Amgylchedd a diwylliant ymchwil
Mae amgylchedd ymchwil cadarnhaol, cynhwysol a chefnogol yn helpu ymchwilwyr i ffynnu ac yn cefnogi ymchwil ragorol.
Rydym yn cefnogi ymchwilwyr ar bob cam o’u gyrfa drwy gyfleoedd datblygu, hyfforddiant, rhwydweithiau a digwyddiadau. Mae ein gwaith yn hyrwyddo ymchwil gyfrifol, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ymchwil agored, datblygiad proffesiynol a lles ymchwilwyr.
Mae’r dudalen hon yn cyflwyno’r mentrau, yr adnoddau a’r cyfleoedd sy’n helpu i gryfhau ein hamgylchedd a’n diwylliant ymchwil.