodd i���w dysgu, mae peidio 璽 deall rhywun sy���n siarad Cor禱eg 璽 mi o hyd yn peri straen. Diolch i���r drefn am apiau cyfieithu!
Mae'r profiad hwn wedi fy helpu i ddysgu bod yn annibynnol, yn ogystal 璽 sut i ymdopi 璽 bywyd a byw mewn gwlad newydd, er gwaethaf y rhwystr iaith. Rwyf hefyd wedi cael gweld sut beth yw cael fy nhrochi mewn diwylliant gwahanol. Mae���n ddiddorol sylwi ar y gwahaniaethau bach, hyd yn oed, rhwng Corea a���r Deyrnas Unedig. Mae���r Flwyddyn Dramor hon wedi agor fy llygaid i brofiadau newydd, ac wedi codi blys arnaf i deithio ac archwilio���r hyn sydd gan wledydd eraill i���w gynnig.
Paratoi ar gyfer y Flwyddyn Profiad Tramor
Ewch ati i ymchwilio���n drylwyr i���r wlad y byddwch yn ymweld 璽 hi. Er enghraifft, mae dysgu ychydig o ymadroddion a geiriau allweddol yn yr iaith frodorol yn dangos eich bod yn gwrtais ac yn gwneud ymdrech, yn hytrach na disgwyl i bawb siarad Saesneg. Mae hefyd yn bwysig dysgu rhai arferion a moesau lleol. Er enghraifft, yng Nghorea, mae���n gwrtais gwyro mymryn ar eich pen pan fyddwch yn cwrdd 璽 phobl newydd er mwyn dangos parch, neu wrth roi neu dderbyn eitemau, eich bod yn defnyddio���r ddwy law i afael yn y gwrthrych. Enghraifft arall yng Nghorea sy'n hynod bwysig yw defnyddio iaith ffurfiol wrth siarad ag unrhyw un sy���n h韁n na chi. Mae gan iaith Corea sawl lefel o ffurfioldeb, sy'n hanfodol os nad ydych eisiau ymddangos yn anghwrtais wrth gyfathrebu.
Yn ail, paratowch eich arian yn dda. Lluniwch gynllun bras o gostau ar gyfer y flwyddyn, ond cofiwch gynnwys mwy yn eich cyllideb. Efallai y bydd angen arian ychwanegol ar gyfer gweithgareddau neu deithiau nad ydych wedi���u cynllunio. Mae hefyd yn syniad da cadw ���cronfa frys��� o'r neilltu cyn dechrau ar eich Blwyddyn Profiad Rhyngwladol. Fe wnes i���n si霾r fy mod wedi cadw arian wrth gefn, rhag ofn y byddai argyfwng, fel fy mod yn gallu hedfan yn 繫l i���r Deyrnas Unedig yn gyflym pe bai angen.