Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i greu amgylchedd ymchwil cefnogol lle gall ymchwilwyr ddatblygu eu gyrfaoedd a gwireddu eu potensial. Fel un o lofnodwyr y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr, rydym yn gweithio gydag ymchwilwyr, rheolwyr a chydweithwyr ar draws y Brifysgol i roi ei egwyddorion ar waith.
Ar y dudalen hon
- #ynglyn-ar-concordat-datblygu-ymchwilwyr
- #tair-egwyddor-y-concordat
- #grwp-datblygu-ymchwilwyr-ar-concordat
- #aelodaeth-y-grwp
Ynglŷn â'r Concordat Datblygu Ymchwilwyr
Mae'r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr, a elwir yn aml yn Goncordat Datblygu Ymchwilwyr, yn gytundeb ledled y Deyrnas Unedig sy'n ceisio gwella amgylchedd a diwylliant, cyflogaeth, a datblygiad proffesiynol a gyrfaol ymchwilwyr.
Mae'n nodi disgwyliadau a chyfrifoldebau clir ar gyfer:
- ymchwilwyr
- rheolwyr ymchwilwyr
- sefydliadau ymchwil
- cyllidwyr ymchwil.
Mae Prifysgol Bangor yn un o lofnodwyr y Concordat. Drwy lofnodi'r Concordat, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ei egwyddorion ac adolygu ein cynnydd.
Tair egwyddor y Concordat
Mae'r Concordat Datblygu Ymchwilwyr yn seiliedig ar dair egwyddor.
- Amgylchedd a diwylliant
Mae ymchwil ragorol yn gofyn am ddiwylliant ymchwil cefnogol a chynhwysol.
Mae'r egwyddor hon yn canolbwyntio ar greu amgylcheddau ymchwil lle mae ymchwilwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu trin yn deg a'u cefnogi i wneud eu gwaith gorau.
- Cyflogaeth
Dylai ymchwilwyr gael eu recriwtio, eu cyflogi a'u rheoli o dan amodau sy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau.
Mae hyn yn cynnwys arferion recriwtio a chyflogaeth teg, rheolaeth effeithiol a chydnabod gwaith ymchwilwyr.
- Datblygiad proffesiynol a gyrfaol
Mae datblygiad proffesiynol a gyrfaol yn hanfodol i helpu ymchwilwyr i wireddu eu potensial.
Mae ymchwilwyr, eu rheolwyr a'u sefydliadau yn rhannu'r cyfrifoldeb dros gefnogi datblygiad proffesiynol a darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a gyrfaoedd.
Grŵp Datblygu Ymchwilwyr a'r Concordat
Mae'r Grŵp Datblygu Ymchwilwyr a'r Concordat yn helpu Prifysgol Bangor i weithredu ac ymwreiddio egwyddorion y Concordat.
Sefydlwyd y grŵp yn 2015 ac mae'n dwyn ynghyd ymchwilwyr, cynrychiolwyr academaidd, ymchwilwyr ôl-raddedig a chydweithwyr gwasanaethau proffesiynol o bob rhan o'r Brifysgol.
Mae'r grŵp yn cyfarfod bob chwarter ac yn adrodd yn uniongyrchol i Bwyllgor Ymchwil y Brifysgol o dan ei Gylch Gorchwyl. Rhennir cofnodion y cyfarfodydd â Phwyllgorau Ymchwil y Colegau hefyd.
Aelodaeth y grŵp
Mae aelodaeth y grŵp yn cynrychioli gwahanol gamau gyrfa ymchwilwyr, meysydd academaidd a gwasanaethau proffesiynol ar draws Prifysgol Bangor.
- Cadeirydd: Dr Emily Holmes, Darllenydd, Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
- Dr Whitney Fleming, Cymrawd Ymchwil, Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol
- Dr Julie Webb, Swyddog Ymchwil Ôlddoethurol, Ysgol Gwyddorau Eigion
- Dr Kat Ford, Cymrawd Ymchwil, Ysgol Gwyddorau Iechyd
- Dr Will Hardy, Cymrawd Ymchwil, Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
- Dr Sam Jones, Darlithydd, Ysgol Seicoleg
- Dr Margiad Williams, Darlithydd, Ysgol Addysg Gogledd Cymru
- Dr Shaun Evans, Darlithydd, Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau
- Dr Ritesh Mohun, Darlithydd, Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg
- Dr Elis Dafydd, Darlithydd, Ysgol y Gymraeg
- Sudeshika Durayalage, Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas, Cynrychiolydd Ymchwilwyr Ôl-raddedig
- Subhan Zahid Nazir, Coleg Meddygaeth ac Iechyd, Cynrychiolydd Ymchwilwyr Ôl-raddedig
- Lucas Le Brun, Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Cynrychiolydd Ymchwilwyr Ôl-raddedig
- Marc Duggan, Llyfrgellydd Cymorth Academaidd, Tîm Cefnogi Llwyddiant Myfyrwyr, Addysgu a Dysgu
- Dr Alison Wiggett, Rheolwr Datblygu Ymchwilwyr ac Ymchwilwyr Ôl-raddedig, Swyddfa Ymchwil Bangor
- Mari Ellis Roberts, Swyddog AD (Datblygu Staff), Adnoddau Dynol